{"id":80606,"date":"2018-10-31T09:57:32","date_gmt":"2018-10-31T09:57:32","guid":{"rendered":"http:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=80606"},"modified":"2018-11-05T15:59:53","modified_gmt":"2018-11-05T15:59:53","slug":"cymraeg-yn-y-gweithle","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cymraeg-yn-y-gweithle\/","title":{"rendered":"Cymraeg yn y Gweithle"},"content":{"rendered":"<figure style=\"width: 236px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"\/?p=59378\"><img loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/uwp.celfapps.com\/wp-content\/themes\/uwp-website\/jackets\/9781786832764.jpg\" alt=\"\" width=\"236\" height=\"369\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-caption-text\"><strong><a href=\"\/?p=59378\"><em>Cymraeg yn y Gweithle<\/em><\/a> gan\u00a0Rhiannon Heledd William<\/strong>s<\/figcaption><\/figure>\n<p><strong>Gan Rhiannon Heledd Williams, awdur\u00a0<a href=\"\/?p=59378\">Cymraeg yn y Gweithle<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p>Pan astudiais i am radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth dros ddegawd yn \u00f4l, doedd dim s\u00f4n am \u2018Gymraeg Proffesiynol\u2019 na \u2018Chymraeg yn y gweithle.\u2019 Roedd yr un peth yn wir am brifysgolion eraill yng Nghymru. Ond yn y blynyddoedd diweddar, wrth i adrannau wynebu argyfwng recriwtio myfyrwyr i astudio\u2019r Gymraeg fel pwnc gradd, enillodd y teitlau hyn eu plwyf wrth i\u2019r trywydd newydd ddod yn rhan annatod o\u2019r ddisgyblaeth.<\/p>\n<p>Defnyddiwyd y term yn wreiddiol gan brifysgol Morgannwg ychydig flynyddoedd yn \u00f4l wrth sefydlu cwrs \u2018Cymraeg Proffesiynol\u2019 yn canolbwyntio ar Gymraeg cyfoes mewn cyd-destun galwedigaethol. Ei fwriad oedd arfogi myfyrwyr \u00e2 sgiliau cyflogadwyedd, o ystyried y galw cynyddol am unigolion dwyieithog a allai ddefnyddio\u2019r Gymraeg yn broffesiynol. Dyma\u2019r cwrs a etifeddais gan fy rhagflaenydd wrth fy mhenodi\u2019n ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol De Cymru maes o law. Gyda Phrifysgol Aberystwyth yn sefydlu cwrs \u2018Cymraeg Proffesiynol\u2019 hefyd, penderfynwyd y dylem ddilysu cwrs newydd sbon yn dwyn y teitl \u2018Cymraeg yn y gweithle.\u2019 Yn yr un modd, ei nod oedd paratoi myfyrwyr at y byd gwaith trwy ddatblygu sgiliau iaith ymarferol. Fodd bynnag, wrth imi ddechrau llunio maes llafur ar gyfer y gwahanol fodiwlau, buan y sylweddolais mai prin iawn oedd yr adnoddau yn y maes hwn ac, yn sgil strategaethau iaith Llywodraeth Cymru a\u2019r safonau iaith, credais felly bod angen llawlyfr yn cynnig canllawiau iaith a fyddai\u2019n cyd-fynd \u00e2\u2019r twf mewn swyddi yn gofyn am sgiliau dwyieithog.<\/p>\n<p>Prif nod y gyfrol yw dangos bod y Gymraeg yn hyfyw ac yn addas i\u2019w defnyddio mewn ystod eang o swyddi. Wedi\u2019r cwbl, mae hyd yn oed siaradwyr Cymraeg cynhenid weithiau\u2019n dioddef o ddiffyg hyder gyda Chymraeg ffurfiol. Rwy\u2019n nabod sawl un sy\u2019n dweud pethau fel \u2018Mae\u2019n rhaid imi ddarllen y llythyr yma\u2019n Saesneg achos dw i ddim yn ei ddeall yn Gymraeg.\u2019 O\u2019r herwydd, teimlais fod angen cyfrol i ddangos y Gymraeg fel endid deinamig y gellir ei defnyddio mewn sefyllfaoedd a sectorau amrywiol. Roedd ymchwil gyda chyflogwyr hefyd yn awgrymu bod graddedigion yn aml yn dechrau eu gyrfaoedd heb y sgiliau priodol. Y gobaith yw y bydd y gyfrol yn cyfrannu at ddatblygu sgiliau sy\u2019n werthfawr i gyflogwyr, megis dadansoddi, cyfathrebu, gweithio\u2019n annibynnol a chydweithio. Mae\u2019r gyfrol yn cynnwys cyfarwyddiadau, tasgau, pwyntiau trafod ac enghreifftiau mewn penodau sy\u2019n edrych ar y broses recriwtio, y byd gwaith ac ymarfer proffesiynol.<\/p>\n<p><em>Mae Rhiannon Heledd Williams yn Arbenigwraig Materion Cymreig yn Nh\u0177\u2019r Cyffredin. Hi yw awdur y gyfrol Cyfaill Pwy o\u2019r Hen Wlad? a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2017.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gan Rhiannon Heledd Williams, awdur\u00a0Cymraeg yn y Gweithle. Pan astudiais i am radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth dros ddegawd yn \u00f4l, doedd dim s\u00f4n am \u2018Gymraeg Proffesiynol\u2019 na \u2018Chymraeg yn y gweithle.\u2019 Roedd yr un peth yn wir am brifysgolion eraill yng Nghymru. Ond yn y blynyddoedd diweddar, wrth i adrannau wynebu argyfwng<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cymraeg-yn-y-gweithle\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":80610,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/80606"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=80606"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/80606\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/80610"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=80606"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=80606"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=80606"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}