{"id":45553,"date":"2017-07-20T14:18:36","date_gmt":"2017-07-20T13:18:36","guid":{"rendered":"http:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=45553\/"},"modified":"2017-07-20T14:24:04","modified_gmt":"2017-07-20T13:24:04","slug":"her-a-hawl-cyfieithu-dramau-saunders-lewis-samuel-beckett-a-moliere","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/her-a-hawl-cyfieithu-dramau-saunders-lewis-samuel-beckett-a-moliere\/","title":{"rendered":"Her a Hawl Cyfieithu Dram\u00e2u: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moli\u00e8re"},"content":{"rendered":"<p><strong>Gan Rhianedd Jewell, awdur\u00a0<a href=\"\/?p=39429\"><em>Her a Hawl Cyfieithu Dram\u00e2u: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moli\u00e8re<\/em><\/a><\/strong><\/p>\n<p>Pan es i am gyfweliad i astudio Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Rhydychen, rhoddwyd dau fersiwn o\u2019r un testun imi eu darllen ymlaen llaw: y naill yn y Ffrangeg a\u2019r llall yn y Saesneg. Roedd yn rhaid imi benderfynu pa un oedd y gwreiddiol a pha un oedd y cyfieithiad. Darganfyddais yn y pen draw mai darnau gan Samuel Beckett oedd y ddau ac felly, mewn ffordd, doedd dim ateb cywir i\u2019r cwestiwn hwn gan fod Beckett wedi ailysgrifennu nifer o\u2019i weithiau ei hun yn y ddwy iaith. Nid cyfieithiadau oedden nhw mewn gwirionedd, ond testunau newydd. Dydw i ddim yn cofio pa un y dewisais i, ond rwy\u2019n gwybod fy mod wedi newid fy meddwl wrth drafod y pwnc yn ystod y cyfweliad, a dyma oedd dechrau fy niddordeb mewn astudiaethau cyfieithu \u2013 ac, mewn ffordd, dechrau\u2019r prosiect hwn. Yn fy mlwyddyn olaf ar y cwrs, dywedodd yr un darlithydd wrthyf fod Saunders Lewis wedi cyfieithu drama enwocaf Beckett i\u2019r Gymraeg, a lluniais astudiaeth o\u2019r cyfieithiad <em>Wrth Aros Godot <\/em>ar gyfer fy nhraethawd estynedig. Dyma agor drws ar agwedd hollol newydd i\u2019r dramodydd, gwleidydd ac awdur a oedd eisoes mor adnabyddus yng Nghymru, a theimlais reidrwydd arnaf i ddatblygu\u2019r gwaith ymhellach.<\/p>\n<p>Er mai <em>Doctor er ei Waethaf<\/em>, drama Moli\u00e8re, yw\u2019r unig gyfieithiad cyflawn arall a luniodd Saunders, wrth ymchwilio gwelais fod cyfieithu ac addasu yn ffurfio rhan hanfodol bwysig o\u2019i ddatblygiad fel llenor ac fel unigolyn. Mae ei ddiddordeb yn niwylliant a llenyddiaeth Ffrainc yn ganolog i hyn, wrth gwrs, ac mae dylanwad ei waith darllen yn y Ffrangeg i\u2019w weld drwy lawer o\u2019i waith ysgrifennu gwreiddiol. Ond am hynny, mae hi\u2019n anodd iawn tynnu llinell daclus rhwng gwaith \u2018gwreiddiol\u2019 Saunders a\u2019i waith cyfieithu ac addasu. Mae\u2019r gyfrol hon yn archwilio pwysigrwydd cyfieithu i Saunders ac i\u2019r theatr Gymraeg, ac mae\u2019n ystyried cwestiynau am y ffin aneglur sy\u2019n bodoli rhwng cyfieithu a chyfansoddi. I ba raddau, tybed, y byddwn i wedi baglu mewn cyfweliad wrth dderbyn cyfieithiad gan Saunders Lewis? Un peth sy\u2019n sicr yw bod Saunders y cyfieithydd yn haeddu sylw\u2019r gynulleidfa Gymraeg.<\/p>\n<p><em>Ieithydd ac academydd yw Rhianedd Jewell. Mae ei chefndir ym maes ieithoedd modern, ac mae hi\u2019n darlithio mewn Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.<\/em><\/p>\n<p><strong>Os hoffech brynu\u2019r gyfrol hon, ewch i dudalen y llyfr yma:\u00a0<a href=\"\/?p=39429\">https:\/\/www.gwasgprifysgolcymru.org\/book\/her-a-hawl-cyfieithu-dramau-paperback\/\u00a0<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gan Rhianedd Jewell, awdur\u00a0Her a Hawl Cyfieithu Dram\u00e2u: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moli\u00e8re Pan es i am gyfweliad i astudio Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Rhydychen, rhoddwyd dau fersiwn o\u2019r un testun imi eu darllen ymlaen llaw: y naill yn y Ffrangeg a\u2019r llall yn y Saesneg. Roedd yn rhaid imi benderfynu pa un<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/her-a-hawl-cyfieithu-dramau-saunders-lewis-samuel-beckett-a-moliere\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":45559,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/45553"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=45553"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/45553\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/45559"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=45553"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=45553"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=45553"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}