{"id":58459,"date":"2018-01-05T12:45:51","date_gmt":"2018-01-05T12:45:51","guid":{"rendered":"http:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=58459\/"},"modified":"2018-01-05T12:48:13","modified_gmt":"2018-01-05T12:48:13","slug":"cyfres-o-dan-sylw-gwyddonwyr-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cyfres-o-dan-sylw-gwyddonwyr-cymru\/","title":{"rendered":"Cyfres o dan sylw: Gwyddonwyr Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae Gwyddonwyr Cymru yn cynnig llyfrau ysgolheigaidd wedi\u2019u hysgrifennu mewn ffordd hygyrch am wyddonwyr o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad mawr ac arwyddocaol, yn y gorffennol a\u2019r presennol, at ddatblygiadau ac arloesedd gwyddonol. Bu tueddiad yn hanesyddol i gyfyngu\u2019r syniad o ddiwylliant Cymreig i\u2019r hyn a gynhyrchwyd gan ei hawduron, ei beirdd, ei cherddorion a\u2019i diwinyddion; bydd y gyfres hon yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r dybiaeth honno ac yn dangos cyfraniad hynod arwyddocaol ei gwyddonwyr ar raddfa fyd-eang. Mae awduron y cyfrolau bywgraffyddol hyn yn arbenigwyr ar eu pwnc, a chyflwynir y gwaith mewn ffordd sy\u2019n fywiog ac yn hygyrch, gan edrych ar y bobl y tu \u00f4l i\u2019r wyddoniaeth, gyda\u2019r y cynnwys gwyddonol yn cael ei esbonio\u2019n eglur i ddarllenwyr sydd ag ychydig neu ddim gwybodaeth am wyddoniaeth.<\/p>\n<p>Os hoffech archebu unrhyw un o\u2019r llyfrau, dilynwch y dolenni isod.<\/p>\n<p><em><strong><a href=\"\/?p=39551\">Evan James Williams: Ffisegydd yr Atom<\/a><\/strong><\/em>, gan Rowland Wynne (Clawr Meddal, eLyfr)<br \/>\nDyma gyfrol sy\u2019n rhoi darlun o fywyd a gwaith y ffisegydd o Gymro, yr Athro Evan James Williams, g\u0175r a gafodd ei ddisgrifio fel un o\u2019r gwyddonwyr mwyaf galluog a welodd Cymru erioed ac fe\u2019i cydnabyddid fel arbrofwr dyfeisgar a damcaniaethwr disglair. Cymerodd ran flaenllaw yn y chwyldro a ddigwyddodd yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif gyda datblygiad ffiseg cwantwm. Cydweithiodd gyda\u2019r arloeswyr (nifer ohonynt yn enillwyr gwobr Nobel) a gwnaeth gyfraniad nodedig ym maes gwrthdrawiadau atomig ac yn narganfyddiad gronyn elfennol newydd. Ym 1939, ymunodd yn y dasg o ddiddymu bygythiad dinistriol llongau tanfor a chyflawnodd waith gorchestol. Amlygir ei alluoedd di-gymar yn y gyfrol hon, a chyflwynir yn ogystal ddarlun o gymeriad hoffus a thwymgalon na gollodd ei ymlyniad na\u2019i gariad tuag at fro ei febyd a\u2019i diwylliant.<\/p>\n<p><a href=\"\/?p=39428\"><em><strong>William Robert Grove: Victorian Gentleman of Science<\/strong><\/em><\/a>, gan Iwan Rhys Morus (Clawr Caled, Clawr Meddal, eLyfr)<br \/>\nMae\u2019r llyfr hwn yn rhoi bywgraffiad hygyrch ac awdurdodol o\u2019r gwyddonydd Cymreig amryddawn, William Robert Grove. Roedd Grove yn ffigwr pwysig a dylanwadol iawn yng ngwyddoniaeth Oes Fictoria. Rhychwantodd ei yrfa fel gwyddonydd a bargyfreithiwr blaenllaw y cyfnod hwn, a chawareodd r\u00f4l hanfodol hefyd yn y mudiad i ddiwygio\u2019r Gymdeithas Frenhinol. Mae\u2019r bywgraffiad hwn yn gosod gyrfa a chyfraniadau Grove yn eu cyd-destun, gan dalu sylw yn arbennig i r\u00f4l bwysig diwylliant diwydiannol Cymreig mewn ffurfio ei safbwynt gwyddonol. Newidiodd lle gwyddoniaeth mewn diwylliant yn radical yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chwaraeodd Grove ei hun ran allweddol yn rhai o\u2019r trawsffurfiadau hyn. Gall edrych ar ei fywyd gwyddonol, serch hynny, wneud mwy na amlygu gyrfa wyddonol unigol \u2013 gall gynnig ffordd o ennill mewnwelediadau newydd i\u2019r newidiadau ym myd gwyddoniaeth Fictoraidd. .<\/p>\n<p><em><strong><a href=\"\/?p=20170\">Robert Recorde: Tudor Scholar and Mathematician<\/a><\/strong><\/em>, gan Gordon Roberts (Clawr Caled, Clawr Meddal, eLyfr)<br \/>\nCymro oedd Robert Recorde a anwyd yn Ninbych-y-pysgod oddeutu 1512, a chafodd ei addysg yn Rhydychen a Chaergrawnt. Mae\u2019r llyfr hwn, sy\u2019n fywgraffiad manwl o\u2019r ysgolhaig Tuduraidd, yn bwrw golwg ar agweddau niferus ar ei yrfa ryfeddol o amrywiol a\u2019i fywyd, oedd yn un trasig yn y pen draw. Mae\u2019n cyflwyno darlun cyfoethog, manwl a chyflawn o Robert Recorde y dyn, y diwinydd a\u2019r academydd prifysgol, y meddyg, y mathemategydd a\u2019r seryddwr, yr hynafiaethydd, ac awdur gwerslyfrau hynod lwyddiannus. Arweiniodd penodiadau gan y goron at wrthdaro rhwng Recorde ag Iarll Penfro, cynllwyniwr o fri, gan arwain maes o law at ddod benben \u00e2\u2019r Frenhines Mari I. Fel g\u0175r deallusol oedd ar goll yn llwyr ym myd cynllwynio gwleidyddol, ac at ei glustiau mewn cythrwfl crefyddol, yn y pen draw ildiodd Recorde i\u2019r we o beryglon a gaeodd amdano nad oedd dianc rhagddi.<\/p>\n<p><strong>Golygyddion y Gyfres:<\/strong>\u00a0Yr Athro Gareth Ffowc Roberts, Prifysgol Bangor; Yr Athro John V. Tucker, Prifysgol Abertawe; Yr Athro Iwan Rhys Morus, Prifysgol Aberystwyth<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Gwyddonwyr Cymru yn cynnig llyfrau ysgolheigaidd wedi\u2019u hysgrifennu mewn ffordd hygyrch am wyddonwyr o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad mawr ac arwyddocaol, yn y gorffennol a\u2019r presennol, at ddatblygiadau ac arloesedd gwyddonol. Bu tueddiad yn hanesyddol i gyfyngu\u2019r syniad o ddiwylliant Cymreig i\u2019r hyn a gynhyrchwyd gan ei hawduron, ei beirdd, ei cherddorion a\u2019i<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cyfres-o-dan-sylw-gwyddonwyr-cymru\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":58467,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/58459"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=58459"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/58459\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/58467"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=58459"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=58459"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=58459"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}