{"id":47049,"date":"2017-09-18T14:07:46","date_gmt":"2017-09-18T13:07:46","guid":{"rendered":"http:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=47049\/"},"modified":"2017-09-18T14:07:46","modified_gmt":"2017-09-18T13:07:46","slug":"y-blaned-mawrth-yn-siarad-iaith-y-bobl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/y-blaned-mawrth-yn-siarad-iaith-y-bobl\/","title":{"rendered":"Y Blaned Mawrth yn Siarad Iaith y Bobl"},"content":{"rendered":"<p><em>Gwasg Prifysgol Cymru\u2019n cyfrannu at gyhoeddiad gan gyrch gweithredol NASA sy\u2019n rhoi sylw i\u2019r Gymraeg<\/em><\/p>\n<p>Gyda delweddau artistig o lechweddau sy\u2019n erydu, crateri ardrawiadau, tirweddau pegynol anghyffredin, eirlithriadau a lluniau rhyfeddol o ddisgyniad chwilwyr fel y Phoenix Lander a Labordy Gwyddoniaeth Mawrth, mae cyhoeddiad newydd gan Wasg Prifysgol Arizona yn gwahodd y darllenydd ar daith weledol ar draws arwyneb y blaned Mawrth.<\/p>\n<p>Mae<em> Mars: The Pristine Beauty of the Red Planet<\/em> yn cynnwys yn agos at 200 o ffotograffau sydd wedi\u2019u dewis yn ofalus o blith delweddau a dynnwyd gan gamera HiRISE (<em>High Resolution Imaging Science Experiment<\/em>) dan arweiniad Prifysgol Arizona, sydd wedi bod yn cylchu Mawrth ar Gylchwr Rhagchwilio Mawrth NASA ers 2006. Yn cyd-fynd \u00e2 phob delwedd fanwl, ceir capsiynau eglurhaol sy\u2019n amrywio mewn 24 o ieithoedd gwahanol, gan gynnwys y Gymraeg.<\/p>\n<p>Paratowyd y cyhoeddiad a\u2019i destun gan Alfred McEwen, prif ymchwilydd prosiect HiRISE, Candice Hansen-Koharcheck, dirprwy brif ymchwilydd HiRISE, ac Ari Espinoza, cydlynydd allgymorth HiRISE. Ffrwyth The BeautifulMars Project yw\u2019r gyfrol er hybu\u2019r syniad bod gwybodaeth am y blaned Mawrth yn eiddo i bawb.<\/p>\n<p>Fel rhan o\u2019r prosiect, mae gwirfoddolwyr o bedwar ban byd yn cyfieithu\u2019r capsiynau i 24 iaith ar gyfer y miloedd o ddelweddau o\u2019r camera HiRISE \u2013 y camera mwyaf pwerus \u00e2 chydraniad uchel a anfonwyd at blaned arall erioed \u2013 a dyma\u2019r unig adnodd gan NASA sy\u2019n defnyddio\u2019r Gymraeg. Mae rhai o\u2019r delweddau hyn nawr wedi\u2019u dethol ar gyfer y cyhoeddiad, sy\u2019n gyfrol unigryw yn deillio o gyrch gweithredol NASA.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 chapsiynau Cymraeg, mae\u2019r prosiect yn cynnwys dyfyniadau o farddoniaeth Gymraeg ac allan o nifer o gyfrolau Gwasg Prifysgol Cymru (GPC) yn y gyfres Writers of Wales.<\/p>\n<p>Fel rhan o hyrwyddiad y prosiect ac i ddathlu\u2019r cyhoeddiad cyntaf erioed gan gyrch gweithredol NASA i ddefnyddio\u2019r Gymraeg, ymwelodd y cydawdur Ari Espinoza \u00e2 Chymru a chyfarfod \u00e2 staff GPC i gyflwyno copi o\u2019r cyhoeddiad i Brifysgol Cymru a phobl Cymru ar ran Prifysgol Arizona a\u2019r prosiect. Yn gyfnewid, cyflwynodd GPC gopi iddo o <em>Wyddoniadur Cymru<\/em>. Yn ystod ei amser yng Nghymru, bu Ari hefyd yn cymryd rhan yng Ng\u0175yl Wyddoniaeth Abertawe, ac ymwelodd ag Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd lle bu\u2019n siarad gyda myfyrwyr TGAU a Safon Uwch.<\/p>\n<p>Wrth s\u00f4n am y prosiect, a chynnwys y Gymraeg fel rhan ohono, dywedodd Ari:<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n fraint i ni gael defnyddio iaith y Nefoedd ar gyfer disgrifio rhywbeth yn y Nefoedd.\u201d<\/p>\n<p>Yn ysbryd \u2018camera\u2019r bobl ar y blaned Mawrth\u2019, caiff yr holl ddelweddau a anfonir yn \u00f4l i\u2019r Ddaear eu cyhoeddi ar wefan HiRISE. Ceir ffrwd twitter o\u2019r cyrch hefyd, sydd \u00e2 fersiwn Cymraeg \u2013 @HiRISEWelsh<\/p>\n<p>Ceir rhagor o wybodaeth am The BeautifulMars Project a HiRISE ar y wefan \u2013 <a href=\"https:\/\/www.uahirise.org\/epo\/\">https:\/\/www.uahirise.org\/epo\/<\/a><\/p>\n<p>Mae\u2019r cyhoeddiad <em>Mars: The Pristine Beauty of the Red Planet<\/em> ar gael mewn siopau llyfrau ac ar-lein \u2013 <a href=\"http:\/\/www.uapress.arizona.edu\/Books\/bid2683.htm\">http:\/\/www.uapress.arizona.edu\/Books\/bid2683.htm<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gwasg Prifysgol Cymru\u2019n cyfrannu at gyhoeddiad gan gyrch gweithredol NASA sy\u2019n rhoi sylw i\u2019r Gymraeg Gyda delweddau artistig o lechweddau sy\u2019n erydu, crateri ardrawiadau, tirweddau pegynol anghyffredin, eirlithriadau a lluniau rhyfeddol o ddisgyniad chwilwyr fel y Phoenix Lander a Labordy Gwyddoniaeth Mawrth, mae cyhoeddiad newydd gan Wasg Prifysgol Arizona yn gwahodd y darllenydd ar daith<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/y-blaned-mawrth-yn-siarad-iaith-y-bobl\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":47046,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/47049"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=47049"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/47049\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/47046"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=47049"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=47049"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=47049"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}