{"id":44147,"date":"2017-06-28T12:31:57","date_gmt":"2017-06-28T11:31:57","guid":{"rendered":"http:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=44147\/"},"modified":"2017-06-29T14:49:15","modified_gmt":"2017-06-29T13:49:15","slug":"evan-james-williams-ffisegydd-yr-atom","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/evan-james-williams-ffisegydd-yr-atom\/","title":{"rendered":"Evan James Williams: Ffisegydd yr Atom"},"content":{"rendered":"<p><strong>Gan Rowland Wynne, awdur <a href=\"\/?p=39551\">Evan James Williams:\u00a0Ffisegydd yr Atom<\/a><\/strong><\/p>\n<p>Un bore, tra ar wyliau yn Copenhagen, penderfynodd ffrind a minne osgoi llwybrau poblogaidd y twristiaid ac ymweld ag archif ym mhrifysgol y brifddinas. I\u2019r rhai sy\u2019n ymddiddori mewn gwyddoniaeth, mae\u2019r archif yn Copenhagen yn un hynod iawn oherwydd ei bod yn gartref i bapurau a gohebiaeth y cawr o ffisegydd Niels Bohr, hwn a fu\u2019n un o arweinwyr y chwyldro ddigwyddodd yn ystod degawdau cyntaf y ganrif ddiwethaf ym myd ffiseg. Clywsom i Niels Bohr ohebu gyda thri Cymro, a buom yn ddigon ffodus i gael gweld y llythyron. O\u2019r tri Cymro, roedd gohebiaeth un ohonynt gryn dipyn yn fwy swmpus na\u2019r ddau arall, a hynny oherwydd iddo dreulio blwyddyn gyfan yn gweithio gyda Bohr yn y brifysgol yn Copenhagen. Ei enw oedd Evan James Williams \u2013 a\u2019r bore hwnnw i mi oedd dechrau\u2019r daith a arweiniodd at gyhoeddi\u2019r cofiant ohono eleni.<\/p>\n<p>Pwy oedd Evan James Williams? Yn \u00f4l Syr John Meurig Thomas, y cemegydd enwog o Gymro, E. J. Williams oedd un o\u2019r bobl mwyaf galluog a gynhyrchodd Cymru erioed \u2013 a hawdd deall hynny o ddod i wybod am ei yrfa. Yn ystod y 1920au a\u2019r 1930au, bu\u2019n gweithio\u00a0 gyda rhai o brif ffisegwyr y cyfnod, a daeth yn arbenigwr rhyngwladol ar wrthdrawiadau atomig. Trwy ei allu fel damcaniaethwr ac arbrofwr bu ar flaen y gad yn narganfyddiad gronyn elfennol newydd, cam hollbwysig yn natblygiad syniadau ynghylch y grymoedd sydd y tu mewn i\u2019r nwiclews. Yna, ym 1940, fe\u2019i gwahoddwyd i ymuno yn yr ymgyrch ryfel i wrthsefyll bygythiadau llongau tanfor yr Almaen. Yn wahanol i ymchwil\u00a0 sylfaenol y ffisegydd, ei gyfrifoldeb adeg y rhyfel oedd datblygu strategaethau ar gyfer ymosod ar y llongau tanfor trwy gyfrwng dulliau ystadegol. O ganlyniad, daeth yn un o arloeswyr cynnar gwyddor ymchwil gweithredol (<em>operational research<\/em>). Llwyddwyd i orchfygu\u2019r llongau tanfor ond, ag yntau ar fin ailgydio yn ei waith ymchwil ar ddiwedd y rhyfel, cafodd ei daro\u2019n wael a bu farw yn ddwy a deugain mlwydd oed.<\/p>\n<p>Yn ymhlyg \u00e2 stori E. J. Williams mae cyffro\u2019r cyfnod a\u2019r newidiadau pellgyrhaeddol oedd ar droed ym myd ffiseg, a\u2019r cymeriadau hynod a symbylodd y cyffro hwnnw. Mae\u2019r cofiant yma iddo nawr yn gyfle i ddathlu bywyd athrylith o Gymro o gefn gwlad Ceredigion, crwt direidus, g\u0175r bywiog a hoffus ac un a arhosodd yn driw i\u2019w fro a\u2019i febyd.<\/p>\n<p><em>Mae Rowland Wynne yn ysgolhaig annibynnol gyda chefndir mewn ffiseg. Sbardunwyd ei ddiddordeb yn Evan James Williams gan ymweliad ag Archif Niels Bohr ym Mhrifysgol Copenhagen.<\/em><\/p>\n<p>Os hoffech brynu\u2019r gyfrol hon, ewch i dudalen y llyfr yma: <a href=\"\/?p=39551\">https:\/\/www.gwasgprifysgolcymru.org\/book\/evan-james-williams-paperback\/<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gan Rowland Wynne, awdur Evan James Williams:\u00a0Ffisegydd yr Atom Un bore, tra ar wyliau yn Copenhagen, penderfynodd ffrind a minne osgoi llwybrau poblogaidd y twristiaid ac ymweld ag archif ym mhrifysgol y brifddinas. I\u2019r rhai sy\u2019n ymddiddori mewn gwyddoniaeth, mae\u2019r archif yn Copenhagen yn un hynod iawn oherwydd ei bod yn gartref i bapurau a<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/evan-james-williams-ffisegydd-yr-atom\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":44156,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/44147"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=44147"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/44147\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/44156"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=44147"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=44147"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=44147"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}