{"id":42238,"date":"2017-05-15T15:21:03","date_gmt":"2017-05-15T14:21:03","guid":{"rendered":"http:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=42238\/"},"modified":"2017-05-16T12:01:45","modified_gmt":"2017-05-16T11:01:45","slug":"cyfaill-pwy-or-hen-wlad","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cyfaill-pwy-or-hen-wlad\/","title":{"rendered":"Cyfaill Pwy o\u2019r Hen Wlad?"},"content":{"rendered":"<p><strong>gan Rhiannon Heledd Williams, awdur <a href=\"\/?p=39432\">Cyfaill Pwy o&#8217;r Hen Wlad?<\/a><\/strong><\/p>\n<p>Pennod goll yn hanes Cymru yw\u2019r un am y Cymry a ymfudodd i Ogledd America yn y 19eg ganrif. Erbyn 1850, credir bod tua 30,000 o Gymry wedi ymgartrefu ar y cyfandir \u2013 mwy o lawer nag i Batagonia \u2013 er i\u2019r Wladfa ennyn llawer mwy o sylw. Nid yw\u2019n syndod felly iddynt sefydlu papurau a chylchgronau drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu cynefin newydd. Mae\u2019r gyfrol hon yn edrych ar hunaniaeth rhai o\u2019r cymunedau hynny drwy lygaid y wasg gyfnodol Gymraeg. Yn y penodau sy\u2019n trafod crefydd, gwleidyddiaeth, iaith, llenyddiaeth a diwylliant, edrychir ar oes aur y cyfnodolion rhwng 1838 ac 1866.\u00a0 Yn y cyfnod hwn, roedd y wasg brint yn gyfrwng cyfathrebu allweddol, ac yn rhoi llwyfan i\u2019r Cymry drafod pynciau\u2019r dydd yn eu mamiaith.<\/p>\n<p>Sefydlwyd <em>Y Cyfaill o\u2019r Hen Wlad<\/em> yn Efrog Newydd yn 1838 gan Fethodist Calfinaidd o\u2019r enw William Rowlands, a goroesodd yn rhyfeddol tan 1933. Dyma\u2019r ymgais gyntaf o ddifrif i greu cylchgrawn a fyddai\u2019n gwasanaethu\u2019r Cymry ar hyd ac ar led America. Teimlais ei bod yn bwysig rhoi hanes yr arloeswr hwn a chymwynaswr mawr i draddodiad llenyddol Cymraeg America ar gof a chadw. Edrychir hefyd ar gylchgronau eraill megis y <em>Cenhadwr<\/em>, y <em>Seren<\/em> a\u2019r <em>Drych<\/em>, gan gymharu profiad yr ymfudwyr gyda newyddiaduraeth Cymru o bryd i\u2019w gilydd.<\/p>\n<p>Wrth ymchwilio i hanes Cymry America ar gyfer fy noethuriaeth ym mhrifysgol Bangor, sylweddolais fod cyfoeth aruthrol yn llechu\u2019n y ffynonellau cynradd hyn gan eu bod yn fynegiant cryf o genedligrwydd eu cynulleidfa. Wedi imi dderbyn ysgoloriaeth i dreulio cyfnod ym mhrifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau, cefais gyfle i bori rhagor yn y cylchgronau Cymraeg yn y llyfrgelloedd yno. Des i ddeall sut yr oedd y deunydd hwn yn cynrychioli ffordd o fyw a safbwyntiau\u2019r darllenwyr a\u2019r cyfranwyr. Teithiais o amgylch rhai o\u2019r sefydliadau gynt, a sylweddoli bod cymdeithasau Cymreig ledled y cyfandir yn ffynnu wrth i ddisgynyddion Cymry America ddathlu eu gwreiddiau.<\/p>\n<p>Dyma gyfle felly i ninnau ddysgu am eu hanes hwythau, ac am y wasg Gymraeg a wasanaethodd y Cymry yn eu gwlad fabwysiedig fel rhan bwysig o\u2019n hetifeddiaeth lenyddol.<\/p>\n<p><em>Mae Rhiannon Williams yn ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol De Cymru. Treuliodd gyfnod ym Mhrifysgol Harvard yn ymchwilio ac yn ymddiddori ym maes ymchwil Cymry America a Chymraeg proffesiynol\/byd gwaith.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>gan Rhiannon Heledd Williams, awdur Cyfaill Pwy o&#8217;r Hen Wlad? Pennod goll yn hanes Cymru yw\u2019r un am y Cymry a ymfudodd i Ogledd America yn y 19eg ganrif. Erbyn 1850, credir bod tua 30,000 o Gymry wedi ymgartrefu ar y cyfandir \u2013 mwy o lawer nag i Batagonia \u2013 er i\u2019r Wladfa ennyn llawer<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cyfaill-pwy-or-hen-wlad\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":42257,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[171],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/42238"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=42238"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/42238\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/42257"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=42238"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=42238"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=42238"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}