{"id":30080,"date":"2015-03-27T14:35:40","date_gmt":"2015-03-27T14:35:40","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30080\/"},"modified":"2017-03-29T14:36:33","modified_gmt":"2017-03-29T13:36:33","slug":"yr-athro-geraint-gruffydd-atgofion-cyd-weithiwr-gan-ann-parry-owen","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/yr-athro-geraint-gruffydd-atgofion-cyd-weithiwr-gan-ann-parry-owen\/","title":{"rendered":"Yr Athro Geraint Gruffydd: Atgofion Cyd-weithiwr gan Ann Parry Owen"},"content":{"rendered":"<p>Llun:\u00a0Yr Athro R. Geraint Gruffydd a\u2019r Athro J.E. Caerwyn Williams<\/p>\n<p>Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd MA DPhil DLitt FLSW FBA, yn ei gartref yn Aberystwyth brynhawn Mawrth, 24 Mawrth, yn 86 oed. Ef oedd Cyfarwyddwr cyntaf Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, o 1985, pan fabwysiadwyd y Ganolfan yn ffurfiol yn rhan o Brifysgol Cymru, hyd at ei ymddeoliad yn 1993. Cyn hynny bu\u2019n Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol (1980\u20131985) ac yn Athro\u2019r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth (1970\u201379).<\/p>\n<p>Ceir ysgrif ddadlennol iawn am \u2018Yr Athro Robert Geraint Gruffydd\u2019 gan ei gyfaill, y diweddar J.E. Caerwyn Williams, ar ddechrau\u2019r gyfrol a gyflwynwyd iddo ar achlysur ei ymddeoliad: Beirdd a Thywysogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a\u2019r Alban, gol. Morfydd E. Owen a Brynley F. Roberts (Caerdydd ac Aberystwyth, 1996). Nid yn unig y mae\u2019r ysgrif hon yn crynhoi gyrfa\u2019r Athro Gruffydd, ond mae hefyd yn esbonio llawer am ei ddiddordeb dwfn yn iaith, diwylliant, gwleidyddiaeth a thirwedd Cymru, a hefyd ei wir ddiddordeb a\u2019i gariad at bobl yn gyffredinol. (<a href=\"http:\/\/uwp.celfapps.com\/docs\/halo-asset-manager\/files\/Yr%20Athro%20R_G_G.pdf\" target=\"_blank\">Ceir\u00a0yma\u00a0gopi o\u2019r ysgrif ar lun PDF<\/a>, trwy ganiat\u00e2d Gwasg Prifysgol Cymru.) Hoffwn innau rannu ychydig o\u2019m hatgofion mwy personol am yr Athro, ac yn arbennig am y cyfnod hapus iawn y b\u00fbm i\u2019n cydweithio ag ef ar brosiect Beirdd y Tywysogion ar ddechrau fy ngyrfa yn y Ganolfan.<\/p>\n<p>Deuthum ar draws yr Athro Gruffydd gyntaf yn fyfyriwr ar fy nhrydedd flwyddyn yn yr Adran Gymraeg yn Aberystwyth, yn ceisio dewis pwnc ar gyfer doethuriaeth. Cawswn fy ysbrydoli gan ddarlithoedd Marged Haycock am y Cynfeirdd a Beirdd y Tywysogion, ac ar \u00f4l paratoi traethawd iddi ar Gynddelw Brydydd Mawr o Bowys (\u2018A yw Cynddelw Brydydd Mawr yn fardd da?\u2019), tybiwn fy mod i wedi dod o hyd i bwnc addas yn y bardd hwn, yn enwedig gan mai yn Llangollen, yn yr hen Bowys, yr oedd fy nghartref innau ar y pryd. Rwy\u2019n gwrido erbyn hyn wrth feddwl i mi fod mor hy \u00e2 chysylltu \u00e2\u2019r Athro, a oedd yn Llyfrgellydd Cenedlaethol ar y pryd, i ofyn a fyddai\u2019n hapus i drafod fy syniad ymchwil gyda mi, ond roeddwn wedi fy swyno ar y pryd gan ei ysgrifau ar farddoniaeth ganoloesol: hoffwn yn fawr y modd y trafodai\u2019r hen gerddi fel barddoniaeth yn bennaf, ac nid fel cyfres o broblemau ieithyddol a chystrawennol (er ei fod, wrth gwrs, yn ddigon parod i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r problemau hynny pan fyddai angen). Roedd ei bennod ar y gerdd \u2018Cyntefin Ceinaf Amser\u2019 o Lyfr Du Caerfyrddin yn Ysgrifau Beirniadol IV yn ffefryn gennyf ar y pryd, fel y mae wedi bod ers hynny. Yn gwbl nodweddiadol ohono, rhoddodd ei amser a\u2019i gyngor yn hael iawn i mi, a dysgais innau fod ganddo nid yn unig ddiddordeb mawr ond gwybodaeth ddofn am y bardd hwn a\u2019i gyfoeswyr.<\/p>\n<p>Dwy flynedd yn ddiweddarach, nid oedd yn syndod i mi o gwbl, felly, fod yr Athro Gruffydd wedi ei benodi i arwain t\u00eem ymchwil yn y Ganolfan, gyda\u2019r bwriad o olygu a chyhoeddi holl waith Beirdd y Tywysogion. Penodwyd pump ohonom i ymgymryd \u00e2\u2019r gwaith: Morfydd E. Owen yn gymrawd ymchwil h\u0177n; Nerys Ann Jones, Peredur I. Lynch a minnau\u2019n gymrodyr ymchwil; a Llinos Young (Roberts-Young erbyn hyn) yn gynorthwyydd personol i\u2019r Athro (ond mewn gwirionedd roedd ei dyletswyddau hi\u2019n llawer ehangach na hynny); ac ychydig yn ddiweddarach penodwyd Mary Olwen Owen yn llyfrgellydd. Drws nesaf, mewn ystafell yn llyfrgell yr Adran Gymraeg yn yr Hen Goleg, roedd yr Athro J.E. Caerwyn Williams, yn olygydd mygedol i\u2019r prosiect, yn cadw golwg tadol drosom i gyd ac yn sicrhau cywirdeb ein gwaith.<\/p>\n<p>Cawsom ein cartref cyntaf, trwy garedigrwydd Prifysgol Aberystwyth, mewn t\u0177 Sioraidd rhwng y Coleg Diwinyddol a\u2019r Hen Goleg, t\u0177 a fu\u2019n gartref cyn hynny i ran o Adran Gerdd y Coleg. Pan gyrhaeddasom y gwaith ar y bore cyntaf, 1 Hydref 1985, diflannodd pob nerfusrwydd yn ddigon buan. Nid oedd dim byd yn y t\u0177, dim ond waliau gl\u00e2n newydd eu peintio a charped newydd sbon: dim desg, dim cadair, dim celfi o gwbl a dim ffonau. Dim byd! O edrych yn \u00f4l, hawdd y gellid credu bod hyn wedi bod yn gwbl fwriadol, yn sail i ymarfer \u2018bondio\u2019 (cyn bod y fath gysyniad wedi dod yn gyffredin!). Rhoddodd yr Athro gyfrifoldeb ymarferol i bob un ohonom, ac roedd yn rhaid cydweithio fel t\u00eem o\u2019r cychwyn cyntaf er mwyn gwneud ein cartref newydd yn addas ar ein cyfer. I Peredur Lynch, er enghraifft, rhoddwyd y cyfrifoldeb o ddod o hyd i gelfi dros dro, a bu Nerys a minnau gydag ef yng nghrombil seler yr Hen Goleg yn ceisio dod o hyd i ddesgiau a chadeiriau addas dros dro nes bod rhai newydd yn cael eu harchebu. Nid yn unig y daethom i adnabod ein gilydd yn dda, ond bu\u2019r cyfnod hwn hefyd yn gyfle i greu cysylltiadau pwysig rhyngom a staff y Coleg yn gyffredinol (er enghraifft, porthorion yr Hen Goleg, staff Geiriadur Prifysgol Cymru a\u2019r Llyfrgell Genedlaethol, yr Adran Gymraeg, yr Adran Hanes, yr Uned Gyfrifiaduron a hyd yn oed rhai o staff yr Adran Ffiseg!), cysylltiadau a ddeuai gydag amser yn hanfodol i lwyddiant ein prosiect ymchwil.<\/p>\n<p>Mater cymharol hawdd oedd trosglwyddo\u2019r sgiliau cydweithio hyn i\u2019n gwaith ymchwil. Er bod pawb ohonom wedi derbyn bardd neu feirdd penodol i weithio arnynt, sicrhaodd yr Athro ein bod ni i gyd yn manteisio ar gryfderau ein gilydd, a rhan bwysig o\u2019r gwaith oedd darllen gwaith cydweithwyr a chyd-drafod. Gwaith t\u00eem oedd hwn i fod, a hynny ar adeg pan oedd gweithio mewn t\u00eem yn brin yn y dyniaethau yn gyffredinol, ac yn enwedig yng Nghymru. I ymchwilwyr ifainc fel Nerys, Peredur a minnau ar y pryd, roedd hyn yn beth cyffrous iawn. Roedd arweiniad yr Athro yn gwbl gadarn: roedd pwyslais mawr ar drylwyredd yr ymchwil. Rhaid oedd siecio ystyr pob un gair yn y testun yn Geirfa\u00a0Barddoniaeth Gynnar Gymraeg (J. Lloyd Jones) a Geiriadur Prifysgol Cymru (gan ymweld \u00e2\u2019u casgliad o slipiau os nad oedd y gair hwnnw wedi ei gyhoeddi erbyn hynny); wedyn roedd rhaid siecio gwaith ysgolheigion eraill (yn enwedig golygiadau gan Ifor Williams, Thomas Parry, &amp;c.), ac roedd rhaid dod yn gwbl gyfarwydd \u00e2 Grammar of Middle Welsh gan D. Simon Evans, a Treigladau a\u2019u Cystrawen gan T.J. Morgan. Dim ond ar \u00f4l gwneud y gwaith ymchwil manwl hwn y byddem wedyn yn mentro ar ddehongli ac aralleirio\u2019r testun. Byddai\u2019r Athro Gruffydd a Morfydd Owen yn trafod ein hymdrechion yn fanwl gyda ni \u2013 roedd dawn sythweledol gan yr Athro Gruffydd i weld ystyr llinell a fyddai\u2019n edrych yn gwbl dywyll i ni; ac yr oedd gwybodaeth eang Morfydd Owen am lenyddiaethau Celtaidd yn addysg ac yn rhoi cefndir heb ei ail i ni. Pan fyddem yn barod i gynhyrchu ein drafft cyntaf \u00a0 (ein \u2018copi meistr 1\u2019 fel y bydd fy nghyd-weithwyr yn cofio), yr orchwyl nesaf fyddai gyrru\u2019r gwaith at yr Athro Caerwyn, a byddai ef yn mynd drwyddo gyda chrib m\u00e2n, cyn bod yr alwad yn dod i fynd draw i\u2019w swyddfa yn yr Hen Goleg. Nid anarferol fyddai treulio cwpl o oriau gydag ef ar un llinell!<\/p>\n<p>Un o nodweddion amlwg yr Athro Gruffydd oedd ei natur gwbl ddiymhongar, a hynny nid yn unig yn ei ymwneud \u00e2 phobl yn gyffredinol, ond hefyd yn ei ysgolheictod. Roedd llawer o benderfyniadau anodd i\u2019w gwneud yngl\u0177n \u00e2 methodoleg yn ystod cwrs y prosiect, ac yr oedd yn barod iawn i alw ar gyngor arbenigwyr cyn dod i unrhyw benderfyniad: pobl fel Mr Daniel Huws, Mr Gareth Bevan, yr Athro J. Beverley Smith, Dr Huw Owen, yr Athro Bobi Jones a Dr Roy Stephens i enwi ond ychydig. (Bu farw Dr Stephens yn fuan wedi i\u2019r prosiect gychwyn, ond ef a fuasai\u2019n cynghori\u2019r Athro yngl\u0177n \u00e2 materion cyfrifiadurol, a derbyniodd yr Athro ei gyngor cwbl arloesol ar y pryd fod pob ymchwilydd i gael cyfrifiadur i baratoi testunau yn ddigidol er mwyn hwyluso\u2019r cysodi terfynol.) Felly dyma wers bwysig arall i ni, ymchwilwyr ifainc ar y pryd \u2013 pwysigrwydd gofyn a derbyn cyngor gan arbenigwyr.<\/p>\n<p>Efallai mai\u2019r hyn y byddaf yn ei gofio fwyaf am yr Athro Gruffydd yw ei garedigrwydd eithaf a\u2019i wir ddiddordeb a\u2019i ofal drosom bob un. Roedd llawer o hwyl a chwerthin i\u2019w gael hefyd yn ei gwmni \u2013 a bydd fy nghyd-weithwyr yn cofio\u2019n gynnes am y tripiau aml i\u2019r Caban am goffi a bisged Club, ambell drip i\u2019r Belle Vue os oedd galw am ddathlu go iawn, y fforymau hwyliog, y seminarau wythnosol yng nghwmni nifer o gyfeillion o\u2019r dref a\u2019r ciniawau Nadolig hael yn Eirianfa yn ei gwmni ef a Mrs Gruffydd. Rwy\u2019n teimlo\u2019n hynod o freintiedig i fod wedi cael adnabod dyn mor hyfryd, ac un yr oedd ei ddull o ymwneud ag eraill yn batrwm i ni i gyd ei ddilyn, fel ysgolheigion ac fel pobl yn gyffredinol.<\/p>\n<p>Pan oedd yr Athro yn dathlu ei ben blwydd yn 80 ychydig flynyddoedd yn \u00f4l, ysgrifennodd Peredur Lynch gerdd ar fesur rhupunt iddo, sy\u2019n crynhoi yn wych yr hyn yr wyf innau wedi defnyddio llawer gormod o eiriau wrth geisio ei fynegi:<\/p>\n<p><em>C\u00e2n Disgyblion i\u2019w Hathro<\/em><\/p>\n<p>Ben athrawon,<\/p>\n<p>Ni dy gywion,<\/p>\n<p>A ry\u2019r awron<\/p>\n<p>Dy arwyrain.<\/p>\n<p>I\u2019n diwyllio<\/p>\n<p>Daethom gantro<\/p>\n<p>A, do, heidio<\/p>\n<p>Dan dy adain.<\/p>\n<p>Ag amynedd<\/p>\n<p>Rhoddaist allwedd<\/p>\n<p>Inni i fawredd<\/p>\n<p>Heniaith firain,<\/p>\n<p>A heb untro<\/p>\n<p>Fyth ein dwrdio,<\/p>\n<p>Ein cywiro<\/p>\n<p>Mewn modd cywrain.<\/p>\n<p>Da fu canfod<\/p>\n<p>Cariad hynod<\/p>\n<p>Un diamod<\/p>\n<p>Ym mhob damwain,<\/p>\n<p>A chael swcwr<\/p>\n<p>A chyfnerthwr \u2013<\/p>\n<p>Di, oreugwr<\/p>\n<p>Pedwar ugain!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Llun:\u00a0Yr Athro R. Geraint Gruffydd a\u2019r Athro J.E. Caerwyn Williams Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd MA DPhil DLitt FLSW FBA, yn ei gartref yn Aberystwyth brynhawn Mawrth, 24 Mawrth, yn 86 oed. Ef oedd Cyfarwyddwr cyntaf Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, o 1985, pan fabwysiadwyd y Ganolfan<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/yr-athro-geraint-gruffydd-atgofion-cyd-weithiwr-gan-ann-parry-owen\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":30081,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30080"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30080"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30080\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/30081"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30080"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30080"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30080"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}