{"id":30115,"date":"2015-06-03T14:49:40","date_gmt":"2015-06-03T13:49:40","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30115\/"},"modified":"2017-03-29T14:50:10","modified_gmt":"2017-03-29T13:50:10","slug":"lansio-tueddiadau-ieithoedd-cymru-ac-arddangosiad-llwybrau-at-ieithoedd-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/lansio-tueddiadau-ieithoedd-cymru-ac-arddangosiad-llwybrau-at-ieithoedd-cymru\/","title":{"rendered":"Lansio Tueddiadau Ieithoedd Cymru ac Arddangosiad Llwybrau at Ieithoedd Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Cynhaliwyd noson Lansio Tueddiadau Ieithoedd Cymru ac Arddangosiad Llwybrau at Ieithoedd Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ar 2 Mehefin, a drefnwyd gan Lwybrau at Ieithoedd Cymru, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Addysg CfBT, UCML Cymru a CILT Cymru. Cadeiriodd <a href=\"http:\/\/uwp.celfapps.com\/editors\/claire-gorrara?dcp=635689412308787500&amp;language=cy\" target=\"_blank\">yr Athro Claire Gorrara<\/a>, cyd-olygydd cyfres Ffrengig a Ffrangeg GPC, rhan gyntaf y noson i grynhoi canfyddiadau adroddiad Tueddiadau Ieithoedd 2014\/15. Tanlinellodd yr adroddiad bod angen gwneud mwy i gynyddu\u2019r niferoedd sy\u2019n astudio ieithoedd tramor modern yng Nghymru. Fel yr unig genedl ym Mhrydain lle mae dwyieithrwydd yn ffordd o fyw, roedd yn siomedig i glywed nad yw Cymru wedi gwneud y mwyaf o\u2019r fantais ddiwylliannol hon i ddatblygu polisi ieithoedd modern a allai ei gwneud yn arweinydd mewn amlieithedd a chynnal iaith. Mae safon dysgu ieithoedd modern fel Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg yn aml yn uchel iawn yng Nghymru, ond mae\u2019r gostyngiad mewn oriau dysgu, a\u2019r nifer o opsiynau eraill sy\u2019n wynebu disgyblion TGAU a Lefel-A wedi golygu bod y nifer sy\u2019n dewis eu hastudio yng Nghymru wedi disgyn yn gyson o flwyddyn i flwyddyn. Mae cyrsiau Lefel-A yn arbennig yn dioddef, gyda llond llaw o ddisgyblion yn unig yn dewis astudio ieithoedd ar y lefel hon, sy\u2019n golygu bod yn rhaid iddynt deithio milltiroedd yn rheolaidd i ysgol arall er mwyn astudio\u2019r iaith o\u2019u dewis. O fewn marchnad yrfaoedd fyd eang lle mae graddedigion sy\u2019n medru sawl iaith yn ddeniadol iawn i gyflogwyr, mae\u2019n siomedig iawn mai Cymru sydd a\u2019r nifer isaf yn y Deyrnas Unedig o ddisgyblion eilradd sy\u2019n astudio ieithoedd modern. Mewn cyferbyniad llwyr, cyflwynodd ail hanner y noson yr ochr llawer mwy positif o\u2019r darlun trwy ddangos rhai o\u2019r syniadau cyffrous sy\u2019n cael eu datblygu ar hyn o bryd o fewn ysgolion Cymreig o ran dysgu ieithoedd modern. Mae\u2019r rhain yn cynnwys mwy o gyfleoedd i ddechrau dysgu ieithoedd modern mewn ysgolion cynradd, sy\u2019n paratoi disgyblion ar gyfer dysgu pynciau eraill fel celf, cerddoriaeth, hanes a daearyddiaeth trwy iaith arall ar lefel eilradd, sef Dysgu Cynnwys ac Iaith Integredig (Content and Language-Integrated Learning). Gall gysylltu ieithoedd yn y modd hwn helpu ysgolion i gyrraedd eu targedau llythrennedd a rhifedd, fel y dangosir yn wych yn <a href=\"https:\/\/twitter.com\/garethffowc\" target=\"_blank\">llyfr Gareth Ffowc Roberts <em>Count Us In: How to Make Maths Real for All of Us<\/em><\/a>, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn hir gan GPC. Mae prosiectau eraill yn cynnwys prosiect Mamiaith, Ail Iaith, cystadlaethau sillafu a chenhadon iaith sy\u2019n gyfrifol am annog eu cyd-ddisgyblion trwy weithgareddau iaith \u2013 o ddangos ffilmiau tramor yn yr ysgol, i gynnal cyfrifon cyfryngau cymdeithasol amlieithog a rhedeg Diwrnodau Rhyngwladol yn eu hysgolion (clywsom am ddathliad diweddar o Ddiwrnod y Meirw Mecsico mewn un ysgol yn Ne Cymru a brofodd yn boblogaidd iawn gyda\u2019r disgyblion). Mae\u2019r cynllun Mabwysiadu Dosbarth wedi bod yn llwyddiannus iawn hefyd, sy\u2019n cysylltu dosbarth blwyddyn 9 gyda disgybl o ysgol dramor ac yn sefydlu cyfathrebiad cyson gyda hwy trwy fideo, cardiau post, llythyron ac ymweliadau. Mae\u2019r prosiectau llwyddiannus hyn, a gefnogir gan drefnwyr y noson ar y cyd, yn hanfodol bwysig er mwyn datblygu Cymru yn genedl o ieithyddion talentog ac er mwyn agor drysau diwylliannol i bobl ifanc, ffyrdd newydd o feddwl a chyfleodd busnes. Ond yn yr un ffordd ag y mae dysgu iaith yn siwrne gydol oes, mae angen polisi hir dymor ar gyfer ieithoedd modern yng Nghymru i sicrhau bod cenedlaethau\u2019r dyfodol yn gallu mwynhau\u2019r cyfle i fynegi eu hunain trwy sawl gwahanol iaith. Mae\u2019r gwaith pwysig a gyflawnir gan Lwybrau at Ieithoedd Cymru yn cynrychioli camau cyntaf pwysig ar hyd yr hewl hon. Dal ati! Vive la langue! Si, se puede! #MFL Cymru<\/p>\n<p>Dr Llion Wigley<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cynhaliwyd noson Lansio Tueddiadau Ieithoedd Cymru ac Arddangosiad Llwybrau at Ieithoedd Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ar 2 Mehefin, a drefnwyd gan Lwybrau at Ieithoedd Cymru, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Addysg CfBT, UCML Cymru a CILT Cymru. Cadeiriodd yr Athro Claire Gorrara, cyd-olygydd cyfres Ffrengig a Ffrangeg GPC, rhan gyntaf y noson i grynhoi<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/lansio-tueddiadau-ieithoedd-cymru-ac-arddangosiad-llwybrau-at-ieithoedd-cymru\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4085,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30115"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30115"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30115\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4085"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30115"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30115"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30115"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}