{"id":30140,"date":"2015-08-18T15:00:35","date_gmt":"2015-08-18T14:00:35","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30140\/"},"modified":"2017-03-29T15:01:03","modified_gmt":"2017-03-29T14:01:03","slug":"paratoi-ar-gyfer-ref","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/paratoi-ar-gyfer-ref\/","title":{"rendered":"Paratoi ar gyfer REF"},"content":{"rendered":"<p>Tra bod llawer o academyddion yn mwynhau eu gwyliau haf dros y moroedd, mae cwmwl ar ffurf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf yn prysur agos\u00e1u i\u2019r lan.<\/p>\n<p>O gymryd y bydd yr amserlen yn dilyn un REF 2014, byddwn yn anelu i gyhoeddi llyfrau a chyfnodolion ar gyfer REF 2020 erbyn Medi 2019 \u2013 pedair blynedd yn unig i ffwrdd! Fel gwasg academaidd rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau REF o ddifrif, ac yn sylweddoli pa mor bwysig ydyw fod llyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion yn cael eu cyhoeddi cyn y dyddiad cyfrifiad, sef y 31ain o Hydref yn achos REF 2014.<\/p>\n<p>Rydym yn falch i chwarae rhan yn y digwyddiad hanfodol hwn o fewn bywyd academaidd ym Mhrydain, a byddwn yn gwneud popeth gallwn i gyhoeddi\u2019r gweithiau perthnasol ar amser. Ond mae hyn yn ddibynnol ar gynllunio gofalus a chydweithrediad awduron. Mae\u2019n bosib wrth gwrs eich bod ar ben ffordd eisoes o ran eich gofynion REF, ond os nad ydych, fe fyddwn yn eich annog i ddechrau\u2019r broses heb unrhyw oedi pellach. Cofiwch fod angen ichi ysgrifennu cais, ei gyflwyno, ac i\u2019r cais hwnnw wedyn fynd trwy brosesau comisiynu arferol GPC cyn bod y gwaith anoddach o ysgrifennu a chymhenni\u2019r deipysgrif yn dechrau. Fe fydd eich gwaith yn cael ei adolygu yn ei gyfanrwydd, gyda chyfnod ychwanegol wedi\u2019i gynnwys yn yr amserlen er mwyn gwneud unrhyw newidiadau a argymhellwyd yn yr adolygiad, cyn i\u2019r broses o gynhyrchu\u2019r llyfr ei hun gychwyn. Yn gyffredin \u00e2\u2019r gweisg academaidd eraill, fe fyddwn yn gofyn i awduron gyflwyno eu gwaith yn gyflymach nag arfer \u2013 nid yw hyn yn golygu ei fod yn cymryd yn hirach o reidrwydd inni gyhoeddi llyfr, ond fe fyddwn yn wynebu toreth o gyhoeddiadau i\u2019w paratoi ar gyfer yr un dyddiad, a bydd hyn yn rhoi pwysau mawr ar bawb yn y gadwyn gynhyrchu: awduron, penaethiaid adran, staff GPC a\u2019n golygyddion copi llaw rydd, prawf ddarllenwyr, cynllunwyr cloriau ac argraffwyr.<\/p>\n<p>Felly y wers yw i gyflwyno eich teipysgrifau yn gynnar: i gadw ni a\u2019ch cyfarwdyddwr ymchwil yn hapus!<\/p>\n<p>Yn naturiol, ni allwn drafod REF heb grybwyll Mynediad Agored. Cyhoeddodd cyrff addysg uwch y DU bolisi newydd ym Mawrth 2014 ar gyfer y REF wedi 2014: \u00a0fe fydd Mynediad Agored yn rheidrwydd ar gyfer deunydd a dderbynnir ar \u00f4l Ebrill 2016 (erthyglau mewn cyfnodolion a thrafodion cynadleddau, nid monograffau a chyfrolau wedi\u2019u golygu): naill ai Aur, hynny yw Mynediad Agored yn syth ar \u00f4l cyhoeddi trwy Daliad Prosesu Awdur (Author Processing Charge); neu Wyrdd, trwy adnau mewn llyfrgelloedd prifysgolion, gyda chyfnod embargo. Mae hyn yn cydnabod efallai y bydd angen i sefydliadau ddechrau sustemau newydd er mwyn gweithredu\u2019r polisi; serch hynny, bydd angen i ddeunydd a dderbynnir ar ol y 1af o Ebrill 2017 gael eu adnau o fewn 3 mis i\u2019w dderbyn. Gwelwch <a href=\"http:\/\/www.hefcw.ac.uk\" target=\"_blank\">www.hefcw.ac.uk<\/a> ar gyfer mwy o fanylion.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Tra bod llawer o academyddion yn mwynhau eu gwyliau haf dros y moroedd, mae cwmwl ar ffurf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf yn prysur agos\u00e1u i\u2019r lan. O gymryd y bydd yr amserlen yn dilyn un REF 2014, byddwn yn anelu i gyhoeddi llyfrau a chyfnodolion ar gyfer REF 2020 erbyn Medi 2019 \u2013<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/paratoi-ar-gyfer-ref\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3795,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30140"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30140"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30140\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3795"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30140"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30140"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30140"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}