{"id":30020,"date":"2014-03-29T13:51:40","date_gmt":"2014-03-29T13:51:40","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30020\/"},"modified":"2017-03-30T15:32:27","modified_gmt":"2017-03-30T14:32:27","slug":"cynhadledd-ganoloesol-rhyngwladol-leeds-2014","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cynhadledd-ganoloesol-rhyngwladol-leeds-2014\/","title":{"rendered":"Cynhadledd Ganoloesol Rhyngwladol Leeds 2014"},"content":{"rendered":"<p>Teithiais i Leeds ar y 9fed o Orffennaf er mwyn mynychu\u2019r gynhadledd ganoloesol ryngwladol sy\u2019n cael ei chynnal yn y brifysgol yno bob blwyddyn. Mae dros 2,000 o haneswyr, ymchwilwyr, awduron a myfyrwyr o Brydain, Ewrop\u00a0 a thu hwnt yn mynychu\u2019r gynhadledd, sy\u2019n cynnwys mwy na mil o bapurau a sesiynau dros bedwar diwrnod. B\u00fbm yn bresennol ar Ddydd Iau yn unig ar gyfer diwrnod cyfan o sesiynau ar hanes Cymru \u2013 Cymru a\u2019r Byd oedd y thema, dan nawdd Canolfan Prifysgol Abertawe ar gyfer Ymchwil Canoloesol. Traddododd Bryn Jones, myfyriwr doethur o Brifysgol St Andrews, bapur difyr tu hwnt ar ei waith ymchwil yn y Fatican, lle mae wedi bod yn creu llawrestr o\u2019r holl ddogfennau yn ei harchif sy\u2019n ymwneud \u00e2 Chymru yn y cyfnod cyn y Goncwest ym 1282, ffynhonnell a fydd o ddefnydd enfawr i ymchwilwyr yn y dyfodol. Trafododd Sue Johns o Brifysgol Bangor yr hyn mae seliau o\u2019r Oesoedd Canol yn datgelu am statws cymdeithasol menywod \u2013 mae ei hymchwil yn ran o brosiect ehangach prifysgolion Bangor ac Aberystwyth ar seliau yng Nghymru\u2019r Oesoedd Canol rhwng 1200\u20131500, prosiect a fydd yn ehangu\u2019n dealltwriaeth hanesyddol o\u2019r cyfnod yn sylweddol.<\/p>\n<p>Cafwyd cyfraniadau diddorol i\u2019r diwrnod hefyd gan Rhun Emlyn o Brifysgol Aberystwyth, ac Adam Chapman o\u2019r Sefydliad ar gyfer Ymchwil Hanesyddol yn Llundain. Clerigwyr o Gymru a deithiodd ar draws y ffin i weithio o fewn esgobaethau Seisnig oedd pwnc papur Rhun, a datgelwyd y rhesymau pam yr arweiniwyd cynifer o Gymry ar hyd y llwybr hwn yn yr Oesoedd Canol. Edrychodd Adam ar rai o ryfeloedd y cyfnod o bersbectif y milwr Cymreig, a dangoswyd hefyd sut oedd ei gyfoeswyr yn Ewrop yn ei ganfod a\u2019i bortreadu. Diwrnod addysgiadol a difyr a daflodd tipyn o oleuni ar y berthynas rhwng Cymru a\u2019r byd ehangach yn yr Oesoedd Canol, rhan fechan ond holl-bwysig, fel Cymru ei hun, o un o gynadleddau hanesyddol mwyaf lliwgar ac amrywiol y flwyddyn.<\/p>\n<p>Llion Wigley<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Teithiais i Leeds ar y 9fed o Orffennaf er mwyn mynychu\u2019r gynhadledd ganoloesol ryngwladol sy\u2019n cael ei chynnal yn y brifysgol yno bob blwyddyn. Mae dros 2,000 o haneswyr, ymchwilwyr, awduron a myfyrwyr o Brydain, Ewrop\u00a0 a thu hwnt yn mynychu\u2019r gynhadledd, sy\u2019n cynnwys mwy na mil o bapurau a sesiynau dros bedwar diwrnod. B\u00fbm<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cynhadledd-ganoloesol-rhyngwladol-leeds-2014\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":30021,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30020"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30020"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30020\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/30021"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30020"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30020"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30020"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}