{"id":30059,"date":"2015-01-29T14:11:38","date_gmt":"2015-01-29T14:11:38","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30059\/"},"modified":"2017-03-29T14:12:34","modified_gmt":"2017-03-29T13:12:34","slug":"digideiddio-clasuron-gwasg-prifysgol-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/digideiddio-clasuron-gwasg-prifysgol-cymru\/","title":{"rendered":"Digideiddio Clasuron Gwasg Prifysgol Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Dros y deunaw mis nesaf bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cyhoeddi fersiynau digidol o rai o\u2019i chlasuron a restrwyd gan ddarlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel gweithiau sydd o ddefnydd arbennig ar gyfer dysgu myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ystod eang o bynciau &#8211; yn cynnwys Athroniaeth, Hanes, Y Gyfraith a Gwyddoniaeth. Bwriad y Wasg yw cyhoeddi\u2019r gweithiau a restrwyd mewn fformat electronig am bris rhesymol i\u2019w rhoi o fewn gafael myfyrwyr i\u2019w prynu a\u2019u defnyddio.<\/p>\n<p>Mae\u2019r llyfrau ar y rhestr yn cynnwys rhai o weithiau ysgolheigaidd Cymraeg mwyaf arloesol a meistrolgar yr ugeinfed ganrif &#8211; cyfieithiadau Emrys Evans o weithiau Platon; cyfrolau R. T. Jenkins ar hanes Cymru yn y ddeunawfed a\u2019r bedwaredd ganrif ar bymtheg; gweithiau Henry Lewis ac Arwyn Watkins ar ieithyddiaeth; ac arweinlyfrau R. I. Aaron a D. James Jones i hanes athroniaeth y cyfnod Groegaidd a\u2019r cyfnod modern, o Socrates i Hegel. Mae\u2019r teitlau hyn yn rhan o\u2019r cyfoeth o gyfrolau ysgolheigaidd Cymraeg a gyhoeddwyd ers cychwyn Gwasg Prifysgol Cymru ym 1922, a bydd eu digideiddio yn eu rhoi o fewn cyrraedd cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr a myfyrwyr.<\/p>\n<p>Dywedodd Cyfarwyddwr y Wasg, Helgard Krause:<\/p>\n<p>\u201cMae cyhoeddiadau yn yr iaith Gymraeg wedi bod o\u2019r pwysigrwydd mwyaf i Wasg Prifysgol Cymru ers ei dechreuad yn y 1920au, ac rwy\u2019n hynod o falch ein bod yn gallu gwneud defnydd o\u2019r dechnoleg ddiweddaraf i ail-gyhoeddi\u2019r llyfrau hyn\u201d.<\/p>\n<p>Bydd y llyfrau ar gael i\u2019w prynu trwy wefan Gwasg Prifysgol Cymru.<\/p>\n<p>Bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn gwneud pob ymgais i sicrhau bod awduron neu ystadau awduron y gweithiau sy\u2019n cael eu digideiddio yn derbyn breindaliadau ar unrhyw werthiant o\u2019r fersiynau digidol newydd o\u2019u llyfrau. Cyhoeddwyd amryw o\u2019r llyfrau cyn yr Ail Ryfel Byd mewn cyfnod pan nad oedd cytundebau ffurfiol ysgrifenedig rhwng awduron a chyhoeddwyr yn bodoli ym mhob achos.<\/p>\n<p>Os ydych yn ysgutor ar gyfer yst\u00e2d unrhyw un o\u2019r awduron ar y rhestr ganlynol, also available on the University of Wales Website, cysylltwch \u00e2 Llion Wigley, Golygydd Comisiynu Gwasg Prifysgol Cymru, (<a href=\"https:\/\/mail.google.com\/mail\/?view=cm&amp;fs=1&amp;tf=1&amp;to=Llion.Wigley@gwasg.cymru.ac.uk\" target=\"_blank\">Llion.Wigley@gwasg.cymru.ac.uk<\/a> neu 02920 557445) er mwyn sicrhau talu breindaliadau i\u2019r person cywir.<\/p>\n<p><em>Gwaith Tudur Aled\u00a0<\/em>(gol.) T. Gwynn Jones<\/p>\n<p><em>Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif\u00a0<\/em>gan R. T. Jenkins<\/p>\n<p><em>Geirfa \u00a0Barddoniaeth Gynnar Gymraeg<\/em><em>, 2 gyfrol\u00a0<\/em>gan J. Lloyd-Jones<\/p>\n<p><em>Hanes Athroniaeth o Descartes i Hegel\u00a0<\/em>gan R. I. Aaron<\/p>\n<p><em>Y Groegiaid Gynt (Cyfres y Brifysgol a&#8217;r Werin Rhif 11)\u00a0<\/em>gan T. Hudson-Williams<\/p>\n<p><em>Hanes Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg\u00a0<\/em>gan R. T. Jenkins<\/p>\n<p><em>Platon &#8211; Amddiffyniad Socrates\u00a0<\/em>(cyf.) D. Emrys Evans<\/p>\n<p><em>Elfennau Cemeg\u00a0<\/em>gan R. O. Davies<\/p>\n<p><em>Gerallt Gymro: Hanes y Daith trwy Gymru, Disgrifiad o Gymru\u00a0<\/em>(cyf.) Thomas Jones<\/p>\n<p><em>Platon &#8211; Phaedon\u00a0<\/em>(cyf.) D. Emrys Evans<\/p>\n<p><em>Hanes Athroniaeth, y Cyfnod Groegaidd (Cyfres y Brifysgol a&#8217;r werin Rhif 19)\u00a0<\/em>gan D. James Jones<\/p>\n<p><em>Platon &#8211; Ewthyffron-Criton\u00a0<\/em>(cyf.) D. Emrys Evans<\/p>\n<p><em>Y Wladwriaeth a&#8217;i Hawdurdod (Cyfres y Brifysgol a&#8217;r werin Rhif 20)\u00a0<\/em>gan Hywel D. Lewis a J. Alun Thomas<\/p>\n<p><em>Yr Elfen Ladin yn yr Iaith Gymraeg\u00a0<\/em>gan Henry Lewis<\/p>\n<p><em>Platon &#8211; Gorgias\u00a0<\/em>(cyf.) D. Emrys Evans<\/p>\n<p><em>Breudwyt Ronabwy: Allan o\u2019r Llyfr Coch o Hergest\u00a0<\/em>(gol.) Melville Richards<\/p>\n<p><em>Baledi Morgannwg\u00a0<\/em>gan Ben Bowen Thomas<\/p>\n<p><em>Plato(n): Y Wladwriaeth\u00a0<\/em>(cyf.) D. Emrys Evans<\/p>\n<p><em>Ieithyddiaeth: Agweddau ar Astudio Iaith\u00a0<\/em>gan T. Arwyn Watkins<\/p>\n<p><em>Gweithiau William Williams, Pantycelyn. Cyfrol II\u00a0<\/em>gan Garfield Hughes<\/p>\n<p><em>Crefyddau&#8217;r Dwyrain\u00a0<\/em>gan Cyril H. Williams<\/p>\n<p><em>Meistri\u2019r Canrifoedd <\/em>(gol.) R. Geraint Gruffydd<\/p>\n<p><em>The Linguistic Geography of Wales: A Contribution to Welsh Dialectology\u00a0<\/em>gan Alan R. Thomas<\/p>\n<p><em>Y Traddodiad Barddol\u00a0<\/em>gan Gwyn Thomas<\/p>\n<p><em>Historia Gruffud vab Kenan\u00a0<\/em>(gol.) D. Simon Evans<\/p>\n<p><em>Aristoteles: Barddoneg\u00a0<\/em>(cyf.) J. Gwyn Griffiths<\/p>\n<p><em>Ysgrifau Athronyddol ar Grefydd (Cyfres Beibl a Chrefydd 5)\u00a0<\/em>(gol.)\u00a0J.I. Daniel a John Fitzgerald<\/p>\n<p><em>Datblygiad yr Iaith Gymraeg\u00a0<\/em>gan Henry Lewis<\/p>\n<p><em>Y Meddwl Cyfoes\u00a0<\/em>(gol.) Meredydd Evans<\/p>\n<p><em>Cyflwyniad i Astudio&#8217;r Iaith Gymraeg\u00a0<\/em>gan David Thorne<\/p>\n<p><em>Llywelyn ap Gruffudd Tywysog Cymru\u00a0<\/em>gan J. Beverley Smith<\/p>\n<p><em>Cyfres Beirdd y Tywysogion\u00a0<\/em>(gol. cyffredinol)\u00a0R. Geraint Gruffydd<\/p>\n<p><em>Cerddi Saunders Lewis\u00a0<\/em>(gol.) R. Geraint Gruffydd<\/p>\n<p><em>Crefft y Cyfarwydd: Astudiaeth o Dechnegau Naratif yn Y Mabinogion\u00a0<\/em>gan Sioned Davies<\/p>\n<p><em>Y Meddwl Cymreig\u00a0<\/em>gan W. J. Rees<\/p>\n<p><em>Beirdd a Thywysogion. Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a&#8217;r Alban\u00a0<\/em>gan\u00a0Morfudd E. Owen a Brynley F. Roberts<\/p>\n<p><em>Tir Neb: Rhyddiaeth Gymraeg a&#8217;r Rhyfel Byd Cyntaf\u00a0<\/em>gan Gerwyn Wiliams<\/p>\n<p><em>Yr Arglwydd Rhys\u00a0<\/em>gan\u00a0Nerys Ann Jones a Huw Pryce<\/p>\n<p><em>Dram\u00e2u Saunders Lewis: Y Casgliad Cyflawn<\/em><em> [Cyfrol 1 a 2]\u00a0<\/em>(gol.) Ioan M. Williams<\/p>\n<p><em>Wallace: Gwyddonydd Anwyddonol\u00a0<\/em>gan Elwyn Hughes<\/p>\n<p><em>Aristoteles: Moeseg Nicomachaidd\u00a0<\/em>(cyf.) John Fitzgerald<\/p>\n<p><em>Ysbryd y Cwlwm: Delwedd y Genedl yn ein Llenyddiaeth\u00a0<\/em>gan R. M. Jones<\/p>\n<p><em>Hywel ab Owain Gwynedd: Bardd Dywysog\u00a0<\/em>gan Nerys Ann Jones<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dros y deunaw mis nesaf bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cyhoeddi fersiynau digidol o rai o\u2019i chlasuron a restrwyd gan ddarlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel gweithiau sydd o ddefnydd arbennig ar gyfer dysgu myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ystod eang o bynciau &#8211; yn cynnwys Athroniaeth, Hanes, Y Gyfraith a Gwyddoniaeth. Bwriad<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/digideiddio-clasuron-gwasg-prifysgol-cymru\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3962,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30059"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30059"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30059\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3962"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30059"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30059"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30059"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}