{"id":30164,"date":"2016-04-27T15:28:19","date_gmt":"2016-04-27T14:28:19","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30164\/"},"modified":"2017-03-29T15:28:57","modified_gmt":"2017-03-29T14:28:57","slug":"xml-ym-manceinion","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/xml-ym-manceinion\/","title":{"rendered":"XML ym Manceinion"},"content":{"rendered":"<p>Ar 15 Mawrth 2016, mynychodd tri ohonom o GPC gwrs undydd XML, sef \u2018Extensible Markup Language\u2019, wedi\u2019i drefnu gan John Normansell o Wasg Prifysgol Manceinion. Ymunodd cynrychiolwyr o Wasg Prifysgol Caeredin a Gwasg Prifysgol Lerpwl gyda ni mewn ystafell yn Adeilad Renold. Mae\u2019r adeilad hwn hefyd yn gartref i swyddfa GPM ar gampws y Brifysgol, gyda golygfa drawiadol o adeilad Stryd Sackville gyferbyn.<\/p>\n<p>Mae XML yn bwnc sydd wedi codi\u2019i ben droeon mewn trafodaethau ynghylch cyhoeddi academaidd, ac mae\u2019r ymwybyddiaeth symlaf wedi profi\u2019n ddefnyddiol wrth baratoi ffeiliau i\u2019w \u2018haddasu yn y dyfodol\u2019, delio gyda Metadata, ONIX a DOI.<\/p>\n<p>Cyflwynwyd hanes, termau allweddol a chategor\u00efau, a\u2019r cysyniad o XML sydd \u2018wedi\u2019i ffurfio\u2019n dda\u2019 ac yn \u2018ddilys\u2019 gan Nic Gibson o \u2018<a href=\"http:\/\/uwp.celfapps.com\/news\/2016\/04\/www.corbas.co.uk\/nic-gibson\/\">Corbas Consulting<\/a>\u2019 (<a href=\"https:\/\/twitter.com\/nggibson\">@nic_gibson<\/a>). Wedi iddo\u2019n sicrhau nad oedd cwestiynau twp yn bod pan yn trafod XML, roedd yna awyrgylch cartrefol trwy gydol y dydd, a hynny gyda digon o hiwmor ac anecdotau am amrywiol bethau.<\/p>\n<p>Astudiwyd Unicode, dilysu, DTDau a manion eraill yn drwyadl, a dysgwyd am bwysigrwydd Schematron gan orffen trwy gysidro lle XML ym myd cyhoeddi a\u2019r camau cywir i\u2019w cymryd pan yn delio gyda chyflenwyr. Roedd yn gwrs trylwyr a chafwyd cyngor di-flewyn-ar-dafod ar sefyllfaoedd pan na ddylid defnyddio XML (a pha bethau i gadw mewn cof pan yn dewis \u2013 neu\u2019n osgoi! \u2013 cyflenwyr).<\/p>\n<p>Diolch i John Normansell a GPM am eu croeso cynnes, ac i Nic am gynnal y cwrs.<\/p>\n<p>Robin<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar 15 Mawrth 2016, mynychodd tri ohonom o GPC gwrs undydd XML, sef \u2018Extensible Markup Language\u2019, wedi\u2019i drefnu gan John Normansell o Wasg Prifysgol Manceinion. Ymunodd cynrychiolwyr o Wasg Prifysgol Caeredin a Gwasg Prifysgol Lerpwl gyda ni mewn ystafell yn Adeilad Renold. Mae\u2019r adeilad hwn hefyd yn gartref i swyddfa GPM ar gampws y Brifysgol,<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/xml-ym-manceinion\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4190,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30164"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30164"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30164\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4190"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30164"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30164"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30164"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}