{"id":30051,"date":"2014-12-09T14:08:10","date_gmt":"2014-12-09T14:08:10","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30051\/"},"modified":"2017-03-29T14:08:55","modified_gmt":"2017-03-29T13:08:55","slug":"astudiaethau-cymreig-y-ffordd-ymlaen-gregynog-26-tachwedd-2014","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/astudiaethau-cymreig-y-ffordd-ymlaen-gregynog-26-tachwedd-2014\/","title":{"rendered":"Astudiaethau Cymreig: y ffordd ymlaen \u2013 Gregynog, 26 Tachwedd 2014"},"content":{"rendered":"<div id=\"blog-body\" class=\"ajaxcontainer\">\n<div id=\"12886-richtext-1\" class=\"halo-container\">\n<div class=\"richtext content\">\n<p>Mynychais gynhadledd undydd yn ddiweddar wedi\u2019i threfnu gan y Gymdeithas Ddysgedig yng Nghymru, gyda chefnogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, er mwyn trafod dyfodol Astudiaethau Cymreig. Roedd y trefnwyr wedi casglu rhestr nodedig o siaradwyr a chynadleddwyr ynghyd, yn cynnwys academyddion blaenllaw o feysydd hanes a llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig. Croesawodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas Ddysgedig, bawb i leoliad hardd y gynhadledd yng Ngregynog, cyn i\u2019r Athro M. Wynn Thomas \u2013 sydd wedi gweithio\u2019n ddiflino i geisio sicrhau fod y ddarpariaeth ar gyfer Astudiaethau Cymreig yn cael ei gyllido\u2019n ddigonol \u2013 amlinellu\u2019r peryglon posib sy\u2019n wynebu\u2019r maes o ganlyniad i doriadau diweddar mewn cyllid ac ymddeoliadau arfaethedig nifer o academyddion pwysig yng Nghymru. Pwysleisiodd yr angen dirfawr i greu Cymdeithas Astudiaethau Cymreig a fyddai\u2019n dod \u00e2 phobl at ei gilydd yng Nghymru er mwyn lob\u00efo\u2019n effeithiol ar gyfer normaleiddio a hybu Astudiaethau Cymreig yn ein hysgolion a\u2019n prifysgolion \u2013 rhywbeth sydd heb gael ei wneud yn systematig hyd yma.<\/p>\n<p>Dilynodd Dr Susan Hodgett, cymdeithasegydd o Brifysgol Ulster sydd hefyd yn Gadeirydd Cyngor y DU er Cymdeithasau Astudiaethau Ardal, araith angerddol Wynn Thomas gyda golwg cymharol a diddorol yn manylu ar ei phrofiadau fel academydd yng Ngogledd Iwerddon a Chanada a\u2019r ffordd y mae\u2019r profiadau hyn yn dangos sut y gall astudiaethau ardal fod o gymorth i ni ddeall yn well y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn meddwl ac yn ymddwyn mewn gwahanol rannau o\u2019r byd, ac hefyd i ganiat\u00e1u i academyddion weithio ar draws ffiniau disgyblaethol ac ehangu eu methodoleg wrth wneud. Yn y cyflwyniad nesaf ategodd Helgard Krause, Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru\u00a0<strong>(a welir uchod)<\/strong>, pa mor gadarn yw ymrwymiad y Wasg i Astudiaethau Cymreig \u2013 ymrwymiad sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn sail i\u2019w gyhoeddiadau ers yn agos at ganrif.<\/p>\n<p>Cyflwynodd Mari Fflur, Swyddog Cyhoeddiadau newydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, drosolwg cynhwysfawr o waith y Coleg a\u2019r camau breision y mae ei staff wedi\u2019u cymryd i ehangu\u2019r ddarpariaeth ar gyfer yr astudiaeth o ystod o bynciau academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg mewn cyfnod byr o amser ers 2011. Cyflwyniad Rob Humphreys a\u2019r Athro Trevor Herbert o\u2019r Brifysgol Agored ddaeth nesaf, yn amlinellu\u2019r adnoddau poblogaidd ym maes Astudiaethau Cymreig y mae\u2019r Brifysgol wedi\u2019u datblygu dros gyfnod o ddau ddegawd, e.e. mae\u2019r cwrs ar-lein <em>Welsh History and its sources<\/em>, a seiliwyd ar gyfres o gyfrolau a gyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru yn yr 1980au a\u2019r 1990au, wedi derbyn clod mewn arolygon adborth myfyrwyr, y mwyafrif ohonynt o\u2019r tu allan i Gymru.<\/p>\n<p>Dilynodd cyfres o weithdai ar \u00f4l cinio, gyda grwpiau yn llunio syniadau defnyddiol ar sut y dylai unrhyw Gymdeithas Astudiaethau Cymreig gael ei drefnu a\u2019i redeg, a thrafodwyd y syniadau hynny ar y cyd yn sesiwn olaf y dydd. Ffactor bwysig yn hyn oll yw\u2019r adolygiad o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru y mae Syr Ian Diamond wrthi\u2019n ei gwblhau ar ran Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Gellir anfon tystiolaeth o blaid Astudiaethau Cymreig at Lywodraeth Cymru gan defnyddio\u2019r ddolen ganlynol:<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/wales.gov.uk\/topics\/educationandskills\/highereducation\/review-of-he-funding-and-student-finance-arrangements\/?skip=1&amp;lang=cy\">http:\/\/wales.gov.uk\/topics\/educationandskills\/highereducation\/review-of-he-funding-and-student-finance-arrangements\/?skip=1&amp;lang=cy<\/a><\/p>\n<p>Llion Wigley<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mynychais gynhadledd undydd yn ddiweddar wedi\u2019i threfnu gan y Gymdeithas Ddysgedig yng Nghymru, gyda chefnogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, er mwyn trafod dyfodol Astudiaethau Cymreig. Roedd y trefnwyr wedi casglu rhestr nodedig o siaradwyr a chynadleddwyr ynghyd, yn cynnwys academyddion blaenllaw o feysydd hanes a llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig. Croesawodd Syr Emyr Jones Parry,<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/astudiaethau-cymreig-y-ffordd-ymlaen-gregynog-26-tachwedd-2014\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3945,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30051"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30051"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30051\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3945"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30051"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30051"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30051"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}