{"id":30117,"date":"2015-06-29T14:50:20","date_gmt":"2015-06-29T13:50:20","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30117\/"},"modified":"2017-03-29T14:50:51","modified_gmt":"2017-03-29T13:50:51","slug":"cyfnodolyn-newydd-the-journal-of-religious-history-literature-and-culture","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cyfnodolyn-newydd-the-journal-of-religious-history-literature-and-culture\/","title":{"rendered":"Cyfnodolyn newydd: The Journal of Religious History, Literature and Culture"},"content":{"rendered":"<p>Bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cyhoeddi cyfnodolyn rhyngddisgyblaethol newydd, <em>The Journal of Religious History, Literature and Culture<\/em>, o 2015 ymlaen. Bydd y cyfnodolyn, sy\u2019n olynu <em>The Welsh Journal of Religious History<\/em> a <em>Trivium<\/em>, yn cynnwys erthyglau ar bob agwedd o hanes, llenyddiaeth a diwylliant crefyddau o bob rhan o\u2019r byd. Saesneg bydd iaith y cyfnodolyn, a bydd yn ymddangos ddwywaith y flwyddyn fel un rhifyn arferol ac un<br \/>\nrhifyn thema.<\/p>\n<p>Nod y cyfnodolyn yw i drafod yr agweddau hynny o ddiwylliant crefyddol sy\u2019n goleuo ac yn enghreifftio syniadau ac arferion crefyddol. Mae\u2019r golygyddion yn awyddus i gyhoeddi erthyglau sy\u2019n ymdrin \u00e2\u2019r modd y mae hanes, crefydd a diwylliant yn rhyngweithio; croesewir hefyd erthyglau sy\u2019n ymdrin \u00e2 hanes, llenyddiaeth neu ddiwylliant crefyddol ar wah\u00e2n.<\/p>\n<p>Mae\u2019r weledigaeth olygyddol o hanes, llenyddiaeth a diwylliant crefyddol yn eang ac yn cynnwys agweddau ar gelf, pensaern\u00efaeth, diwylliant materol, a hanes pob cyfnod a llenyddiaeth yng nghyfoeth eu hamrywiaethau, wrth fynd i\u2019r afael \u00e2 \u2018chrefydd\u2019 a phob math o fynegiad crefyddol yn y modd mwyaf cynhwysfawr. Bydd y cyfnodolyn hefyd yn cynnwys adolygiadau o lyfrau.<\/p>\n<p>Bydd y cyfnodolyn wedi\u2019i adolygu\u2019n llawn gan gymheiriaid, a bydd ar gael fel fersiwn print ac ar-lein (via Ingenta).<\/p>\n<p>Cyhoeddir y rhifyn cyntaf o <em>The Journal of Religious History, Literature and Culture<\/em> yn ystod haf 2015, gyda rhifyn thema i ddilyn yn ystod hydref 2015.<\/p>\n<p>ISSN print 2057 4517 ISSN ar-lein 2057 4525<\/p>\n<p>Mae\u2019r prisiau canlynol ar gyfer y ddau rifyn i\u2019w cyhoeddi\u2019n flynyddol, sef rhifyn arferol y cyfnodolyn a\u2019r rhifyn thema:<\/p>\n<p>Sefydliadau: \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 Unigolion:<br \/>\nPrint yn unig \u00a395 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0Print yn unig \u00a325<br \/>\nAr-lein yn unig \u00a385 \u00a0 \u00a0 \u00a0Ar-lein yn unig \u00a320<br \/>\nY ddau \u00a3140 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0Y ddau \u00a340<\/p>\n<p>Er mwyn tanysgrifio, cysylltwch \u00e2 gwasanaeth cwsmeriaid Turpin<br \/>\n+44 (0) 1767 604 4951 \u2022 <a href=\"mailto:custserv@turpin-distribution.com\">custserv@turpin-distribution.com<\/a><\/p>\n<p>Golygydd Cynorthwyol:<br \/>\nDr Thomas Smith, Ludwig-Maxmillians-Universit\u00e4t M\u00fcnchen<\/p>\n<p>Golygydd Adolygiadau :<br \/>\nDr Nicky Tsougarakis, Prifysgol Edge Hill<\/p>\n<p>Bwrdd Golygyddol:<br \/>\nYr Athro David Bebbington, Prifysgol Stirling<br \/>\nYr Athro Stewart J. Brown, Prifysgol Caeredin<br \/>\nDr James J.\u00a0Caudle, Prifysgol Yale<br \/>\nDr Robert G. Ingram, Prifysgol Ohio<br \/>\nYr Athro Geraint H. Jenkins, Prifysgol\u00a0Aberystwyth<br \/>\nDr David Ceri Jones, Prifysgol Aberystwyth<br \/>\nYr Athro J. Gwynfor Jones, Prifysgol Caerdydd<br \/>\nDr Frances Knight, Prifysgol Nottingam<br \/>\nYr Athro Kenneth E. Roxburgh, Prifysgol Samford<br \/>\nDr Robert Pope,\u00a0Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<br \/>\nYr Athro Huw Pryce, Prifysgol Bangor<br \/>\nY Gwir Barchedig ac\u00a0Anrhydeddus Arglwydd Williams Ystumllwynarth, Coleg Fair Fadlen, Caergrawnt<br \/>\nYr Athro Jonathan Wooding,\u00a0Prifysgol Sydney<br \/>\nDr Eryn M. White, Prifysgol Aberystwyth<\/p>\n<p>Dylai awduron sydd \u00e2 diddordeb mewn cyfrannu i\u2019r cyfnodolyn anfon eu herthyglau at un o\u2019r golygyddion:<br \/>\nYr Athro William Gibson: <a href=\"mailto:wgibson@brookes.ac.uk\">wgibson@brookes.ac.uk<br \/>\n<\/a>Dr John Morgan-Guy: <a href=\"mailto:j.morgan-guy@tsd.uwtsd.ac.uk\">j.morgan-guy@tsd.uwtsd.ac.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cyhoeddi cyfnodolyn rhyngddisgyblaethol newydd, The Journal of Religious History, Literature and Culture, o 2015 ymlaen. Bydd y cyfnodolyn, sy\u2019n olynu The Welsh Journal of Religious History a Trivium, yn cynnwys erthyglau ar bob agwedd o hanes, llenyddiaeth a diwylliant crefyddau o bob rhan o\u2019r byd. Saesneg bydd iaith y cyfnodolyn,<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cyfnodolyn-newydd-the-journal-of-religious-history-literature-and-culture\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3952,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30117"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30117"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30117\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3952"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30117"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30117"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30117"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}