{"id":30047,"date":"2014-11-14T14:05:05","date_gmt":"2014-11-14T14:05:05","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30047\/"},"modified":"2017-03-29T14:06:07","modified_gmt":"2017-03-29T13:06:07","slug":"seithfed-colocwiwm-bangor-ar-gymrur-oesoedd-canol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/seithfed-colocwiwm-bangor-ar-gymrur-oesoedd-canol\/","title":{"rendered":"Seithfed Colocwiwm Bangor ar Gymru\u2019r Oesoedd Canol"},"content":{"rendered":"<p>Roedd y dyrfa gymysg o fyfyrwyr ac academyddion o bob oedran a ddaeth ynghyd ar gyfer y Seithfed Colocwiwm ar Gymru\u2019r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor penwythnos diwethaf yn dystiolaeth huawdl o fywiogrwydd y maes yng Nghymru ar hyn o bryd. Diwrnod yn unig o\u2019r gynhadledd y llwyddais i\u2019w fynychu ond roedd hwnnw\u2019n ddiwrnod gorlawn o \u00a0bapurau a darlithiau difyr.<\/p>\n<p>Dechreuodd Alex Woolf o Brifysgol St Andrews y diwrnod gyda darlith ddadlennol ar Chwedl a Hanes yng Ngwynedd Gynnar. Ar \u00f4l cyfle i gael paned a sgwrs yn lleoliad mawreddog Neuadd Powis, gyda murluniau trawiadol Ed Povey o\u2019n cwmpas, cynhaliwyd y sesiwn gyntaf o bapurau ymchwil. Cyflwynodd Dr Sue Johns ei hadlewyrchiadau ar rai o ganfyddiadau diweddaraf y prosiect ymchwil sylweddol ar seliau o Gymru\u2019r Oesoedd Canol mae\u2019n ran ohono, gan ganolbwyntio\u2019n arbennig ar yr hyn mae seliau personol yn datgelu am hunaniaeth, rhywedd ac arglwyddiaeth yn y cyfnod.<\/p>\n<p>Prosiect ymchwil arall sylweddol a chyfredol oedd testun papur David Parsons, sef prosiect y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ar seintiau Cymru. Disgrifiodd Parsons y wefan sydd wedi cael ei ddatblygu fel rhan o\u2019r prosiect ar gyfer casglu gwybodaeth a deunyddiau am yr amrywiol seintiau at ei gilydd mewn un man cyfleus a chynhwysfawr. Nid sant ond cawres oedd pwnc papur arall y sesiwn, sef ymdriniaeth liwgar Emma Cavell (Prifysgol Leeds) o\u2019r berthynas rhwng Matilda de St Valery a\u2019r Cymry yn niwedd yr unfed ganrif ar ddeg a dechrau\u2019r ddeuddegfed. Dangosodd Cavell sut y disgrifiwyd y wraig fonheddig anghyffreddin a beiddgar hon fel cawres ac fel gwrach dros y cenedlaethau ers ei marwolaeth, yn rhannol oherwydd ei pharodrwydd i gymryd yr awenau mewn brwydrau yn erbyn y Cymry yn ardal y Mers ar ran ei g\u0175r, Gwilym Brewys, mor wahanol i\u2019r hyn oedd yn dderbyniol o fewn r\u00f4l gymdeithasol ddisgwyliedig menywod \u2013 nid yn yr Oesoedd Canol eu hunain, ond yn y canrifoedd a\u2019u dilynodd.<\/p>\n<p>Agwedd ddiddorol ar hanes cyfreithiol Cymru yn yr Oesoedd Canol oedd pwnc papur Sara Elin Roberts ar \u00f4l cinio. Trafododd yr hyn mae cwynion neu \u2018plaints\u2019 cyfreithiol o Gymru yn datgelu nid yn unig am gysylltiadau rhwng y Cymry a\u2019r Saeson ar y ffin rhwng y ddwy wlad, ond hefyd am ddatblygiad y gyfundrefn gyfreithiol Gymreig cyn y Goncwest Edwardaidd. Traddododd Rhian Andrews o Brifysgol y Frenhines, Belfast, ddarlith arbennig ar gerdd Llywarch Brydydd y Moch i Rhys Gryg o\u2019r Deheubarth, gan ddadansoddi\u2019n fanwl sut mae\u2019r gerdd yn datgelu r\u00f4l y bardd fel llysgennad ar ran ei noddwr, Llywelyn Fawr. I gloi\u2019r diwrnod, cafwyd papurau treiddgar gan Rhun Emlyn, Georgia Henley a Owain Wyn Jones ar bynciau\u2019n amrywio o addysg a dysg yn esgobaeth Tyddewi yn yr Oesoedd Canol diweddar i\u2019r croniclau Cymreig pwysig sydd ar gael yn llyfrgell eglwys gadeiriol Caerwysg. Mae dyfodol ein gorffennol yng Nghymru yn amlwg mewn dwylo diogel!<\/p>\n<p>Llion Wigley<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Roedd y dyrfa gymysg o fyfyrwyr ac academyddion o bob oedran a ddaeth ynghyd ar gyfer y Seithfed Colocwiwm ar Gymru\u2019r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor penwythnos diwethaf yn dystiolaeth huawdl o fywiogrwydd y maes yng Nghymru ar hyn o bryd. Diwrnod yn unig o\u2019r gynhadledd y llwyddais i\u2019w fynychu ond roedd hwnnw\u2019n ddiwrnod gorlawn<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/seithfed-colocwiwm-bangor-ar-gymrur-oesoedd-canol\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3929,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30047"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30047"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30047\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3929"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30047"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30047"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30047"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}