{"id":46753,"date":"2017-08-21T12:14:46","date_gmt":"2017-08-21T11:14:46","guid":{"rendered":"http:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=46753\/"},"modified":"2017-08-21T12:14:46","modified_gmt":"2017-08-21T11:14:46","slug":"eisteddfod-genedlaethol-2017","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/eisteddfod-genedlaethol-2017\/","title":{"rendered":"Eisteddfod Genedlaethol 2017"},"content":{"rendered":"<p>Bu Gwasg Prifysgol Cymru yn bresennol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol \u2013 a gynhaliwyd ym Modedern, Sir F\u00f4n rhwng y 4ydd a\u2019r 12fed o Awst \u2013 unwaith eto eleni. Agorodd y Wasg siop am yr wythnos ym mhabell Prifysgol Cymru, gyda channoedd o lyfrau Cymraeg a Chymreig ar werth. Roedd llawer o\u2019n hawduron hefyd ar y maes, yn rhoi amrywiaeth o sgyrsiau a darlithiau difyr i gyflwyno eu llyfrau diweddaraf.<\/p>\n<ul>\n<li>Trafododd Simon Brooks a Huw Lloyd Williams Brexit, Ewrop, sosialaeth a chenedlaetholdeb mewn sgwrs ar ddyfodol y genedl Gymreig. Cyhoeddodd y Wasg lyfr Simon Brooks, <em><a href=\"\/?p=39488\">Why Wales Never Was: The Failure of Welsh Nationalism<\/a>, <\/em>ym mis Mehefin eleni.<\/li>\n<li>Bu Anwen Jones, golygydd y gyfrol newydd <a href=\"\/?p=39422\"><em>Perfformio\u2019r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards <\/em><\/a>ac un o\u2019r cyfranwyr, Roger Owen, yn trafod yr amrywiol agweddau o waith Hywel Teifi Edwards sy\u2019n cael eu harchwilio yn y gyfrol hon.<\/li>\n<li>Cadeiriodd M. Wynn Thomas sgwrs rhyngddo a Jason Walford Davies, Jerry Hunter a Sioned Williams ar ddwy lenyddiaeth Cymru, yn dilyn cyhoeddi ei gyfrol ddiweddaraf o draethodau, <a href=\"\/?p=39555\"><em>All that is Wales <\/em><\/a>ym mis Mai.<\/li>\n<li><a href=\"\/?p=39467\"><em>Williams Pantycelyn <\/em><\/a>gan Saunders Lewis, a ail argraffwyd gan GPC yn 2016 gyda rhagarweiniad manwl newydd D. Densil Morgan, oedd pwnc seiat rhwng Morgan, E. Wyn James, T. Robin Chapman a Thudur Hallam.<\/li>\n<li>Lansiwyd <em><a href=\"\/?p=39551\">Evan James Williams<\/a>, <\/em>cyfrol ddifyr a dadlennol ar un o ffisegwyr mwyaf pwysig Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Trafododd yr awdur, Rowland Wynne, y dyn a\u2019i waith mewn sgwrs gydag un o olygyddion cyfres Gwyddonwyr Cymru, Gareth Ffowc Roberts.<\/li>\n<li>Cyflwynodd awduron <a href=\"\/?p=39568\"><em>Cristnogaeth a Gwyddoniaeth <\/em><\/a>eu cyfrol newydd a\u2019i hymdriniaeth \u00e2 rhai o\u2019r cwestiynau dyrys a chymhleth o fewn diwinyddiaeth Gristnogol mewn perthynas \u00e2 gwyddoniaeth gyfoes.<\/li>\n<li>Cyflwynodd Rhiannon Heledd Williams ei llyfr newydd <a href=\"\/?p=39432\"><em>Cyfaill Pwy o\u2019r Hen Wlad: Gwasg Gyfnodol Gymraeg America 1838-66<\/em><\/a>, gyda E. Wyn James mewn trafodaeth ddiddorol ar y Wasg Gymreig yn yr Unol Daleithiau.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Diolch yn fawr iawn i bawb a fu\u2019n rhan o raglen Eisteddfod lwyddiannus arall, ac i bawb a ddaeth trwy\u2019r mwd i ymweld \u00e2\u2019n stondin.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bu Gwasg Prifysgol Cymru yn bresennol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol \u2013 a gynhaliwyd ym Modedern, Sir F\u00f4n rhwng y 4ydd a\u2019r 12fed o Awst \u2013 unwaith eto eleni. Agorodd y Wasg siop am yr wythnos ym mhabell Prifysgol Cymru, gyda channoedd o lyfrau Cymraeg a Chymreig ar werth. Roedd llawer o\u2019n hawduron hefyd ar<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/eisteddfod-genedlaethol-2017\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":46698,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/46753"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=46753"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/46753\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/46698"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=46753"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=46753"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=46753"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}