{"id":43802,"date":"2017-06-15T11:49:05","date_gmt":"2017-06-15T10:49:05","guid":{"rendered":"http:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=43802\/"},"modified":"2017-06-15T11:49:05","modified_gmt":"2017-06-15T10:49:05","slug":"cristnogaeth-a-gwyddoniaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cristnogaeth-a-gwyddoniaeth\/","title":{"rendered":"Cristnogaeth a Gwyddoniaeth"},"content":{"rendered":"<p><strong>gan Noel A. Davies a T. Hefin Jones, awduron\u00a0<em><a href=\"\/?p=39568\">Cristnogaeth a Gwyddoniaeth<\/a><\/em><\/strong><\/p>\n<p><strong>Noel A. Davies<br \/>\n<\/strong>Fy wythnos gyntaf yn Ysgol Ramadeg Llambed. Ar yr amserlen: \u2018science\u2019. A doeddwn i ddim wedi clywed y gair o\u2019r blaen! Mynd i\u2019r wers gynta (ffiseg, os wy\u2019n cofio\u2019n iawn). Ffeindio\u2019r cyfan braidd yn annisgwyl, ond roeddwn yn dda mewn mathemateg ac felly fe lwyddais i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r pynciau newydd hyn yn raddol bach. Dilyn llwybr gwyddonol drwy\u2019r cwricwlwm ar gyfer lefel \u2018O\u2019 a lefel \u2018A\u2019 wedi symud i Ysgol Ramadeg y Garw, ym Mhontycymer, a chael y dasg mewn gwers Swoleg o ddadlau \u2013 braidd yn anfoddog \u2013 dros stori\u2019r creu yn Genesis ac yn erbyn Damcaniaeth Esblygiad Darwin! Dyna ddechre arni!<\/p>\n<p>Yna mynd i Fangor i astudio Cemeg, gyda Biocemeg a Gwyddor y Pridd. Tra yno, ymdeimlo \u00e2 galwad i\u2019r weinidogaeth Gristnogol, a derbyn cyfarwyddyd cadarn iawn gan y Prifathro Gwilym Bowyer mai glynu at y pynciau gwyddonol y dylwn wneud gan fod angen gweinidogion, meddai\u2019r Prifathro, a fyddai\u2019n deall y meddwl gwyddonol cyfoes.<\/p>\n<p>Wedi graddio ym Mangor, mynd i Goleg Mansfield yn Rhydychen i astudio Diwinyddiaeth, ac yn ystod fy ail flwyddyn dilyn cwrs ar \u2018Contemporary Problems of Christian Belief\u2019, cwrs yn canolbwyntio\u2019n bennaf ar gwestiynau athronyddol a gwyddonol canol y 1960au.<\/p>\n<p>Felly, bu\u2019r berthynas rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth yn y cefndir ar hyd y blynyddoedd, er imi deimlo nad oeddwn yn rhoi cymaint o sylw ag y dylwn i\u2019r materion hyn yn fy mhregethu a\u2019m haddysgu. Y ddau sbardun pennaf i gywiro hyn oedd gwahoddiadau yn 1998 gan Goleg y Drindod, Caerfyrddin (drwy Tom Evans) ac yn 2000 gan Brifysgol Caerdydd (drwy\u2019r Athro Paul Ballard) i ddysgu cyrsiau ar yr union bynciau \u2013 felly gorfod meddwl yn fwy trefnus a deallus, darllen yn ehangach (a darganfod prinder affwysol deunydd Cymraeg ar y pwnc) a cheisio gosod trefn ar fy meddwl fy hun. Gwahoddais Hefin Jones i gyfrannu at y cyrsiau hyn, a dyma eni\u2019r syniad am y gyfrol hon. Yn gefndir i\u2019r cyfan y mae\u2019r ymwybyddiaeth fod llawer iawn o\u2019r ysgrifennu a\u2019r dadlau cyhoeddus am Gristnogaeth a gwyddoniaeth yn dangos diffyg gwybodaeth am wyddoniaeth ar y naill law, ac am ddiwinyddiaeth Gristnogol ar y llall. Ar un olwg, mae\u2019r penodau sy\u2019n trafod agweddau diwinyddol ar bynciau gwyddonol yn arwain at y bennod olaf, \u2018Credwn yn Nuw\u2019, a hynny er mwyn ceisio ateb y cwestiwn, nid yn gymaint \u2018A ellir credu yn Nuw heddiw?\u2019, ond \u2018Beth mae\u2019n ei olygu i gyffesu \u201cCredwn yn Nuw\u201d heddiw?\u2019 Gobeithio y bydd y gyfrol bresennol yn gyfraniad at drafodaeth ddeallus ac at y dystiolaeth Gristnogol yn y Gymru Gymraeg gyfoes.<\/p>\n<p><em>Mae Noel A. Davies yn academydd a diwinydd sydd bellach wedi ymddeol.<\/em><\/p>\n<p><strong><br \/>\nT. Hefin Jones<\/strong><br \/>\n\u2018Pam wyt ti am wneud yr hen <em>science<\/em> \u2019na?\u2019 Wncwl Defi (er nad oedd yn ewythr go iawn i mi!), un o aelodau h\u0177n a hoelion wyth Eglwys y Tabernacl, Pencader, ofynnodd hyn i mi n\u00f4l yn 1975, wrth i mi ddewis fy nhestunau Lefel O. Dyna, mae\u2019n debyg, oedd y tro cyntaf i mi wynebu\u2019r amheuaeth sydd wedi bodoli dros y degawdau rhwng gwyddoniaeth a Christnogaeth. Blodeuodd hyn yn y cyfnod wedi i Charles Darwin gyhoeddi ei <em>Origins of the Species<\/em> yn 1859. O ran magwraeth, b\u00fbm yn hynod ffodus \u2013 rhieni oedd yn arddel y Ffydd, ac am ei throsglwyddo i Bethan, fy chwaer, a minnau. \u2018Pobl y tir\u2019 oeddent, yn ymhyfrydu yn y byd o\u2019n cwmpas ac am i ni holi a deall sut roedd pethau yn gweithio. Fe\u2019m cefnogwyd felly, gant y cant, i ddilyn trywydd fy niddordeb. O dan athrawon ymroddedig gwyddonol yn Ysgol Ramadeg Llandysul, ac o dan weinidogaeth ysbrydoledig y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor yn y Tabernacl, ffurfiwyd cyw wyddonydd (s\u0175olegydd, fel mae\u2019n digwydd) a fentrai ddadlau yn nosbarth ieuenctid bore Sadwrn Guto Prys nad oedd yna ddim byd yn rhyfedd mewn credu tra hefyd arbrofi. Yng Ngholeg y Brenin, bu i\u2019r ymdeimlad nad oedd yna mewn gwirionedd frwydr rhwng y ddwy garfan (y gwyddorau a chrefydd) aeddfedu, a buan gwawriodd y sylweddoliad mai dwy ffenestr oeddynt, y naill fel y llall yn fodd i geisio deall y byd a\u2019r bydysawd yr ydym yn rhan ohonynt. Mawr fy nyled i ddau o\u2019m darlithwyr, Dr Gillian Sales a Dr Bryan Turner, am eu hamynedd. Dau Gristion s\u0175olegol a fu\u2019n barod iawn i s\u00f4n am eu profiadau a\u2019u deall o\u2019r berthynas rhwng y ddau \u2018gredo\u2019. Nid heb ei ddylanwad bu dilyn, yng Ngholeg y Brenin, fy nghwrs gradd a diploma\u2019r AKC o dan adain Adran Ddiwinyddiaeth y Coleg.<\/p>\n<p>Do, bu yna gyfnodau digon anodd. Cofiaf droi ar ddiwedd oedfa yng nghapel Coleg y Brenin at y Deon, y Parchedig Richard Harries, Esgob Rhydychen yn ddiweddarach a\u2019r Barwn Harries o Bentregarth erbyn hyn, ar \u00f4l clywed y Dr Richard Dawkins (fel yr oedd bryd hynny) yn dadlau yn Undeb y Myfyrwyr ar ffolineb ffydd. Anos fu datgan fy mod yn grediniwr wedi symud i Goleg Imperial. Ond, wrth fagu hyder, hyd yn oed wrth weithio mewn sefydliad gyda chysylltiad uniongyrchol \u00e2 T. H. Huxley (\u2018Ci Tarw Darwin\u2019), deuthum yn fwy parod i gymryd rhan mewn sgyrsiau rhwng staff a myfyrwyr ar esblygiad a Chreadaeth, ffwndamentaliaeth a\u2019r <em>Selfish Gene<\/em>. Trwy fy ymwneud \u00e2\u2019r Gymdeithas Ecolegol Brydeinig, deuthum ar draws yr Athro Sam Berry, arbenigwr mewn geneteg, Cristion oedd yn reit flaenllaw fel lleygwr yn Eglwys Loegr, ac awdur nifer o lyfrau ar y berthynas rhwng y ddwy ddisgyblaeth, gan gynnwys <em>Adam and the Ape<\/em> a <em>God and the Biologist: Personal Exploration of Science and Faith<\/em>. Gyda throad y mileniwm, symud wedyn i Gaerdydd a dysgu yn gyflym iawn nad oedd yna thema drafodaeth a fyddai\u2019n ennyn cymaint o ddiddordeb a pharodrwydd i ddatgan barn, y naill ffordd neu\u2019r llall, mewn tiwtorial na gwyddoniaeth a chrefydd.<\/p>\n<p>Pam mynd ati felly i gyd-weithio gyda\u2019r Parchedig Ddr Noel Davies ac ysgrifennu llyfr? Nifer o resymau \u2013 yn sicr, roedd y ddau ohonom yn frwdfrydig i gydweithio ar brosiect o\u2019r fath. Roeddwn i, efallai yn fwy na Noel, am geisio cofnodi a chywiro rhai o\u2019r pethau roeddwn yn eu clywed yn cael eu dweud o bulpudau ein heglwysi \u2013 ni ddywedodd Darwin erioed ein bod wedi disgyn o fwnc\u00efod, a phryd fu Darwin (neu Wallace o ran hynny) yn \u2018pedlera\u2019 eu syniadau? Teimlo hefyd bod angen i Gristion o wyddonydd, yn y gymdeithas Gymreig a Chymraeg sydd ohoni, ddatgan ei fod yn credu yng Nghrist a hefyd yn arddel Darwin, Newton, Marie Curie, Einstein, Watson, Crick, Rosalind Franklin a Dorothy Hodgkin, ac yn methu&#8217;n l\u00e2n a gweld beth oedd y broblem! Mae diffyg dealltwriaeth o wyddoniaeth gan grefyddwyr wedi bod mor ddamniol i drafodaeth gall a chwrtais rhwng gwyddonwyr a chredinwyr ag yw\u2019r dallineb gan ambell wyddonydd i beth yn union yw hanfodion ffydd.<\/p>\n<p>Ymgais yw\u2019r llyfr i ysgogi trafodaeth. Nid yw\u2019n fwriad gan yr un ohonom (rwy\u2019n credu y medraf siarad ar ran Noel) i droi unrhyw Gristion yn anffyddiwr o wyddonydd, nac unrhyw wyddonydd yn Gristion efengylaidd. Ein bwriad, hyd y gwelaf i, yw sbarduno trafodaeth fel bod y berthynas rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth yn derbyn y chwarae teg dyladwy. Hynny yn y gobaith y gall y ddwy garfan, os carfannau ydynt mewn gwirionedd, ddod i ddeall ei gilydd yn well \u2026 a phwy a \u0175yr, efallai sylweddoli, nad dau begwn cwbl ar wah\u00e2n sydd gennym ond dau lwybr yn ceisio, yn ymdrechu, yn eu ffyrdd eu hunan, i ateb yr un cwestiwn.<\/p>\n<p><em>Mae T. Hefin Jones yn uwch ddarlithydd mewn Biowyddoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>gan Noel A. Davies a T. Hefin Jones, awduron\u00a0Cristnogaeth a Gwyddoniaeth Noel A. Davies Fy wythnos gyntaf yn Ysgol Ramadeg Llambed. Ar yr amserlen: \u2018science\u2019. A doeddwn i ddim wedi clywed y gair o\u2019r blaen! Mynd i\u2019r wers gynta (ffiseg, os wy\u2019n cofio\u2019n iawn). Ffeindio\u2019r cyfan braidd yn annisgwyl, ond roeddwn yn dda mewn mathemateg<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cristnogaeth-a-gwyddoniaeth\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":43806,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/43802"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=43802"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/43802\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/43806"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=43802"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=43802"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=43802"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}