{"id":64291,"date":"2018-04-12T09:27:13","date_gmt":"2018-04-12T08:27:13","guid":{"rendered":"http:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=64291"},"modified":"2018-04-12T09:27:13","modified_gmt":"2018-04-12T08:27:13","slug":"cyfres-o-dan-sylw-safbwyntiau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cyfres-o-dan-sylw-safbwyntiau\/","title":{"rendered":"Cyfres o dan sylw: Safbwyntiau"},"content":{"rendered":"<p>Cyfres yw hon sy\u2019n cynnig golwg annisgwyl a dadlennol ar rai o bynciau canolog astudiaethau gwleidyddol a diwylliannol Cymru a thu hwnt; o ffasgaeth i sosialaeth, o ethnigrwydd i rywioldeb, ac o iaith i grefydd.<\/p>\n<figure style=\"width: 192px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"\/?p=20232\"><img loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/uwp.celfapps.com\/wp-content\/themes\/uwp-website\/jackets\/9781783162338.jpg\" alt=\"\" width=\"192\" height=\"300\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-caption-text\"><a href=\"\/?p=20232\"><em><strong>Pam Na Fu Cymru<\/strong><\/em><\/a><\/figcaption><\/figure>\n<p><strong><a href=\"\/?p=20232\"><em>Pam na fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg<\/em><\/a><\/strong><\/p>\n<p><strong>Awdur: Simon Brooks<\/strong><\/p>\n<p>Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Oes Cenedlaetholdeb, llwyddodd y rhan fwyaf o wledydd bychain Ewrop i feithrin mudiadau cenedlaethol llwyddiannus a fynnai warchod eu hieithoedd. Un o gwestiynau mawr hanes Cymru yw pam na ddigwyddodd hyn yn y wlad hon.<\/p>\n<p>Pwyslais gwlatgarwyr Cymreig ar ryddfrydiaeth a radicaliaeth sy\u2019n gyfrifol am y diffyg. Mae rhyddfrydiaeth yn hyrwyddo hunaniaethau mwyafrifol, ac mae\u2019n rhan ganolog yng Nghymru o hegemoni Prydeindod. Roedd Cymru\u2019r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn fwy rhyddfrydol nag odid yr un wlad arall yn Ewrop. Yn groes i\u2019r dybiaeth gyffredin mai peth llesol oedd hyn i genedlaetholdeb Cymreig, dangosir yn Pam Na Fu Cymru mai hyn oedd yr union reswm am ei fethiant.<\/p>\n<p>&#8216;Boed i lyfr arloesol Simon Brooks ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr i faes cwbl ganolog yn ein hanes.&#8217; &#8211; Athro Emeritws Robin Okey, O&#8217;r Pedwar Gwynt, Nadolig 2016<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<figure style=\"width: 175px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"\/?p=19889\"><img loading=\"lazy\" src=\"http:\/\/uwp.celfapps.com\/wp-content\/themes\/uwp-website\/jackets\/9780708326503.jpg\" alt=\"\" width=\"175\" height=\"275\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-caption-text\"><a href=\"\/?p=19889\"><em><strong>\u2018Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru\u2019\u00a0<\/strong><\/em><\/a><\/figcaption><\/figure>\n<p><a href=\"\/?p=19889\"><em><strong>\u2018Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru\u2019: Plaid Cymru a&#8217;r Cyhuddiad o Ffasgaeth<\/strong><\/em><\/a><\/p>\n<p><strong>Awdur: Richard Wyn Jones<\/strong><\/p>\n<p>Ers degawdau clywyd cyhuddiadau cyson o du Cymry uchel eu parch fod cenedlaetholwyr Cymreig wedi cydymdeimlo \u00e2 Ffasgaeth yn ystod dyddiau duon y 1930au a\u2019r Ail Ryfel Byd \u2013 cyhuddiad a fyddai\u2019n pardduo enw unrhyw elyn gwleidyddol. Yn y gyfrol arloesol hon, mae sylwebydd gwleidyddol amlycaf Cymru yn pwyso a mesur gwirionedd y cyhuddiadau. Yn ogystal \u00e2 bwrw goleuni newydd ar agweddau Plaid Cymru a\u2019i harweinwyr yn ystod y cyfnod hanesyddol dan sylw, mae\u2019r llyfr yn cyflwyno trafodaeth heriol ar natur diwylliant gwleidyddol y Gymru gyfoes.<\/p>\n<p>&#8220;Dehongliad treiddgar a thrylwyr mewn arddull afaelgar a chyhyrog o destun sydd wedi corddi a chythruddo gwleidydiaeth Cymru am ddegawdau&#8221; Guto Harri, Gyfarwyddwr Cyfathrebu News International, cyn Gohebydd gwleidyddol gyda&#8217;r BBC<\/p>\n<p>&#8220;Campwaith o gyfrol sy&#8217;n claddu am byth un o gelwyddau mwyaf dinistriol y ddisgwrs wleidyddol Gymreig&#8221; Adam Price, cyn aelod Plaid Cymru, ymgynhorwr i Leanne Wood<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyfres yw hon sy\u2019n cynnig golwg annisgwyl a dadlennol ar rai o bynciau canolog astudiaethau gwleidyddol a diwylliannol Cymru a thu hwnt; o ffasgaeth i sosialaeth, o ethnigrwydd i rywioldeb, ac o iaith i grefydd. Pam na fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg Awdur: Simon Brooks Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Oes Cenedlaetholdeb, llwyddodd<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cyfres-o-dan-sylw-safbwyntiau\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/64291"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=64291"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/64291\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=64291"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=64291"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=64291"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}