{"id":74613,"date":"2018-06-07T10:18:06","date_gmt":"2018-06-07T09:18:06","guid":{"rendered":"http:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=74613"},"modified":"2018-06-07T10:36:36","modified_gmt":"2018-06-07T09:36:36","slug":"performing-wales-people-memory-and-place","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/performing-wales-people-memory-and-place\/","title":{"rendered":"Performing Wales: People, Memory and Place"},"content":{"rendered":"<figure style=\"width: 242px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"\/?p=57454\"><img loading=\"lazy\" class=\"\" src=\"http:\/\/uwp.celfapps.com\/wp-content\/themes\/uwp-website\/jackets\/9781786832429.jpg\" width=\"242\" height=\"379\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-caption-text\"><strong><a href=\"\/?p=57454\"><em>Performing Wales: People, Memory and Place<\/em><\/a><\/strong><\/figcaption><\/figure>\n<p><strong>Gan Lisa Lewis, awdur <em><a href=\"\/?p=57454\">Performing Wales: People, Memory and Place<\/a>.<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Beth mae trafod diwylliant yn nhermau perfformiad yn ei gynnig i ni? Sut mae\u2019r fath ddadansoddiad yn ein helpu i ddeall a chyfryngu\u2019r profiad o ddiwylliant cyfrwng Cymraeg?<\/p>\n<p>Yn <em>Performing Wales: People, Memory and Place<\/em> ceir trafodaeth ar bedair agwedd ar ymarfer diwylliannol \u2013 yn yr Amgueddfa, trwy gyfrwng Treftadaeth, mewn G\u0175yl a thrwy Theatr \u2013 trafodaeth sy\u2019n dadansoddi\u2018r agweddau hyn yn nhermau perfformiad. Gall dealltwriaeth o\u2019r modd y ffurfir perfformiadau diwylliannol o\u2019r fath fod yn ddefnyddiol er mwyn lleisio hunaniaethau o berspectif a ddiffinnir yn aml fel un \u2018ymylol\u2019 (mewn perthynas \u00e2 hegemoni\u2019r \u2018canol\u2019). Bwriad y llyfr hwn yw dehongli\u2019r cyfryw berfformiadau fel rhai allweddol i\u2019n diwylliant, sydd o bosibl yn ymateb ac yn ymestyn y tu hwnt i\u2019w safle, ond sydd hefyd yn cyfryngu syniadau canolog yngl\u0177n \u00e2 phwy ydym fel Cymry Cymraeg o ganol ein profiad ninnau fel safle ddiffiniadol.<\/p>\n<p>Dewisiais drafod hyn yn Saesneg yn y llyfr fel bod modd cyfryngu\u2019r drafodaeth hon gyda chynulleidfa ehangach. Hyd yn oed oddi mewn i Gymru, mae\u2019r byd uniaith Saesneg yn aml yn anghofio bodolaeth y Gymraeg oddi mewn i ddisg\u1e83rs ddiwylliannol yngl\u0177n \u00e2 diwylliant Cymreig. Yr hyn all ddigwydd wrth drafod natur y profiad cyfrwng Cymraeg o ddiwylliant trwy gyfrwng iaith arall yw bod telerau\u2019r profiad sy\u2019n ddealladwy i Gymry Cymraeg (er mor amrywiol yw hwnnw) yn newid. Try\u2019r awydd i amlygu profiad goblygedig yn broses o ddadelfennu haenau o brofiad a gymerir yn ganiataol fel rhan annatod o ddiwylliant \u2018cynhenid\u2019. Y gobaith o hyd yw na fydd y profiad yn cael ei leihau wrth ei rannu.<\/p>\n<p>Ond mae hon yn drafodaeth sy\u2019n dadansoddi diwylliant yn nhermau perfformiad. A pheth digon gwydn yw perfformiad yn ei hanfod, er waethaf ei fyrhoedledd a\u2019i natur dros dro \u2013 mae bron pob amlygiad ohono yn ddigwyddiad torfol, cymdeithasol sy\u2019n clymu pobl ynghyd. A gwneir hynny drosodd a thro, yn batrwm parhaus o greu a chynnal diwylliant mewn ffyrdd newydd.\u00a0 Mae\u2019r modd y gwneir hyn trwy gyfrwng perfformiad yn amlygu pethau penodol iawn am y ffyrdd yr ydym yn diffinio lle (yn lleol ac yn nhermau Cenedl), yn cofio am ein hanes, ac yn mynegi pwy ydym fel Cymry.<\/p>\n<p><em>Mae Lisa Lewis yn Ddarllenydd mewn Astudiaethau Theatr a Pherfformio ac yn Bennaeth yr Adran Ddrama yn yr Atrium, Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd, Prifysgol De Cymru.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gan Lisa Lewis, awdur Performing Wales: People, Memory and Place. Beth mae trafod diwylliant yn nhermau perfformiad yn ei gynnig i ni? Sut mae\u2019r fath ddadansoddiad yn ein helpu i ddeall a chyfryngu\u2019r profiad o ddiwylliant cyfrwng Cymraeg? Yn Performing Wales: People, Memory and Place ceir trafodaeth ar bedair agwedd ar ymarfer diwylliannol \u2013 yn<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/performing-wales-people-memory-and-place\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":74609,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/74613"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=74613"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/74613\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/74609"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=74613"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=74613"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=74613"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}