{"id":30016,"date":"2014-07-11T13:48:38","date_gmt":"2014-07-11T12:48:38","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30016\/"},"modified":"2017-03-29T13:49:23","modified_gmt":"2017-03-29T12:49:23","slug":"cynhadledd-ryngwladol-y-coleg-cymraeg-cenedlaethol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cynhadledd-ryngwladol-y-coleg-cymraeg-cenedlaethol\/","title":{"rendered":"Cynhadledd Ryngwladol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol"},"content":{"rendered":"<p>Cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol gyntaf erioed y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar Orffennaf 1\u20133, ac roedd y digwyddiad tri diwrnod yn lwyddiant ysgubol. Mynychodd dros ddau gant o academyddion, myfyrwyr ymchwil ac aelodau o\u2019r cyhoedd, yn eu plith ddarlithwyr ac arbenigwyr blaenllaw mewn ieithoedd lleiafrifol o bob cwr o Ewrop. Un o\u2019r rhain oedd y prif siaradwr ar yr ail fore, yr Athro Jasone Cenoz o Brifysgol Gwlad y Basg, a draddododd ei darlith hithau ar y Fasgeg mewn addysg uwch yn iaith ei gwlad \u2013 tipyn o her i\u2019r cyfieithydd ar y pryd, ond llwyddodd yn arbennig i gyfleu ystyr a neges bwysig y ddarlith, sef bod lefel cyrhaeddiad a chymwysterau plant ysgol a myfyrwyr yng Ngwlad y Basg sy\u2019n gallu siarad Basgeg yn ogystal \u00e2 Sbaeneg yn uwch na\u2019r rheiny sydd yn siarad Sbaeneg yn unig.<\/p>\n<p>Dilynwyd y ddarlith honno gan sesiwn o bapurau ymchwil, y cyntaf o sawl sesiwn tebyg dros y ddau ddiwrnod nesaf. Yr unig drueni oedd bod rhai o\u2019r sesiynau yn cyd-redeg, felly nid oedd modd gwrando ar bob un o\u2019r papurau difyr a draddodwyd! Cefais flas arbennig ar yr arlwy yn y sesiwn gyntaf i mi ei fynychu, lle siaradodd Ned Thomas, Huw Williams a Sel Williams am eu hymchwil yng nghyswllt syniadaeth iaith a\u2019r berthynas ag addysg. \u00a0Roedd papur Sel Williams yn heriol a chyffrous wrth iddo archwilio\u2019r berthynas rhwng cyfrwng a chynnwys addysg Gymraeg a chwestiynu i ba raddau mae\u2019r cynnwys wedi derbyn sylw hyd yma, wrth i ni fel cymuned Gymraeg ganolbwyntio\u2019n ormodol efallai ar y cyfrwng. Pwysleisiwyd yr angen dirfawr i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn seiliedig ar baradeim diwylliannol Cymreig, hynny yw i Gymreigio\u2019r cynnwys yn ogystal a\u2019r cyfrwng.<\/p>\n<p>Dychwelais ar \u00f4l cinio i glywed darlith gan Dr Jan Roukens, brodor o\u2019r Iseldiroedd a chynt o\u2019r Comisiwn Ewropeaidd, ar oroesi globaleiddio. Dadleuwyd fod y grymoedd economaidd a gwleidyddol sy\u2019n arwain ac yn rheoli globaleiddio yn milwrio yn erbyn ieithoedd lleiafrifol wrth annog unffurfiaeth ddiwylliannol a chymdeithasol, a chryfhau Saesneg yn benodol fel iaith lywodraethol yn Ewrop a thu hwnt.\u00a0 Yr unig obaith i wrthsefyll y fath rymoedd yw trwy gynnig gweledigaeth amgen o sut i drefnu cymdeithas ac addysg er mwyn hybu democratiaeth ac amrywiaeth. Mae\u2019n amlwg fod y gwaith o ddatblygu addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan hanfodol o\u2019r ymdrech hon (ac mae\u2019r Coleg, wrth gwrs, yn arwain y gwaith yma). Yn ystod sesiwn y prynhawn, clywsom am un o brosiectau\u2019r Coleg \u2013 Prosiect Deche \u2013 sydd wrthi\u2019n rhoi gweithiau academaidd Cymraeg pwysig a phrin o\u2019r gorffennol ar-lein, er mwyn i fyfyrwyr ac unrhyw un arall sydd a diddordeb eu darllen. Trwy hyn, mae\u2019n bosib bellach i bori ar Y Porth drwy ysgrifau\u2019r athronydd amryddawn J. R. Jones, yn ogystal \u00e2 fersiwn Cymraeg o\u2019r Maniffesto Comiwnyddol a nifer o weithiau difyr eraill.<\/p>\n<p>Ar fore olaf y gynhadledd, traddododd yr Athro Durk Gorter o <em>Ikerbasque<\/em> (Sefydliad Gwyddoniaeth Gwlad y Basg) ddarlith hynod ddiddorol arall yngl\u0177n ag amlieithrwydd. Dangosodd bod nifer o genhedloedd eraill Ewropeaidd, yn cynnwys yr Iseldiroedd a gwledydd Sgandinafia, yn wynebu\u2019r un math o her a Chymru i ddenu myfyrwyr i astudio ac ysgrifennu yn eu mamieithoedd yn hytrach nag yn Saesneg. Mae\u2019r nifer o draethodau meistr a doethuriaeth a ysgrifennir yn Saesneg, er enghraifft, wedi codi\u2019n arwyddocaol mewn gwledydd y tu hwnt i Loegr yn y blynyddoedd diwethaf. Disgrifiwyd sut y mae amlieithrwydd yn ganlyniad i\u2019r globaleiddio sydd ohoni \u2013 fel y twf yng ngrym Saesneg fel iaith ryngwladol \u2013 wrth i symudoledd poblogaethau\u2019r byd gynyddu, ond hefyd (yn ddigon paradocsaidd, efallai) sut y gall fod yn ffordd o gryfhau ieithoedd lleiafrifol wrth annog eu defnydd mewn amryw o gyd-destunau ac ar amryw lefelau.<\/p>\n<p>Rhyfeddais pa mor amlieithog yw\u2019r traddodiad o gyfieithu gweithiau llenyddol i\u2019r Gymraeg, testun papur Dewi Huw Morgan yn y sesiwn nesaf. Mae Dewi wrthi gyda Ned Thomas ar hyn o bryd yn casglu\u2019r holl weithiau a gyfieithwyd o wahanol ieithoedd i\u2019r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif at ei gilydd, er mwyn creu gwefan i\u2019w rhestru a\u2019u disgrifio. Hyd yn hyn mae\u2019r prosiect, sy\u2019n fenter ar y cyd rhwng Sefydliad Mercator a\u2019r Coleg Cymraeg, wedi darganfod gweithiau mewn tua deugain o wahanol ieithoedd a gyfieithwyd i\u2019r Gymraeg. Cyfoeth o lenyddiaeth, athroniaeth a diwinyddiaeth o bellafoedd Ewrop a\u2019r byd a fydd yn adnodd pwysig i\u2019r diwylliant Cymraeg. Tynnodd y gynhadledd at ei therfyn gyda disgrifiadau Tegau Andrews a Steve Morris o brosiectau cyfredol a phwysig eraill sy\u2019n safoni termau Cymraeg addysg uwch ar hyd ystod eang o bynciau academaidd, ac sy\u2019n datblygu corpws cyfoes cenedlaethol o\u2019r Gymraeg. Bydd ffrwyth y prosiectau hyn ar gael ar-lein, ac yn tyfu dros y blynyddoedd sydd i ddod. Roedd yr ymateb brwd i\u2019r ddau brosiect yn dystiolaeth bellach o\u2019r bwrlwm a\u2019r cyffro presennol ym myd addysg uwch Cymraeg a oedd mor amlwg trwy gydol y gynhadledd arbennig hon.<\/p>\n<p>Llion Wigley<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol gyntaf erioed y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar Orffennaf 1\u20133, ac roedd y digwyddiad tri diwrnod yn lwyddiant ysgubol. Mynychodd dros ddau gant o academyddion, myfyrwyr ymchwil ac aelodau o\u2019r cyhoedd, yn eu plith ddarlithwyr ac arbenigwyr blaenllaw mewn ieithoedd lleiafrifol o bob cwr o Ewrop. Un o\u2019r rhain oedd y prif siaradwr<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cynhadledd-ryngwladol-y-coleg-cymraeg-cenedlaethol\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":30017,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30016"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30016"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30016\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/30017"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30016"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30016"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30016"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}