{"id":30078,"date":"2015-03-26T14:34:13","date_gmt":"2015-03-26T14:34:13","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30078\/"},"modified":"2017-03-29T14:34:45","modified_gmt":"2017-03-29T13:34:45","slug":"barn-or-brifysgol-helgard-krause-gwasg-prifysgol-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/barn-or-brifysgol-helgard-krause-gwasg-prifysgol-cymru\/","title":{"rendered":"Barn o\u2019r Brifysgol &#8211; Helgard Krause, Gwasg Prifysgol Cymru"},"content":{"rendered":"<ul>\n<li>Erthygl i\u2019r <em>Western Mail<\/em> am y newidiadau cyflym mewn technolegau digidol, a\u2019r penderfyniadau a\u2019r prosesau sy\u2019n rhan o\u2019r gwaith o ddigido \u00f4l-gatalog helaeth y Wasg.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r newidiadau cyflym mewn technolegau digidol wedi cyflwyno llawn cymaint o gyfleoedd ag o heriau i gyhoeddwyr, a dyw Gwasg Prifysgol Cymru ddim yn eithriad. Ers peth amser rydym ni wedi bod yn cyhoeddi llyfrau print ac e-lyfrau ar yr un pryd ar gyfer y mwyafrif o\u2019n teitlau, ond ceir \u00f4l-gatalog helaeth o hyd o lyfrau nad ydyn nhw ar gael ar hyn o bryd mewn fformat digidol. Dyw hyn ddim yn syndod o ystyried ein bod wedi bod yn cyhoeddi llyfrau ers 1922.<\/p>\n<p>Wrth benderfynu beth i\u2019w ddigido o\u2019n h\u00f4l-restr, rydym ni\u2019n ystyried nifer o ffactorau, ond mae gofynion y farchnad yn amlwg yn bwysig iawn. Roeddem ni felly\u2019n croesawu adborth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, aeth ati mewn ymgynghoriad \u00e2 darlithwyr sy\u2019n addysgu amrywiaeth o bynciau ar lefel Prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg, i ddarparu rhestr o lyfrau i\u2019w digido. Cyhoeddwyd y llyfrau hyn yn wreiddiol gan y Wasg ond erbyn hyn naill ai does dim stoc ar \u00f4l neu mae\u2019n anodd cael gafael arnyn nhw; doedden nhw ddim erioed wedi bod ar gael yn ddigidol, ond eto roedden nhw\u2019n gyfrolau hanfodol neu bwysig ar nifer o gyrsiau. Gan fod llyfrau Cymraeg yn ganolog i\u2019n cenhadaeth, doedd hi ddim yn anodd penderfynu mynd ati i adfywio dros hanner cant o gyfrolau drwy eu digido. Yn fuan iawn bydd y rhain ar gael i\u2019w defnyddio ar dabledi, cyfrifiaduron neu drwy lyfrgelloedd. Rydym ni wrth ein bodd ein bod yn gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol a diriaethol i waith cyffredinol y Coleg, a gyda hynny mewn golwg, bydd yr elyfrau hyn yn fforddiadwy, ar bris o lai na \u00a310.<\/p>\n<p>Er nad yw\u2019r broses ynddi ei hun yn gymhleth, nid mater o redeg y testun drwy raglen gyfrifiadurol yn unig yw digido llyfrau, o leiaf pan fydd ansawdd a safonau\u2019n ystyriaeth ganolog. Dim ond mewn fformat print mae\u2019r mwyafrif o\u2019r llyfrau ar restr y Coleg wedi bodoli erioed, sy\u2019n golygu y gallai fod angen eu haildeipio i\u2019w trosi\u2019n elyfrau, sydd yn ei dro\u2019n golygu y byddai angen eu prawf ddarllen i ymdopi \u00e2\u2019r gwallau dynol anochel a allai ddigwydd wrth aildeipio. Problem bosibl arall yw\u2019r setiau nodau penodol mewn Cymraeg Canol a all beri trafferth i rai systemau digido. O ystyried y dylai sillafu ac iaith gywir fod yn ganolog i unrhyw gyhoeddiad academaidd, rhaid bod yn hynod o ofalus wrth greu cyfrol ddigidol i sicrhau y bydd yr un mor deilwng o\u2019r Wasg \u00e2\u2019r argraffiad print gwreiddiol.<\/p>\n<p>Wrth gwrs mae\u2019n wir fod llawer o fyfyrwyr yn dal i ffafrio llyfrau print, ond efallai nad yw\u2019r galw yn y farchnad yn ddigonol i gyfiawnhau rhediad print newydd, a dyma lle mae technoleg ddigidol yn werthfawr i sicrhau bod y gyfrol yn dal i fod ar gael. Wrth lwc heddiw mae \u2018argraffu ar alw\u2019 yn cynnig datrysiad hawdd ac rydym ni\u2019n bwriadu cynnig y dewis hwnnw ochr yn ochr \u00e2\u2019r cyfrolau digidol newydd. Mae \u2018argraffu ar alw\u2019 yn cynnig hyblygrwydd i ddarllenwyr brynu eu dewis fformat ac yn golygu nad oes rhaid i\u2019r cyhoeddwr glymu adnoddau gwerthfawr mewn rhediadau print mawr neu araf. Mae pob un o\u2019n teitlau ar gael mewn nifer o siopau llyfrau a gan werthwyr ar-lein, gan gynnwys ein gwefan ni <a href=\"https:\/\/www.gwasgprifysgolcymru.org\/\">uwp.celfapps.com\/cy\/<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Helgard Krause Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru <\/strong><\/p>\n<p>Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn y <em>Western Mail<\/em> ddydd Iau 26 Mawrth 2015<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Erthygl i\u2019r Western Mail am y newidiadau cyflym mewn technolegau digidol, a\u2019r penderfyniadau a\u2019r prosesau sy\u2019n rhan o\u2019r gwaith o ddigido \u00f4l-gatalog helaeth y Wasg. Mae\u2019r newidiadau cyflym mewn technolegau digidol wedi cyflwyno llawn cymaint o gyfleoedd ag o heriau i gyhoeddwyr, a dyw Gwasg Prifysgol Cymru ddim yn eithriad. Ers peth amser rydym ni<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/barn-or-brifysgol-helgard-krause-gwasg-prifysgol-cymru\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3952,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30078"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30078"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30078\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3952"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30078"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30078"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30078"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}