{"id":30185,"date":"2017-03-08T15:44:52","date_gmt":"2017-03-08T15:44:52","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30185\/"},"modified":"2017-03-29T15:45:24","modified_gmt":"2017-03-29T14:45:24","slug":"cyfarwyddwr-newydd-i-wasg-prifysgol-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cyfarwyddwr-newydd-i-wasg-prifysgol-cymru\/","title":{"rendered":"Cyfarwyddwr Newydd i Wasg Prifysgol Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae Prifysgol Cymru yn falch iawn i gyhoeddi bod Natalie Williams wedi\u2019i phenodi\u2019n Gyfarwyddwr newydd ar Wasg Prifysgol Cymru.<\/p>\n<p>Ganwyd a magwyd Natalie yng Nghaerdydd, a daw \u00e2 dealltwriaeth eang o\u2019r byd cyhoeddi i\u2019r r\u00f4l. Graddiodd ag Anrhydedd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Southampton, a dechreuodd ei gyrfa gyhoeddi ym maes Cyfraith academaidd yng Ngwasg Prifysgol Rhydychen. Yna symudodd i Nelson Thornes, lle bu\u2019n Uwch Gyhoeddwr yn gyfrifol am y portffolio Mathemateg uwchradd a strategaeth gyhoeddi\u2019r DU. Ers tair blynedd, mae Natalie wedi bod yn rhedeg ei busnes ymgynghori ei hun, gan weithio i gyhoeddwyr gan gynnwys Gwasg Prifysgol Rhydychen, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, Hodder Education, Pearson Education a HarperCollins, yn ogystal ag ymgymryd \u00e2 Gradd Meistr Gweithredol mewn Gweinyddiaeth Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Sefydlwyd Gwasg Prifysgol Cymru yn 1922, ac mae iddi draddodiad balch o wasanaethu Cymru a\u2019i phrifysgolion gyda chyhoeddiadau ysgolheigaidd rhagorol yn Gymraeg a Saesneg sy\u2019n datblygu gwybodaeth ac yn ysbrydoli ysgolheigion a myfyrwyr. Mae gan y Wasg ymrwymiad creiddiol i gefnogi a lledaenu ysgolheictod o Gymru ac am Gymru i gynulleidfa fyd-eang.<\/p>\n<p>Ers iddi gael ei sefydlu, mae\u2019r Wasg wedi cyhoeddi dros 3,500 o deitlau, ac ar hyn o bryd mae\u2019n cyhoeddi oddeutu 50 teitl y flwyddyn, yn bennaf ym meysydd astudiaethau Ewropeaidd, athroniaeth, llenyddiaeth, hanes, ac astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Ers 2009, mae rhestr cyhoeddi e-lyfrau cyfredol y Wasg wedi codi i oddeutu 300 o olygiadau digidol.<\/p>\n<p>Dros y blynyddoedd, bu\u2019r Wasg yn gyfrifol am gynhyrchu cyfeirlyfrau pwysig yn Gymraeg a Saesneg, ac ymhlith y mwyaf nodedig mae <em>Geiriadur yr Academi<\/em> (1995),\u00a0y <em>Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru<\/em>\u00a0(1998), a chyflawniad ysgubol <em>Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig<\/em>\u00a0(2008).<\/p>\n<p>Wrth s\u00f4n am ei swydd newydd, a fydd yn dechrau ym mis Ebrill, dywedodd Natalie:<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n eithriadol falch i fod yn ymuno \u00e2 Gwasg Prifysgol Cymru fel Cyfarwyddwr, ac yn falch iawn i gael y cyfle i arwain sefydliad sydd \u00e2 threftadaeth a hanes Cymru\u2019n graidd iddo. Mae\u2019r Wasg yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo a diogelu iaith, cymuned, diwylliant ac ymchwil Cymru, ac mae\u2019n anrhydedd i mi gael ymuno \u00e2 fy nghyd-eiriolwyr yn y gymuned Gymraeg i ddatblygu\u2019r genhadaeth hon. Mae hwn yn gyfnod o newid o fewn prifysgolion a chyhoeddi, sy\u2019n gosod heriau ond sydd hefyd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd cyffrous i\u2019r Wasg. Gan weithio gyda th\u00eem angerddol ac ymroddgar, rwyf yn edrych ymlaen at barhau a thyfu rhagoriaeth addysgol y Wasg gartref a thramor.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r Wasg mewn sefyllfa unigryw fel yr unig wasg academaidd ddim-er-elw yng Nghymru, a gyda chefnogaeth Prifysgol Cymru mae wedi parhau\u2019n driw i\u2019w chenhadaeth wreiddiol.<\/p>\n<p>Wrth groesawu Natalie i Wasg Prifysgol Cymru, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, yr Athro Medwin Hughes:<\/p>\n<p>\u201cRwyf i\u2019n falch iawn i groesawu Natalie i\u2019r swydd hon ar ran y Brifysgol a\u2019i chydweithwyr newydd i gyd. Dros y ganrif ddiwethaf, mae Gwasg Prifysgol Cymru wedi darparu llwyfan i feddylwyr blaenllaw Cymru ac wedi cyfrannu at adeiladu Cymru fodern. Mae ei r\u00f4l yn datblygu dealltwriaeth o ddiwylliant, hanes, treftadaeth, iaith a gwleidyddiaeth unigryw Cymru\u2019n hanfodol.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd Mr Tony Ball, Cadeirydd Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru ac aelod o Gyngor y Brifysgol:<\/p>\n<p>&#8220;Mae Natalie yn ymuno \u00e2 Gwasg Prifysgol Cymru ar adeg gyffrous iawn. Yn ogystal \u00e2 chryfhau ei henw da yn fyd-eang am gyhoeddi academaidd, bydd Natalie yn edrych am feysydd newydd yn dilyn uno Prifysgol Cymru \u00e2 Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn ogystal, bydd paratoadau\u2019n dechrau i ddathlu canmlwyddiant arfaethedig y Wasg. Rydym yn hyderus ym mhrofiad Natalie, ac y bydd hi\u2019n gaffaeliad mawr i arwain y Wasg dros y blynyddoedd nesaf.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Prifysgol Cymru yn falch iawn i gyhoeddi bod Natalie Williams wedi\u2019i phenodi\u2019n Gyfarwyddwr newydd ar Wasg Prifysgol Cymru. Ganwyd a magwyd Natalie yng Nghaerdydd, a daw \u00e2 dealltwriaeth eang o\u2019r byd cyhoeddi i\u2019r r\u00f4l. Graddiodd ag Anrhydedd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Southampton, a dechreuodd ei gyrfa gyhoeddi ym maes Cyfraith academaidd<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cyfarwyddwr-newydd-i-wasg-prifysgol-cymru\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30185"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30185"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30185\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30185"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30185"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30185"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}