{"id":30025,"date":"2014-08-11T13:53:08","date_gmt":"2014-08-11T12:53:08","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30025\/"},"modified":"2017-03-29T13:54:44","modified_gmt":"2017-03-29T12:54:44","slug":"eisteddfod-2014","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/eisteddfod-2014\/","title":{"rendered":"Eisteddfod 2014"},"content":{"rendered":"<p>Cyrhaeddais faes yr Eisteddfod ar fore dydd Sadwrn a thrwy lwc roedd yr haul yn tywynnu! Arhosodd y tywydd yn braf am ran fwyaf o\u2019r wythnos, er i ni gael sawl cawod drom iawn ar ddyddiau Llun a Mawrth. Cyfrannodd yr haul yn sicr at yr awyrgylch hamddenol a thesog ar y maes eleni. Roedd digonedd o ddewis o sgyrsiau, darlithiau a thrafodaethau i\u2019w mynychu yn y Babell L\u00ean, y Lolfa L\u00ean neu ym mhebyll y cymdeithasau trwy gydol yr Eisteddfod, a\u2019r broblem fwyaf oedd ceisio pigo beth i fynd iddo a beth i fethu! Roeddwn yn hynod o falch imi benderfynu mynd i wrando ar Emyr Llywelyn yn siarad am Dewi Emrys yn y Babell L\u00ean. Traddododd ddarlith wefreiddiol ar hanes trist y bardd o Sir Benfro, gan bwysleisio\u2019r cariad a\u2019r cynhesrwydd a deimlwyd tuag ato ym mhobman yr aeth, er gwaethaf yr anawsterau a\u2019r problemau a wynebodd ar hyd y daith.\u00a0 Clywais Russell Davies yn trafod ei lyfr arbennig am hanes cudd Sir Gaerfyrddin, <em>Secret Sins<\/em>, gyda Catrin Beard yn yr un babell yn gynharach yn yr wythnos, a daeth ei straeon difyr am arferion caru a \u2018phechodau\u2019 pobl yr ardal a gw\u00ean i sawl wyneb yn y dorf.<\/p>\n<p>Trafodwyd materion mwy cyfoes mewn sesiynau a drefnwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a\u2019r Sefydliad Materion Cymreig, fel yr \u2018archgarchar\u2019 mae\u2019r llywodraeth yn benderfynol o\u2019i godi yn Wrecsam yn y blynyddoedd nesaf. Dadleuodd yr Aelod Seneddol, Elfyn Llwyd, yn bwerus yn erbyn adeiladu carchar anferth o\u2019r fath, a chafwyd trafodaeth fywiog wrth i Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Syr Winston Roddick, ddadlau\u2019n \u00f4l bod dirfawr angen carchar o\u2019r fath yn yr ardal. Ymdrin \u00e2 phoblogrwydd diweddar UKIP ymhlith etholwyr Prydain ac effaith hyn oll ar Gymru a wnaeth Simon Brooks yn narlith y Sefydliad Materion Cymreig. Adeiladodd ddadl rymus dros bwysigrwydd creu model newydd o ddinasyddiaeth Gymreig a all wrthsefyll effeithiau gwleidyddol a chymdeithasol poblogrwydd UKIP a\u2019i debyg.<\/p>\n<p>Daethpwyd \u00e2 thri o awduron mwyaf blaenllaw ac adnabyddus Cymru at ei gilydd \u2013 Angharad Tomos, Menna Elfyn a Jane Aaron \u2013\u00a0 ar gyfer sesiwn i lansio llyfr Mair Rees, <em>Y Llawes Goch a\u2019r Faneg Wen<\/em>, ym mhabell Merched y Wawr ar y dydd Mawrth. Mae\u2019r gyfrol yn archwilio\u2019r ffordd y mae\u2019r corff benywaidd wedi cael ei bortreadu mewn llenyddiaeth Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif, ac mae gweithiau Angharad Tomos a Menna Elfyn ymhlith y rhai a drafodir ynddi. Cynigiodd y ddwy eu hymatebion diddorol i\u2019r gyfrol\u00a0 o flaen cynulleidfa sylweddol. Cawsom y fraint o gynnal trafodaeth rhwng Paul O\u2019Leary a\u2019r Arglwydd Kenneth O. Morgan \u2013 sydd wedi ysgrifennu cyfrol newydd i\u2019r Wasg \u2013 yn ein pabell ar ddydd Gwener. Siaradodd yr Arglwydd Morgan mewn Cymraeg rhugl am ei lyfr newydd, <em>Revolution to Devolution: Reflections on Welsh Democracy<\/em>, ac am ei gyfoeth o brofiadau fel un o haneswyr mwyaf arloesol a threiddgar Cymru, a bellach fel gwleidydd yn Nh\u0177\u2019r Arglwyddi. Un o sesiynau gorau eraill yr wythnos oedd cyfarfod yr Academi Heddwch Cymreig arfaethedig ar brynhawn dydd Gwener. Cyfrannodd nifer o siaradwyr grymus \u2013 yn cynnwys Mererid Hopwood, Robin Gwyndaf a Gwyn Griffiths, awdur cyfrol ddiweddar i\u2019r Wasg ar yr heddychwr mawr o Dregaron, Henry Richard \u2013 i ddadlau\u2019n gryf dros bwysigrwydd sefydlu academi o\u2019r fath yng Nghymru, a daeth Dafydd Iwan ei hun \u00e2\u2019r sesiwn i\u00a0 ddiweddglo ysgytwol gyda ch\u00e2n ar wallgofrwydd rhyfel. Ffordd addas iawn i goroni wythnos liwgar a chyffrous ar faes yr Eisteddfod!<\/p>\n<p>Llion Wigley<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyrhaeddais faes yr Eisteddfod ar fore dydd Sadwrn a thrwy lwc roedd yr haul yn tywynnu! Arhosodd y tywydd yn braf am ran fwyaf o\u2019r wythnos, er i ni gael sawl cawod drom iawn ar ddyddiau Llun a Mawrth. Cyfrannodd yr haul yn sicr at yr awyrgylch hamddenol a thesog ar y maes eleni. Roedd<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/eisteddfod-2014\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":30026,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30025"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30025"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30025\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/30026"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30025"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30025"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30025"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}