{"id":30043,"date":"2014-10-06T14:02:52","date_gmt":"2014-10-06T13:02:52","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30043\/"},"modified":"2017-03-29T14:03:56","modified_gmt":"2017-03-29T13:03:56","slug":"thomas-charles-or-bala","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/thomas-charles-or-bala\/","title":{"rendered":"Thomas Charles o&#8217;r Bala"},"content":{"rendered":"<p>5 Hydref 2014 oedd achlysur daucanmlwyddiant marw Thomas Charles o\u2019r Bala. Gwych o beth fod pobl y Bala wedi dod ynghyd, gyda Chymdeithas y Beibl, i nodi\u2019r digwyddiad trwy agor canolfan i ddathlu cyfraniad y dyn mawr i fywyd Cymru a\u2019r byd. Eglwys Beuno Sant ar lan Llyn Tegid yw\u2019r man lle bydd etifeddiaeth Charles yn cael ei nodi, a hynny trwy\u2019r arddangosfa barhaol \u2018Byd Mary Jones\u2019. Mary \u2013 neu Mari \u2013 Jones, wrth gwrs, oedd yr eneth ifanc a gerddodd yn droednoeth bob cam o Lanfihangel-y-Pennant i\u2019r Bala yn 1800 er mwyn prynu ei chopi ei hun o\u2019r Beibl trwy law Thomas Charles. Mae stori Mari wedi mynd drwy\u2019r byd, ond mae stori Charles yntau yn rhyfeddod. Yn frodor o Sir Gaerfyrddin a\u00a0 ymgartrefodd yn Sir Feirionnydd, bu\u2019n gysylltiedig \u00e2 hanes llythrennedd trwy fudiad yr ysgolion Sul, addysg oedolion, ysgolheictod beiblaidd trwy gyfrwng ei lawlyfr enwog <em>Y Geiriadur<\/em>, heb s\u00f4n am lywio\u2019r mudiad Methodistaidd, mudiad a oedd eisoes yn rym gwirioneddol ym mywyd y genedl. Sonnir am yr holl bethau hyn yn y gyfrol <em>Thomas Charles o\u2019r Bala<\/em> a lawnsiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir G\u00e2r ym Mis Awst. Ym mynwent Llanycil y mae bedd Thomas Chales (a bedd Lewis Edwards yn ei ymyl), a bellach mae\u2019r eglwys sy\u2019n ei gysgodi yn gartref ar gyfer arddangosfa gyfoethog odiaeth. Ewch i weld yr arddangosfa, a pheidiwch ag anghofio darllen y gyfrol!<\/p>\n<p>D. Densil Morgan<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>5 Hydref 2014 oedd achlysur daucanmlwyddiant marw Thomas Charles o\u2019r Bala. Gwych o beth fod pobl y Bala wedi dod ynghyd, gyda Chymdeithas y Beibl, i nodi\u2019r digwyddiad trwy agor canolfan i ddathlu cyfraniad y dyn mawr i fywyd Cymru a\u2019r byd. Eglwys Beuno Sant ar lan Llyn Tegid yw\u2019r man lle bydd etifeddiaeth Charles<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/thomas-charles-or-bala\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":30044,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30043"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30043"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30043\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/30044"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30043"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30043"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30043"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}