{"id":30049,"date":"2014-11-18T14:06:52","date_gmt":"2014-11-18T14:06:52","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30049\/"},"modified":"2017-03-29T14:07:17","modified_gmt":"2017-03-29T13:07:17","slug":"cynhadledd-archaeorffennol-2014","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cynhadledd-archaeorffennol-2014\/","title":{"rendered":"Cynhadledd ArchaeOrffennol 2014"},"content":{"rendered":"<div id=\"blog-body\" class=\"ajaxcontainer\">\n<div id=\"12878-richtext-1\" class=\"halo-container\">\n<div class=\"richtext content\">\n<p>Daeth cynulleidfa sylweddol at ei gilydd yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd flynyddol archaeoleg Amgueddfa Cymru ar ddydd Sadwrn, 15 Tachwedd, a hithau\u2019n ddiwrnod o dywydd gwlyb. Cychwynnodd Peter Wakelin, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yr Amgueddfa, y diwrnod gyda sgwrs ddifyr ar Safleoedd Treftadaeth y Byd, yn arbennig y tri sydd yng Nghymru eisoes: cestyll a muriau trefol Edward I yng Ngwynedd; Blaenafon; a thraphont dd\u0175r Pontcysyllte. Dangosodd sut mae rhoi statws safle treftadaeth iddynt wedi trawsnewid yr ardaloedd hyn trwy ddenu twristiaeth a chreu swyddi newydd &#8211; mae dros 500,000 o dwristiaid y flwyddyn yn ymweld \u00e2 Phontycysyllte bellach, er enghraifft.<\/p>\n<p>Traddododd Stuart Needham, cymrawd ymchwil Amgueddfa Cymru, y brif ddarlith: <em>Arfau\u2019r Oes a Fu: datblygiad a diflaniad yr halberd yng Nghymru\u2019r Oes Gopr<\/em>. Darganfyddiad diweddar o halberd yn ardal Trecastell, Powys, oedd prif ffocws ei ddarlith. Disgrifiodd sut mae\u2019r darganfyddiad hwn wedi ein galluogi i ddeall yn well sut y defnyddiwyd yr halberd yng Nghymru\u2019r Oes Gopr. Ei ddadl oedd bod yr halberd wedi cael ei ddefnyddio fel arf yn bennaf, ond fod ganddo hefyd bwysigrwydd symbolaidd fel ffordd o ddynodi aelodaeth o gr\u0175p arbennig, ac fe\u2019i defnyddiwyd hefyd fel rhan o ddefodau gwahanol. Ysgogodd ei ddadl ymateb fywiog gan y gynulleidfa, gyda rhai yn dadlau mai teclyn amaethyddol a ddefnyddiwyd ym mywyd pob dydd oedd yr halberd, yn hytrach nag arf. Atebodd Dr Needham trwy ddangos bod rhai o\u2019r marciau ar y darganfyddiad diweddar o Drecastell yn awgrymu\u2019n gryf ei fod wedi cael ei ddefnyddio fel arf yn hytrach na theclyn amaethu.<\/p>\n<p>Y siaradwr nesaf oedd Mark Lodwick, cydlynydd Henebion Cludadwy Cymru. Dull o gofnodi a chyhoeddi darganfyddiadau archeolegol gan aelodau\u2019r cyhoedd yw\u2019r Cynllun Henebion Cludadwy, a chanolbwyntiodd papur Lodwick ar ddarganfyddiadau newydd yng Nghymru drwy\u2019r Cynllun. Trafododd a disgrifiodd rai o\u2019r darganfyddiadau archeolegol mwyaf pwysig ac arwyddocaol diweddar mewn tri phrif ardal: ardal Sain Ffagan a\u2019r cyffiniau; ardal Penllyn, Bro Morgannwg; ac ardal Bae Abertawe. Mae nifer o eitemau pwysig ac anghyffredin o\u2019r Oes Efydd wedi cael eu darganfod yn ardal Bae Abertawe yn benodol.<\/p>\n<p>Cyflwynodd Mark Redknap, sy\u2019n guradur ar yr Oesoedd Canol o fewn adran Hanes ac Archaeoleg yn yr Amgueddfa, ddau bapur ar \u00f4l cinio. Yn y cyntaf, <em>Clawdd Offa: diogelu treftadaeth a thystiolaeth newydd<\/em>,\u00a0 manylodd ar waith arloesol Cyril Fox, yr archeolegydd o fri, rhwng 1925 a 1932 yn mapio a sefydlu union hyd Clawdd Offa, y credwyd yn draddodiadol ei fod wedi ymestyn o un arfordir i\u2019r llall. Cyflwynodd ddarlun byw o grwydradau hamddenol ond penderfynol Fox ar hyd y Clawdd, gyda\u2019i wraig ac amryw gyfaill yn ei gynorthwyo. Mae\u2019r Clawdd wedi \u00a0ei ddifrodi\u2019n sylweddol gan amrywiol ffactorau ers hynny, yn cynnwys pori a thyrchu gan anifeiliaid ac erydiad a achosir gan dwristiaid. Eglurodd Redknap fod cynllun rheolaeth ar waith erbyn hyn er mwyn ymateb i\u2019r bygythiadau a sicrhau fod Clawdd Offa yn cael ei warchod.<\/p>\n<p>Testun ail bapur Redknap oedd <em>Y Sacsoniaid a\u2019r Llychlynwyr yng Ngogledd Cymru: Canfyddiadau newydd a\u2019u harwyddoc\u00e2d. <\/em>Disgrifiodd y cyfoeth arbennig o ddeunydd yn ymwneud \u00e2 chyrchoedd y Llychlynwyr yng Ngogledd Cymru yn ystod teyrnasiad Rhodri Fawr a ganfuwyd yn safle Llanbedr Goch yn Sir F\u00f4n. Mae\u2019r deunydd yma\u2019n cynnwys ysgerbydau chwech o bobl y credir iddynt gael eu lladd yn ystod cyrchoedd y Llychlynwyr. Roedd dwylo un o\u2019r sgerbydau y tu \u00f4l i\u2019w gefn, sy\u2019n awgrymu\u2019n gryf ei fod wedi cael ei rwymo. Mae\u2019r dystiolaeth o Lanbedr Goch wedi ein galluogi i adeiladu darlun llawer cliriach o\u2019r berthynas gymhleth a fodolai rhwng y Cymry a\u2019r Llychlynwyr yn y nawfed a\u2019r degfed ganrif.<\/p>\n<p>Papur gan Robert Protheroe Jones, curadur casgliadau diwydiannau trwm Amgueddfa Cymru, a ddilynodd seibiant byr am goffi, gyda\u2019r teitl <em>Paentiadau, Ffotograffau a Ffwrneisi: Dehongli lluniau diwydiannol hanesyddol drwy gyfrwng celf<\/em>. Roedd y papur yn gyflwyniad difyr dros ben i\u2019r dystiolaeth o ddatblygiad y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru y mae amrywiol baentiadau, darluniadau a ffotograffau o\u2019r ddeunawfed a\u2019r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ei gynnig. Yn anffodus, ni chafodd treftadaeth ddiwydiannol Cymru ei ddogfennu\u2019n dda iawn o ran ffotograffau, oherwydd dim ond o\u2019r 1890au ymlaen y ceir tystiolaeth ffotograffig sylweddol o\u2019r prif safleoedd diwydiannol, ac erbyn hynny roeddynt wedi datblygu\u2019n weddol gyflawn. Ymhellach, prin iawn yw\u2019r cynlluniau pensaern\u00efol\u00a0 sydd wedi goroesi o\u2019r safleoedd hyn, sy\u2019n golygu ein bod yn ddibynnol i raddau helaeth ar yr ychydig baentiadau a darluniadau a gr\u00ebwyd wrth i\u2019r safleoedd dyfu. Paentiwyd amryw o\u2019r rhain gan dwristiaid a ymwelodd \u00e2 Chymru fel rhan o\u2019r \u2018Daith Fawr\u2019 yn ystod y cyfnod Napoleonaidd, cymaint oedd y cyfyngiadau ar deithio yn Ewrop ar y pryd. Gwaith artistiaid a noddwyd gan rai o\u2019r barwniaid diwydiannol yw eraill &#8211; paentiodd Penry Williams weithfeydd haearn Cyfarthfa ar ran y teulu Crawshay, er enghraifft. Dangosodd Protheroe Jones sut y gellir defnyddio lluniau fel y rhain i oresgyn peth o\u2019r her wrth ddehongli safleoedd diwydiannol y mae\u2019r diffyg deunydd darluniadol a disgrifiadol swyddogol yn ei achosi.<\/p>\n<p>Siaradwr olaf y diwrnod oedd Edward Besly, arbenigwr niwmismateg sy\u2019n gweithio i Amgueddfa Cymru, a\u2019i destun oedd <em>Celciau a chasglu yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr<\/em>. Disgrifiodd y casgliad sylweddol o geiniogau o gyfnod y Rhyfel Cartref a ganfuwyd yn ardal Tregwynt, Sir Benfro, ym 1997. Dyma\u2019r casgliad mwyaf o\u2019i fath sydd wedi cael ei ddarganfod yng Nghymru, yn cynnwys cyfanswm o 500 o geiniogau aur ac arian gwerth 51 punt a 9 swllt, swm sylweddol iawn adeg y Rhyfel Cartref a fyddai wedi bod yn ddigon i brynu dwy dunnell o gaws! Claddwyd llawer iawn o arian gan deuluoedd oedd yn cefnogi\u2019r Brenhinwyr yn ystod y Rhyfel Cartref, oherwydd eu pryder bod eu gelynion yn bwriadu ei ddwyn. Roedd Sir Benfro yn gadarnle i\u2019r brenin, a lansiwyd ymdrech yn erbyn Cromwell yno ym 1648 a gyrhaeddodd mor bell \u00e2 Sain Ffagan, cyn cael ei drechu mewn brwydr enwog. Cyflwynwyd y celc i Amgueddfa Cymru ac mae bellach yn rhan o\u2019i chasgliadau. Dangosodd y gynhadledd amrywiol ac eang hon y lefel uchel o ddiddordeb sydd mewn archaeoleg yng Nghymru heddiw.<\/p>\n<p>Llion Wigley<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Daeth cynulleidfa sylweddol at ei gilydd yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd flynyddol archaeoleg Amgueddfa Cymru ar ddydd Sadwrn, 15 Tachwedd, a hithau\u2019n ddiwrnod o dywydd gwlyb. Cychwynnodd Peter Wakelin, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yr Amgueddfa, y diwrnod gyda sgwrs ddifyr ar Safleoedd Treftadaeth y Byd, yn arbennig y tri sydd yng Nghymru eisoes: cestyll a<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cynhadledd-archaeorffennol-2014\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3937,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30049"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30049"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30049\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3937"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30049"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30049"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30049"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}