{"id":42725,"date":"2017-05-25T11:14:41","date_gmt":"2017-05-25T10:14:41","guid":{"rendered":"http:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=42725\/"},"modified":"2017-05-25T11:14:41","modified_gmt":"2017-05-25T10:14:41","slug":"cof-ac-hunaniaeth-yn-y-wladfa","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cof-ac-hunaniaeth-yn-y-wladfa\/","title":{"rendered":"Cof ac Hunaniaeth yn y Wladfa"},"content":{"rendered":"<p><strong>gan Geraldine Lublin, awdur\u00a0<a href=\"\/?p=39421\"><em>Memoir and Identity in Welsh Patagonia: Voices from a Settler Community in Argentina<\/em><\/a><\/strong><\/p>\n<p>Mewn cyfweliad diweddar ar BBC Radio Cymru, gofynnwyd imi a ddylai\u2019r Cymry ymddiheuro i bobloedd frodorol Patagonia am gymryd eu gwlad. Roedd hwn yn gwestiwn anodd a chymhleth I\u2019w \u00a0ateb yn llawn o fewn yr ychydig funudau oedd gen i ar yr awyr. Pan laniodd y fintai gyntaf o sefydlwyr Cymreig ym Mhatagonia yng Ngorffennaf 1865, roeddynt wedi cytuno gyda\u2019r llywodraeth ym Muenos Aires y byddent yn ymsefydlu yn y tiriogaethau o amgylch Afon Chubut <em>ar ran yr Ariannin<\/em>. Roedd y Cymry yn ymwybodol bod y tiriogaethau hyn yn perthyn i frodorion Patagonia: yn <em>Llawl<\/em><em>yfr y Wladychfa Gymreig<\/em> roeddynt yn cydnabod \u2018hawliau yr Indiaid ar y wlad\u2019. Serch hynny, roedd yr awdurdodau canolog wedi dweud wrth arweinwyr yr ymfudwyr bod cytundeb wedi cael ei arwyddo gyda\u2019r grwpiau brodorol lleol a fyddai\u2019n ildio\u2019r tiriogaethau hyn i\u2019r llywodraeth ac yn gwarchod y wladychfa newydd mewn cyfnewid am ddefaid, dognau rheolaidd a lwfans misol i\u2019r gwahanol grwpiau a lofnododd y ddogfen. Ar y sail honno sefydlodd y ddwy garfan gysylltiad a fyddai o fudd economaidd i\u2019r naill ochr a\u2019r llall ac a weithiodd yn dda iddynt nes amharu arno gan \u2018Goncwest yr Anialwch\u2019 gwaedlyd byddin yr Ariannin rhwng 1878 a 1884. Er nad oeddynt yn gyfrifol am y cyrchoedd ofnadwy hyn \u2013 ac yn wir, mae digon o dystiolaeth yn dangos eu cwynion i\u2019r llywodraeth ganolog \u2013 y \u2018clirio\u2019 ac agor y tiriogaethau ar gyfer sefydlwyr (gwynion) a alluogodd y Cymry i fynd tua\u2019r gorllewin ac i boblogi ardal yr Andes yn 1885.<\/p>\n<p>O hynny ymlaen, byddai\u2019r gymuned Gymreig yn Chubut yn troedio\u2019i llwybr troellog tuag at fagu hunaniaeth Archentaidd, taith a fyddai\u2019n gorffen gyda mabwysiadu\u2019r \u2018Orchest Gymreig\u2019 honedig fel naratif sylfaenol Talaith Chubut yn 1958. Y siwrnai honno gan y sefydlwyr Cymreig sy\u2019n troi yn Archentaidd sy\u2019n cael ei olrhain yn <em>Memoir and Identity in Welsh Patagonia<\/em>, gan archwilio ei goblygiadau ar gyfer yr Ariannin ei hun fel ffrwyth gwladychu gan ymsefydlwyr. Yn y cyd-destun cyfredol, lle gall yr ymgodi brodorol arwain at luosogaeth wirioneddol, mae ymddiheuriadau llawn yn ddyledus i\u2019r bobloedd frodorol a gollodd eu tir, os nad gan y disgynyddion Cymreig fel y cyfryw yna\u2019n sicr gan y sawl sydd wedi elwa o\u2019r gyfundrefn a greodd y gwladychu gan ymsefydlwyr.<\/p>\n<p><em>Mae Geraldine Lublin yn Ddarlithydd mewn Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>gan Geraldine Lublin, awdur\u00a0Memoir and Identity in Welsh Patagonia: Voices from a Settler Community in Argentina Mewn cyfweliad diweddar ar BBC Radio Cymru, gofynnwyd imi a ddylai\u2019r Cymry ymddiheuro i bobloedd frodorol Patagonia am gymryd eu gwlad. Roedd hwn yn gwestiwn anodd a chymhleth I\u2019w \u00a0ateb yn llawn o fewn yr ychydig funudau oedd gen<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cof-ac-hunaniaeth-yn-y-wladfa\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":42724,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/42725"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=42725"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/42725\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/42724"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=42725"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=42725"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=42725"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}