{"id":30119,"date":"2015-06-12T14:51:11","date_gmt":"2015-06-12T13:51:11","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30119\/"},"modified":"2017-03-29T14:51:36","modified_gmt":"2017-03-29T13:51:36","slug":"cynhadledd-ol-raddedigion-canolfan-richard-burton-8-mehefin-2015","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cynhadledd-ol-raddedigion-canolfan-richard-burton-8-mehefin-2015\/","title":{"rendered":"Cynhadledd \u00d4l-Raddedigion Canolfan Richard Burton, 8 Mehefin 2015"},"content":{"rendered":"<p>Mynychais gynhadledd flynyddol Canolfan Richard Burton ar gyfer myfyrwyr \u00f4l-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe ar yr 8fed o Fehefin. Roedd safon y papurau a gyflwynwyd trwy gydol y diwrnod yn uchel iawn. Ll\u00ean Saesneg Cymru oedd pwnc y sesiwn gyntaf, maes y mae Abertawe\u2019n gryf iawn ynddo o ran staff ac \u00f4l-raddedigion. Dechreuodd Liza Penn Thomas y diwrnod trwy drafod datblygiad y theatr yng Nghymru\u2019r 1920au a 1930au, gan ddangos sut yr effeithiodd sensoriaeth gaeth y cyfnod ar waith awduron Cymreig fel Richard Hughes a Jack Jones. Cawsom gip diddorol ar waith ymchwil cyfredol Clare Davies (a oedd hefyd wedi trefnu\u2019r gynhadledd) ar gyfer ei doethuriaeth ar ddeallusion Cymreig o\u2019r ugeinfed ganrif mewn papur ar agweddau T. S. Eliot a Saunder Lewis tuag at y canon llenyddol, a lle llenyddiaeth Saesneg o Gymru o fewn y canon. I gloi\u2019r sesiwn gyntaf, trafododd Kieron Smith sut mae agweddau beirniadol tuag at waith Caradoc Evans wedi newid dros y ganrif ers cyhoeddiad ymfflamychol ei gyfrol o straeon byrion <em>My People <\/em>ym 1915.<\/p>\n<p>Hanes oedd pwnc y sesiwn nesaf, yn arbennig hanes llafur yng Nghymru ac yn benodol hanes llafur Abertawe a\u2019r cyffiniau. Cynigiodd Bleddyn Penny olwg newydd ar hanes llafur Cymreig trwy\u2019r ymchwil mae wedi\u2019i gyflawni ar gyfer ei ddoethuriaeth am weithfeydd dur Port Talbot yn y cyfnod wedi\u2019r Ail Ryfel Byd. Dadleuodd bod angen rhoi llawer mwy o sylw i brofiadau carfanau o weithwyr \u2013 fel gweithwyr swyddfa, rheolwyr a gweithwyr amaethyddol \u2013 sydd wedi cael eu hesgeuluso o fewn hanesyddiaeth Gymreig hyd yn hyd. Gweithwyr o ardal Abertawe oedd pwnc papur Matthew Small hefyd, sef y gweithwyr copr a oedd yn byw yn Nhrevivian yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg (sy\u2019n rhan o ardal yr Hafod yn Abertawe heddiw). Llwyddwyd i gyfleu\u2019r gymysgedd o haelioni a hunan-les a oedd wedi cymell y diwydiannwr a\u2019r gwleidydd lleol Henry Hussey Vivian i sefydlu Trevivian. Ar ddiwedd y sesiwn, edrychodd Alex Jones ar y mewnwelediadau y mae llenyddiaeth hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif yn gallu cynnig i hanes yr ardaloedd glofaol yn ne Cymru, yn arbennig nofelau a gweithiau hunangofiannol glowyr a chyn-lowyr fel Sid Chaplin a Bert Coombes.<\/p>\n<p>Cafwyd sesiwn arbennig yn y Gymraeg ar \u00f4l cinio gyda dau bapur diddorol tu hwnt gan Meilyr Powel a Catrin Heledd Richards. Yn gyntaf, trafododd Meilyr rai o\u2019r rhesymau a roddwyd yn y Wasg Gymreig, yn fwyaf arbennig gan <em>The Welsh Outlook<\/em>, er mwyn cyfiawnhau\u2019r brwydro yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dangosodd bod crefydd wedi cael ei ddefnyddio\u2019n rheolaidd i gyfiawnhau\u2019r rhyfel ar sail y bygythiad honedig i\u2019r gwareiddiad Cristnogol yr oedd camddeongliadau ar athroniaeth Nietzscheaidd yn yr Almaen yn ei gynrychioli. Fe\u2019n hatgoffwyd pa mor anacronistig a chamarweiniol y gall fod i edrych ar y rhyfel trwy lygaid cyfoes yn unig, heb o leiaf ystyried y cymhellion a yrrai\u2019r sawl a\u2019i cefnogodd. Yn ail, cawsom olwg newydd ym mhapur Catrin ar nofel Gymraeg arbrofol a phwysig, sef \u2018nofel gerdd\u2019 Dafydd Rowlands <em>Mae Theomemphus yn Hen <\/em>(1977). Trwy graffu\u2019n ofalus ar deitl y nofel, llwyddodd Catrin i ddangos y gwead cymhleth o gyfeiriadaeth rhyng-destunol a chyd-destunol at weithiau William Williams Pantycelyn, Kate Roberts ac eraill, ac at brofiadau plentyndod yr awdur a geir yn y nofel. Gellir dadlau nad yw gwaith Dafydd Rowlands wedi derbyn y sylw beirniadol mae\u2019n haeddu hyd yn hyn, felly roedd yn braf iawn i glywed papur a oedd yn gyfraniad i lanw\u2019r bwlch.<\/p>\n<p>Symudodd ffocws y gynhadledd yn \u00f4l i hanes Cymru unwaith eto yn y sesiwn olaf, y tro hwn mewn cyd-destun rhyngwladol. Trafododd Mark Rhodes, myfyriwr \u00f4l-raddedig ar ymweliad o Brifysgol Kent State yn yr Unol Daleithiau, yr amryfal ffyrdd y mae Paul Robeson wedi cael ei goff\u00e1u ar draws ystod eang o sefydliadau treftadaeth yng Nghymru. Ymweliad \u00c9amon de Valera \u00e2 Chaerdydd ym 1948 i siarad mewn cyfarfod o\u2019r \u2018Anti-Partition League\u2019 oedd pwnc difyr papur Syd Morgan, rhan o\u2019i ymchwil doethur ar y berthynas rhwng Plaid Cymru a Fianna F\u00e1il rhwng 1926 a diwedd y 1940au. Yn olaf, cyflwynodd Sam Blaxland ddarlun ar agweddau cymhleth, ac annisgwyl efallai, y Blaid Geidwadol tuag at Gymru a Chymreictod rhwng 1945 a\u2019r ail refferendwm datganoli ym 1997.<\/p>\n<p>Diweddglo\u2019r diwrnod oedd trafodaeth anffurfiol rhwng Simon Brooks a Daniel Williams, dau awdur sydd wedi cyhoeddi cyfrolau newydd gyda Gwasg Prifysgol Cymru yn ddiweddar, <a href=\"http:\/\/uwp.celfapps.com\/editions\/9781783162338?dcp=635697080109961250&amp;language=cy\" target=\"_blank\"><em>Pam na fu Cymru <\/em><\/a>a <em><a href=\"http:\/\/uwp.celfapps.com\/editions\/9781783162116?dcp=635697080463398750&amp;language=cy\" target=\"_blank\">Wales Unchained<\/a>. <\/em>Roedd y ddadl fywiog a ddilynodd unwaith i\u2019r gynulleidfa ymuno yn dystiolaeth glir bod y ddamcaniaeth radical a gyflwynir yn <em>Pam na fu Cymru <\/em>i egluro methiant mudiad cenedlaethol cryfach i ymddangos yng Nghymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn codi cwestiynau pwysig ac anodd ar adegau. Cadeiriwyd y sesiwn yn gelfydd gan yr hanesydd Daryl Leeworthy, a wnaeth ei gyfraniadau craff ei hun i\u2019r drafodaeth. Diwrnod llawn trafod a darganfod, a oedd yn brawf o lefel uchel yr ymchwil sy\u2019n digwydd o fewn Prifysgol Abertawe yn gyfredol ar draws yr adrannau Cymraeg, Hanes a Saesneg.<\/p>\n<p>Dr Llion Wigley<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mynychais gynhadledd flynyddol Canolfan Richard Burton ar gyfer myfyrwyr \u00f4l-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe ar yr 8fed o Fehefin. Roedd safon y papurau a gyflwynwyd trwy gydol y diwrnod yn uchel iawn. Ll\u00ean Saesneg Cymru oedd pwnc y sesiwn gyntaf, maes y mae Abertawe\u2019n gryf iawn ynddo o ran staff ac \u00f4l-raddedigion. Dechreuodd Liza Penn Thomas<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cynhadledd-ol-raddedigion-canolfan-richard-burton-8-mehefin-2015\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4091,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30119"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30119"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30119\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4091"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30119"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30119"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30119"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}