{"id":30105,"date":"2015-05-14T14:45:07","date_gmt":"2015-05-14T13:45:07","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30105\/"},"modified":"2017-03-29T14:45:32","modified_gmt":"2017-03-29T13:45:32","slug":"ffuglen-yn-arloesi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/ffuglen-yn-arloesi\/","title":{"rendered":"FfugLen yn Arloesi"},"content":{"rendered":"<p>Mae Mynediad Agored (Open Access) yn bwnc sydd wedi ysgogi trafodaeth fywiog mewn cylchoedd academaidd ers cryn amser bellach, ac mae yna nifer o astudiaethau a phrosiectau peilot cyfredol sy\u2019n ystyried y cwestiynau cymhleth a godir gan y model hwn o ledaenu gwaith ysgolheigaidd.<\/p>\n<p>Mae Mynediad Agored yn golygu gweithiau academaidd sydd ar gael yn rhad ac am ddim mewn fformat digidol i unrhyw un sydd \u00e2 defnydd o gyfrifiadur, h.y. gallwch eu darllen heb dalu ceiniog.<\/p>\n<p>Serch hynny, nid yw cost cynhyrchu llyfr digidol lawer yn llai nag ydyw i gynhyrchu fersiwn print, yn enwedig pan ystyriwch y costau o gynnal a chadw fersiwn digidol ac ychwanegu\u2019r elfennau sydd eu hangen i sicrhau bod y llyfr yn hawdd i\u2019w ddarganfod. Mae Mynediad Agored yn troi\u2019r dull traddodiadol o gyhoeddi \u2013 lle mae\u2019r cyhoeddwr yn talu am y costau cyhoeddi ac mae\u2019r cwsmer wedyn yn prynu\u2019r llyfr \u2013 ar ei ben. Ond mae\u2019n rhaid i\u2019r costau gael eu talu yn rhywle, gan rywun, ar hyd y daith tuag at gyhoeddi. Mae canfod ateb cynaliadwy i gefnogi Mynediad Agored yn allweddol felly, yn arbennig i gyhoeddwyr bychan academaidd fel Gwasg Prifysgol Cymru (GPC), sy\u2019n gweld gwasanaethu anghenion academaidd y farchnad Gymraeg a Chymreig fel ei phrif flaenoriaeth.<\/p>\n<p>Un ateb posib yw prosiect OAPEN-UK, a ddechreuodd yn 2010 ac sy\u2019n dirwyn i ben cyn hir. Mae GPC wedi bod yn rhan o\u2019r prosiect hwn o\u2019r cychwyn fel aelod o\u2019r gr\u0175p llywio, ochr yn ochr \u00e2 Gwasg Prifysgol Rhydychen a chyhoeddwyr academaidd eraill. Adnabyddir y prosiect hefyd o dan yr enw \u2018Noah\u2019, sy\u2019n disgrifio ei amcanion yn gryno: mae dau lyfr, sydd mor debyg i\u2019w gilydd \u00e2 phosib o ran dyddiad cyhoeddi, pris a fformat, yn cael eu cyplu a\u2019u rhoi ar gael naill ai ar blatfform mynediad agored (rhad ac am ddim), neu eu gwerthu yn y ffordd arferol (fel elfen \u2018reolaeth\u2019). Y syniad yw asesu pa effaith, os o gwbl, mae Mynediad Agored yn ei gael ar werthiant llyfrau.<\/p>\n<p>Mae GPC wedi cyfrannu nifer o barau, yn cynnwys un p\u00e2r arloesol yn y Gymraeg: <a href=\"http:\/\/uwp.celfapps.com\/editions\/9780708321652?dcp=635672014700786250\" target=\"_blank\"><em>FfugLen: Y Ddelwedd o Gymru yn y Nofel Gymraeg o Ddechrau&#8217;r Chwedegau hyd at 1990<\/em><\/a> gan Enid Jones (y teitl Mynediad Agored) a <a href=\"http:\/\/uwp.celfapps.com\/editions\/9780708321621?dcp=635672015105473750\" target=\"_blank\"><em>Hywel ab Owain Gwynedd: Bardd-Dywysog<\/em><\/a> a olygwyd gan Nerys Ann Jones (y teitl \u2018rheolaeth\u2019). Mae GPC yn falch iawn o fod wedi creu hanes trwy gyfrannu\u2019r cyhoeddiad iaith Gymraeg cyntaf i\u2019r arbrawf arloesol hwn mewn cyfnod allweddol yn natblygiad Mynediad Agored, ac rydym yn argymell ein darllenwyr oll i gymryd golwg ar <em>FfugLen<\/em>,ac i fwynhau triniaeth arbennig Enid Jones o\u2019i phwnc, yn rhad ac am ddim trwy\u2019r dolenni canlynol: <a href=\"http:\/\/www.doabooks.org\/doab?func=search&amp;query=kw:%22Literatuur%22\">http:\/\/www.doabooks.org\/doab?func=search&amp;query=kw:%22Literatuur%22<\/a> a <a href=\"https:\/\/books.google.co.uk\/books?id=VLnSTX11IE8C&amp;printsec=frontcover#v=onepage&amp;q&amp;f=false\">https:\/\/books.google.co.uk\/books?id=VLnSTX11IE8C&amp;printsec=frontcover#v=onepage&amp;q&amp;f=false<\/a><\/p>\n<p>Eto, tra bod GPC a\u2019r awdur gyda\u2019i gilydd yn falch o fod wedi cyrraedd y garreg filltir hon mewn ysgolheictod Gymraeg, mae\u2019n bwysig hefyd i ystyried beth fydd goblygiadau Mynediad Agored ar gyfer astudiaethau academaidd yn y Gymraeg. Sut fydd gweithiau Cymraeg yn cael eu hariannu mewn byd Mynediad Agored? Mae gweithiau Mynediad Agored yn Saesneg yn aml yn cael eu cefnogi gan brifysgol yr awdur\/awdures, ond \u2013 fel y tanlinellodd Jasmine Donahaye yn ddiweddar yn y drafodaeth gyfredol ynghylch dyfodol ariannu astudiaethau Cymreig \u2013 a fydd prifysgolion Cymru yn fodlon talu am gyhoeddiadau yn yr iaith Gymraeg? Ymhellach, mae ysgolheictod Gymraeg yn denu ysgolheigion annibynnol dawnus \u2013 ond a fydd y rhain yn cael eu cloi allan o\u2019r byd Mynediad Agored?<\/p>\n<p>Un ddamcaniaeth yw y bydd gweisg academaidd yn gallu ennill y costau yn \u00f4l trwy werthu fersiynau print a fersiynau electronig eraill o\u2019r llyfr, ond nid yw\u2019r ddamcaniaeth wedi ei brofi, ac fe allai beryglu GPC os nad yw\u2019n medru adennill y costau trwy werthiant digonol.<\/p>\n<p>Mae tiriogaeth dieithr Mynediad Agored yn y Gymraeg yn faes cymhleth sy\u2019n galw am drafodaeth bellach ar frys. Bydd canlyniadau OAPEN ar gael cyn diwedd y flwyddyn, a bydd GPC yn eu harchwilio\u2019n fanwl i\u2019w trafod ymhellach ar ei gwefan.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Mynediad Agored (Open Access) yn bwnc sydd wedi ysgogi trafodaeth fywiog mewn cylchoedd academaidd ers cryn amser bellach, ac mae yna nifer o astudiaethau a phrosiectau peilot cyfredol sy\u2019n ystyried y cwestiynau cymhleth a godir gan y model hwn o ledaenu gwaith ysgolheigaidd. Mae Mynediad Agored yn golygu gweithiau academaidd sydd ar gael yn<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/ffuglen-yn-arloesi\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4077,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30105"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30105"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30105\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4077"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30105"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30105"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30105"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}