{"id":30174,"date":"2016-09-29T15:36:06","date_gmt":"2016-09-29T14:36:06","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30174\/"},"modified":"2017-03-29T15:36:50","modified_gmt":"2017-03-29T14:36:50","slug":"wythnos-adolygiadau-cymar-2016","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wythnos-adolygiadau-cymar-2016\/","title":{"rendered":"Wythnos Adolygiadau Cymar 2016"},"content":{"rendered":"<p>19eg-26ain o Fedi yw <a href=\"https:\/\/peerreviewweek.wordpress.com\/\">Wythnos Adolygiadau Cymar<\/a> \u2018Scholarly Kitchen\u2019; fel mae\u2019r cogyddion yn nodi yn eu blog ar y <a href=\"https:\/\/scholarlykitchen.sspnet.org\/2016\/07\/19\/peer-review-week-2016-recognizereview\/\">19eg o Orffennaf<\/a>, \u201cRoedd wythnos Adolygu 2015 yn ddigwyddiad bach, arbrofol. Ond fe wnaeth daro nodyn gyda llawer o unigolion a sefydliadau.\u201d Felly, ar \u00f4l yr arbrawf cyntaf, rydym yn falch iawn yma yng Ngwasg Prifysgol Cymru i weld y digwyddiad yn cael ei ail-adrodd, a gobeithiwn y bydd yn dod yn rhan barhaol o fywyd academaidd. Pan ydwyf yn siarad gydag ymchwilwyr sy\u2019n gynnar yn eu gyrfaoedd am y broses gyhoeddi academaidd, rwyf bob amser yn nodi mai adolygwyr yw arwyr ac arwresau tawel y byd academaidd, sy\u2019n gwario oriau gwerthfawr yn darllen ac adolygu ceisiadau a theipysgrifau trwy eu hymroddiad a\u2019u brwdfrydedd dros eu pwnc, gydag ychydig iawn o gydnabyddiaeth na gwobr.<\/p>\n<p>Mae\u2019r adolygiad cymar yn chwarae rhan gwbl allweddol a chanolog yn yr ecoleg ysgolheigaidd, gan sicrhau safonau, ond gan hefyd gynnig adborth, cyngor ac arweiniad amhrisiadwy i awduron. I ymchwilwyr ifanc, mae adolygiad cymar yn gallu chwarae rhan allweddol mewn trawsffurfio doethuriaeth mewn i fonograff blaengar a chyfraniad pwysig i drafodaeth ysgolheigaidd, trwy ddatblygu ei botensial a chynnig llwybr i wneud y naid o draethawd doethurol i waith cyhoeddedig. Rydym yn gwerthfawrogi\u2019n fawr iawn haelioni ac arbenigedd ein hadolygwyr, ac ni ellir tanbrisio eu mewnbwn, sy\u2019n gallu arwain at gytundeb llyfr, cynnig am swydd, swydd barhaol a llwyddiant REF. Mae academyddion cyhoeddedig, profiadol hefyd yn elwa o\u2019r broses adolygu cymar, wrth gwrs, gyda\u2019r sylwadau, awgrymiadau a gwrthrychedd hanfodol mae\u2019r broses yn cynnig.<\/p>\n<p>Mae\u2019n galonogol i weld, felly, mecanwaith yn datblygu sy\u2019n cydnabod cyfraniad adolygwyr cymar. Clywir llawer o son yn ddiweddar am adeiladu proffil academaidd, a gall dweud eu bod yn adolygu i weisg academaidd ddim ond helpu i wella proffil ymchwilwyr. Felly, diolch yn fawr adolygwyr GPC, ni fyddwn yn gallu cyhoeddi hebddo chi.<\/p>\n<p><em>Sarah Lewis, Golygydd Comisiynu<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>19eg-26ain o Fedi yw Wythnos Adolygiadau Cymar \u2018Scholarly Kitchen\u2019; fel mae\u2019r cogyddion yn nodi yn eu blog ar y 19eg o Orffennaf, \u201cRoedd wythnos Adolygu 2015 yn ddigwyddiad bach, arbrofol. Ond fe wnaeth daro nodyn gyda llawer o unigolion a sefydliadau.\u201d Felly, ar \u00f4l yr arbrawf cyntaf, rydym yn falch iawn yma yng Ngwasg Prifysgol<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wythnos-adolygiadau-cymar-2016\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4246,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30174"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30174"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30174\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4246"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30174"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30174"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30174"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}