{"id":30183,"date":"2017-01-26T15:41:24","date_gmt":"2017-01-26T15:41:24","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30183\/"},"modified":"2017-05-15T16:23:19","modified_gmt":"2017-05-15T15:23:19","slug":"20-o-ostyngiad-ar-deitlau-2016-i-gyd-ar-gyfer-wythnos-y-llyfr-academaidd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/20-o-ostyngiad-ar-deitlau-2016-i-gyd-ar-gyfer-wythnos-y-llyfr-academaidd\/","title":{"rendered":"20% o ostyngiad ar deitlau 2016 i gyd ar gyfer Wythnos y Llyfr Academaidd"},"content":{"rendered":"<p>I ddathlu Wythnos y Llyfr Academaidd rydym wedi gostwng pris ein teitlau 2016 i gyd 20% &#8211; defnyddiwch y c\u00f4d ABW17 ar ein gwefan nes diwedd Ionawr.<\/p>\n<p>Roedd rhestr llynedd yn un amrywiol eto, yn cynnwys llyfrau ar ystod o bynciau academaidd a phoblogaidd. Dyma ddetholiad bach, gyda llawer mwy ar gael ar draws y wefan:<\/p>\n<p><strong><a href=\"\/?p=20160\">Credoau&#8217;r Cymry: Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol<br \/>\n<\/a><\/strong><em>Gan Huw L. Williams<br \/>\n<\/em>Trwy driniaeth wreiddiol a gafaelgar o rai o ffigyrau adnabyddus Cymru, mae Huw L. Williams yn amlygu nifer o\u2019n credoau fel cenedl, sydd wedi profi\u2019n ddylanwadol yng Nghymru a thu hwnt. Cyflwynir trafodaethau gwleidyddol, moesol a diwinyddol trwy ffurf ymddiddanion dychmygol, gyda sylwebaeth athronyddol ar elfennau canolog yr athrawiaethau hynny. Ymysg y sawl sy\u2019n amlwg yn y gyfrol y mae Glyn Dwr, Robert Owen, Lady Llanover a Henry Richard, gyda\u2019u syniadau pwysicaf wedi\u2019u cyflwyno ar ffurf ymgom difyr sy\u2019n cynnig cyflwyniad hygyrch i\u2019r darllenydd. Yn dilyn pob ymgom, daw dadansoddiad o\u2019r syniadau hynny i roi cyfrif trwyadl o ambell gysyniad a gosod cwestiynau gerbron ynglyn \u00e2 grym a dilysrwydd y gwahanol gredoau. Pwysleisir yn arbennig y cysylltiadau anwahanadwy gyda thueddiadau deallusol ehangach Ewrop a\u2019r modd y mae syniadaeth yng Nghymru wedi dylanwadu, ac wedi\u2019i ddylanwadu gan, y cyd-destun ehangach. Ymhlyg yn y driniaeth yma o syniadaeth Gymreig ceir ymgais i amlygu sut y mae ystyriaethau athronyddol ynghlwm yn ein bywyd cyfunol, yn ogystal ag awgrym bod yna hanes syniadau neilltuol yn perthyn i Gymru. Dyma roi sylw priodol felly i sylwedd athronyddol y traddodiad deallusol hwnnw, a chynnig dathliad o\u2019n credoau fel cenedl.<\/p>\n<p><strong><a href=\"\/?p=20159\">Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru<\/a><br \/>\n<\/strong><em>Gan Gethin Matthews<br \/>\n<\/em>Er gwaethaf pwysigrwydd canolog y Rhyfel Mawr yn hanes modern Cymru, prin iawn yw\u2019r gweithiau academaidd sy\u2019n olrhain dylanwad maleisus a phellgyrhaeddol y rhyfel ar ddiwylliant a chymdeithas yng Nghymru. Amcan y gyfrol hon yw dechrau ar y gwaith o unioni\u2019r cam mewn gwaith sy\u2019n cynnwys cyfraniadau gan nifer o ysgolheigion disglair i\u2019n cynorthwyo i ddeall yn well sut newidiodd y byd Cymreig am byth yn sgil digwyddiadau 1914\u201318, gan olrhain datblygiadau yng nghymdeithas a diwylliant Cymru o\u2019r cyfnod cyn y rhyfel hyd at y presennol.<\/p>\n<p><strong><br \/>\n<a href=\"\/?p=20300\">Cyfoethogi&#8217;r Cyfathrebu: Llawlyfr ymarferol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion<\/a><br \/>\n<\/strong><em>Golygwyd gan Christine Jones, Steve Morris<br \/>\n<\/em>Diweddariad o\u2019r gyfrol Cyflwyno\u2019r Gymraeg: Llawlyfr i Diwtoriaid (2000) dan olygyddiaeth Christine Jones yw Cyfoethogi\u2019r Cyfathrebu: Llawlyfr Ymarferol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Mae\u2019r gyfrol hon yn cynnwys rhai o benodau\u2019r gyfrol wreiddiol wedi\u2019u diweddaru, ynghyd \u00e2 phenodau newydd ar feysydd sydd wedi dod yn fwy amlwg yn y maes ers 2000 (er enghraifft, dysgu anffurfiol, addysgu ar-lein, y fframwaith asesu newydd a chyfraniad y maes i bolis\u00efau iaith cenedlaethol). Ceir penodau ar y wers gyntaf, gweithgareddau cyfathrebol, meithrin sgiliau gwahanol megis sgiliau ysgrifennu neu sgiliau gwylio, a phennod agoriadol ar ddulliau dysgu ar dwf y maes a\u2019r syniadau a ddylanwadodd ar fethodoleg dros yr ugeinfed ganrif a\u2019r ganrif hon.<\/p>\n<p><strong><br \/>\n<a href=\"\/?p=20163\">Nid Sianel Gyffredin Mohoni! Hanes Sefydlu S4C<\/a><br \/>\n<\/strong><em>Gan Elain Price<br \/>\n<\/em>Dyma\u2019r astudiaeth gyntaf ar hanes blynyddoedd cynnar un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru \u2013 Sianel Pedwar Cymru \u2013 sy\u2019n cloriannu penderfyniadau a gweithgareddau\u2019r sianel yn ystod blynyddoedd ei chyfnod prawf rhwng 1981 a 1985. Trwy gyfrwng astudiaeth o gofnodion, gohebiaeth a chyfweliadau gydag unigolion fu\u2019n allweddol i fenter gyffrous S4C, eir ati i ddarlunio\u2019r sialensiau, y llwyddiannau a\u2019r methiannau fu\u2019n wynebu Awdurdod a swyddogion S4C wrth iddynt fynd ati i lunio gwasanaeth teledu Cymraeg fyddai\u2019n ateb gofynion ac anghenion y gynulleidfa yng Nghymru. Ceir yn y gyfrol hefyd ddadansoddiad o\u2019r gwersi y gall hanes y sianel ei gynnig i\u2019w swyddogion cyfredol wrth iddynt fynd ati i\u2019w gosod ar seiliau cadarn ar gyfer dyfodol sy\u2019n ymddangos yn gynyddol ansicr.<\/p>\n<p><strong><br \/>\n<a href=\"\/?p=39467\">Williams Pantycelyn<\/a><br \/>\n<\/strong><em>Gan Saunders Lewis,\u00a0<\/em><em>Gyda rhagymadrodd newydd gan D. Densil Morgan<br \/>\n<\/em>Un o gyfrolau mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif yw Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis, ac ymhlith yr astudiaethau beirniadol mwyaf cynhyrfus i ymddangos erioed yn y Gymraeg. Cynigiodd y gyfrol ffordd newydd i ddehongli athrylith yr emynydd o Bantycelyn, a thrwy hynny sefydlu enw Saunders Lewis fel beirniad mwyaf beiddgar a chreadigol ei genhedlaeth. Er mwyn nodi trichanmlwyddiant geni\u2019r emynydd yn 2017, mae Gwasg Prifysgol Cymru yn ailgyhoeddi\u2019r gyfrol; mewn rhagymadrodd helaeth i\u2019r cyhoeddiad newydd, mae D. Densil Morgan yn dadansoddi cynnwys y gwaith, ei dafoli\u2019n feirniadol ac yn olrhain ei ddylanwad ar y meddwl Cymreig o\u2019i gyhoeddi yn 1927 hyd heddiw. Mae\u2019n ddathliad deublyg o greadigrwydd Saunders Lewis ac o gyfraniad aruthrol y P\u00ear Ganiedydd i waddol y diwylliant cenedlaethol.<\/p>\n<p><strong><a href=\"\/?p=19004\">Cronica Walliae<br \/>\n<\/a><\/strong><em>Gan Humphrey Llwyd <\/em><em>Golygwyd, gan <\/em><em>Ieuan M. Williams<\/em><em>, J. Beverley Smith<br \/>\n<\/em><em>Argraffiad newydd<br \/>\n<\/em>Yn sgil cyhoeddi Cronica Walliae yn 2002 cafwyd, am y tro cyntaf erioed, destun argraffedig o waith ysgolheigaidd mewn llawysgrifau o\u2019r unfed ganrif ar bymtheg. Graddiodd ei awdur, yr hynafiaethydd Humphrey Llwyd, a aned yn Ninbych ym 1527, o Brifysgol Rhydychen ac aeth i wasanaethu iarll Arundel. Gwasanaethodd fel aelod seneddol ddwywaith ac, fel aelod dros Ddinbych ym 1569, fe\u2019i cydnabyddir am hwyluso hynt y mesur ar gyfer cyfieithu\u2019r Beibl a\u2019r Llyfr Gweddi Cyffredin i\u2019r Gymraeg. Bu farw yn Ninbych ym 1568, a saif ei gofeb yn eglwys plwyf Llanfachrell. Cronica Walliae yw gwaith mwyaf sylweddol Humphrey Llwyd ac mae\u2019n seiliedig ar y cronicl Cymreig canoloesol, Brut y Tywysogyon, naratif am frenhinoedd a thywysogion Cymru o farwolaeth Cadwaladr Fendigaid i Llywelyn ap Gruffudd. Fe\u2019i defnyddiwyd gan David Powel wrth baratoi ei Historie of Cambria (1584), ac mae ei astudio heddiw yn golygu y gellir cael gwell gwerthfawrogiad o gyfraniad dau ysgolhaig a osododd, rhyngddynt, y sylfeini ar gyfer ysgrifennu hanesyddol modern Cymreig ar y cyfnod canoloesol. Ni oroesodd yr un llawysgrif o law Llwyd ei hun, ac mae\u2019r argraffiad presennol yn seiliedig ar NLW Llanstephan 177, gyda darlleniadau gwahanol o BL Cotton Caligula Avi.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>I ddathlu Wythnos y Llyfr Academaidd rydym wedi gostwng pris ein teitlau 2016 i gyd 20% &#8211; defnyddiwch y c\u00f4d ABW17 ar ein gwefan nes diwedd Ionawr. Roedd rhestr llynedd yn un amrywiol eto, yn cynnwys llyfrau ar ystod o bynciau academaidd a phoblogaidd. Dyma ddetholiad bach, gyda llawer mwy ar gael ar draws y<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/20-o-ostyngiad-ar-deitlau-2016-i-gyd-ar-gyfer-wythnos-y-llyfr-academaidd\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4285,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30183"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30183"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30183\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4285"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30183"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30183"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30183"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}