{"id":90285,"date":"2019-08-08T11:13:44","date_gmt":"2019-08-08T10:13:44","guid":{"rendered":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=90285"},"modified":"2019-08-08T11:13:44","modified_gmt":"2019-08-08T10:13:44","slug":"cymdogion-ar-wahan-barddoniaeth-gynnar-yn-gymraeg-ac-yn-saesneg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cymdogion-ar-wahan-barddoniaeth-gynnar-yn-gymraeg-ac-yn-saesneg\/","title":{"rendered":"Cymdogion ar wah\u00e2n: Barddoniaeth gynnar yn Gymraeg ac yn Saesneg"},"content":{"rendered":"<figure style=\"width: 215px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"\/?p=76886\"><img loading=\"lazy\" class=\"\" src=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/wp-content\/themes\/uwp-website\/jackets\/9781786833983.jpg\" width=\"215\" height=\"339\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-caption-text\"><strong><a href=\"\/?p=76886\"><em>Dissonant Neighbours: Narrative Progress in Early Welsh and English Poetry<\/em><\/a>, gan David Callander<\/strong><\/figcaption><\/figure>\n<p><strong>Gan David Callander, awdur\u00a0<a href=\"\/?p=76886\"><em>Dissonant Neighbours:\u00a0Narrative Progress in Early Welsh and English Poetry<\/em><\/a>.<\/strong><\/p>\n<p>Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ysgolheigion wedi dangos diddordeb cynyddol yn amlieithrwydd yr Oesoedd Canol. Mae astudio llyfrau a thestunau amlieithog, sy\u2019n nodwedd gyffredin ddigon o lawysgrifau canoloesol, wedi esgor ar lawer o waith newydd a chyffrous, ac wedi braenaru\u2019r tir ar gyfer astudiaethau pellach. Mae ymchwil rhyng-ieithyddol yn gallu awgrymu bod traddodiadau llenyddol yn cael eu llunio gan agosrwydd daearyddol yn ogystal \u00e2 iaith. Mae barddoniaeth gynnar yn Gymraeg a Saesneg yn herio\u2019r model hwn ac yn gwneud inni feddwl ymhellach am y berthynas rhwng iaith, daearyddiaeth a llenyddiaeth. Er eu bod nesaf at ei gilydd ar y map, mae\u2019r traddodiadau barddonol hyn yn wahanol mewn ffyrdd aneirif, ac mae hyn yn arbennig o glir yn y gwahanol ffyrdd y mae barddoniaeth Gymraeg a Saesneg yn rhoi naratif ar waith yn yr Oesoedd Canol cynnar. Dyma y mae <em>Dissonant Neighbours<\/em> yn ceisio ei astudio a\u2019i esbonio.<\/p>\n<p>Yn draddodiadol, tybir nad oes unrhyw naratif o gwbl mewn barddoniaeth gynnar Gymraeg, ond rwy\u2019n dangos bod naratif i\u2019w gael yn y cerddi hyn \u2013 er efallai nad yr union fath o naratif y disgwyliem. Mae barddoniaeth Hen Saesneg, mewn gwrthgyferbyniad, yn gyforiog o naratif, ac felly hefyd farddoniaeth Saesneg Canol cynnar, er nad yw\u2019r tuedd naratif yr un mor gyson yno. Ond nid oes undod i\u2019r naratif Saesneg hwn. Mae barddoniaeth Hen Saesneg yn cynnwys naratifau dyfodol sy\u2019n hollol wahanol i\u2019w naratifau gorffennol; yn wir, mae\u2019r amrywiaeth naratif yma yn ddibynnol ar bwnc y farddoniaeth yn y ddwy lenyddiaeth, yn nodwedd y mae\u2019r llyfr yn ceisio ei datgelu. Mae beirdd Cymraeg a Saesneg ill dau yn y cyfnod hwn yn creu barddoniaeth sy\u2019n dra gwahanol (er nad o reidrwydd yn agosach i\u2019w gilydd) o ran arddull os ydyn nhw\u2019n disgrifio brwydrau neu\u2019n darlunio Dydd y Farn. Mae\u2019r astudiaeth gymharol hon, yn hytrach na cheisio uno\u2019r traddodiadau, yn anelu at gynnig gwell trosolwg o briod nodweddion y ddau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gan David Callander, awdur\u00a0Dissonant Neighbours:\u00a0Narrative Progress in Early Welsh and English Poetry. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ysgolheigion wedi dangos diddordeb cynyddol yn amlieithrwydd yr Oesoedd Canol. Mae astudio llyfrau a thestunau amlieithog, sy\u2019n nodwedd gyffredin ddigon o lawysgrifau canoloesol, wedi esgor ar lawer o waith newydd a chyffrous, ac wedi braenaru\u2019r tir ar gyfer<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cymdogion-ar-wahan-barddoniaeth-gynnar-yn-gymraeg-ac-yn-saesneg\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":90281,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/90285"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=90285"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/90285\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/90281"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=90285"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=90285"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=90285"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}