{"id":30057,"date":"2015-01-27T14:10:59","date_gmt":"2015-01-27T14:10:59","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30057\/"},"modified":"2017-03-29T14:11:34","modified_gmt":"2017-03-29T13:11:34","slug":"monograffau-a-mynediad-agored","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/monograffau-a-mynediad-agored\/","title":{"rendered":"Monograffau a Mynediad Agored"},"content":{"rendered":"<p>Mae canlyniadau Prosiect Monograffau a Mynediad Agored Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, a arweiniwyd gan Yr Athro Geoffrey Cossick, wedi cael eu cyhoeddi wythnos diwethaf. Mae\u2019r adroddiad yn gwneud cyfraniad gwerthfawr ac amserol i\u2019r drafodaeth ar Fynediad Agored yn y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn cydnabod yr her a\u2019r cyfleoedd posib mae Mynediad Agored yn cynnig. Caiff monograffau eu cydnabod fel rhan hanfodol bwysig o gyfathrebu ysgolheigaidd, ac mae\u2019r adroddiad yn pwysleisio bod cael fersiwn printiedig o fonograff ar gael, yn ogystal \u00e2 fersiwn ddigidol, yn hollbwysig. Cydnabyddir fod gan Fynediad Agored gryn dipyn i\u2019w gynnig o ran cynyddu effaith monograffau, ond cynghorir gofal mewn sawl maes, yn cynnwys trwyddedu, hawliau trydydd parti, ystyriaethau polisi a\u2019r angen am fodel busnes cynaliadwy. Trafodir r\u00f4l materoldeb y llyfr corfforol a chryfderau canfyddedig y fersiwn brint yn yr adroddiad hefyd. Mae\u2019r adroddiad yn crynhoi ei chasgliadau ynghyd er budd i\u2019r darllenydd, ac yn gwneud darllen delfrydol i unrhyw un sy\u2019n dymuno deall y drafodaeth gymhleth o amgylch Mynediad Agored, a\u2019r cyfleoedd posib yn ogystal \u00e2\u2019r her mae\u2019n cynnig. Bydd Cyngor Cyllido Addysgu Uwch Lloegr yn ystyried argymhellion yr adroddiad, gan gydnabod y dylai unrhyw gam tuag at bolis\u00efau ar fonograffau Mynediad Agored gael eu cymryd trwy broses drylwyr o drafod ac ymgynghori. Gellir darllen yr adroddiad llawn trwy wefan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr: <a href=\"http:\/\/www.hefce.ac.uk\/pubs\/rereports\/year\/2015\/monographs\/\">http:\/\/www.hefce.ac.uk\/pubs\/rereports\/year\/2015\/monographs\/<\/a><\/p>\n<p>Sarah Lewis a Llion Wigley<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae canlyniadau Prosiect Monograffau a Mynediad Agored Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, a arweiniwyd gan Yr Athro Geoffrey Cossick, wedi cael eu cyhoeddi wythnos diwethaf. Mae\u2019r adroddiad yn gwneud cyfraniad gwerthfawr ac amserol i\u2019r drafodaeth ar Fynediad Agored yn y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn cydnabod yr her a\u2019r cyfleoedd posib mae Mynediad Agored<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/monograffau-a-mynediad-agored\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3795,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30057"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30057"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30057\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3795"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30057"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30057"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30057"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}