{"id":30008,"date":"2014-06-25T13:41:41","date_gmt":"2014-06-25T12:41:41","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=30008\/"},"modified":"2017-03-29T13:42:21","modified_gmt":"2017-03-29T12:42:21","slug":"cynhadledd-ymchwil-amlddisgyblaeth-cyfrwng-cymraeg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cynhadledd-ymchwil-amlddisgyblaeth-cyfrwng-cymraeg\/","title":{"rendered":"Cynhadledd Ymchwil Amlddisgyblaeth Cyfrwng Cymraeg"},"content":{"rendered":"<p>Roedd cynhadledd ymchwil flynyddol y Coleg Cymraeg ar Fehefin y 19eg yn wledd o bapurau difyr a disglair ar draws ystod eang tu hwnt o ddisgyblaethau a phynciau. Myfyrwyr ymchwil a darlithwyr ifanc o fewn y Coleg a draddododd y papurau amrywiol ar ddiwrnod braf iawn o haf yng Ngregynog. Cychwynnodd Dr Ruth Wyn Williams y diwrnod trwy s\u00f4n am ei hymchwil cynhwysol gydag unigolion ag anabledd dysgu, sy\u2019n anelu i\u2019w cynnwys yn fwy ystyrlon a llawn mewn ymchwil gofal iechyd. \u00a0Fe\u2019i dilynwyd gan bapur amserol a diddorol Kathy Griffiths, myfyrwraig PhD Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, ar gydnabyddiaeth gyfreithiol o berthnasau rhwng oedolion. Gofynnodd y cwestiwn heriol pam fod priodas yn dal i gymryd blaenoriaeth cyfreithiol.<\/p>\n<p>Dangosodd y cyferbyniad rhwng y pynciau a drafodwyd yn y tair sesiwn cyn cinio pa mor eang yw ystod y meysydd sy\u2019n cael eu trin a thrafod yn y Gymraeg trwy gefnogaeth y Coleg: hanes amgueddfeydd gwerin Dwyrain Prwsia yn y cyfnod wedi\u2019r Ail Ryfel Byd oedd pwnc Arddun Arwyn o Brifysgol Aberystwyth; cynllunio \u2018laser donfedd ddeuol\u2019 sy\u2019n gallu allyrru goleuni ar ddwy donfedd wahanol ar yr un pryd oedd dan sylw Daniel Roberts o Ysgol Peirianneg Electronig, Prifysgol Bangor; a\u2019r cysyniad o lythrennedd corfforol a\u2019r defnydd ohono mewn ysgolion cyfun cyfrwng Cymraeg oedd testun trafod Lowri Edwards o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Er bod union natur pwnc Daniel Roberts tu hwnt i\u2019m dealltwriaeth wyddonol gyfyng i, llwyddodd i gyflwyno\u2019i drafodaeth mewn ffordd hygyrch a chlir gan ddefnyddio cyfoeth o derminoleg Cymraeg dyfeisgar a phwrpasol yn y broses. Yr oedd hyn yr un mor wir am eglurhad Lowri Edwards o\u2019r cysyniad cymharol newydd (i mi, beth bynnag) o lythrennedd corfforol.<\/p>\n<p>Cafodd chwe myfyriwr \u00f4l-raddedig o wahanol brifysgolion yng Nghymru gyfle i arddangos a thrafod ffrwyth eu hymchwil mewn sesiwn Posteri Ymchwil ar \u00f4l cinio. Unwaith eto, roedd amrywiaeth a pherthnasedd y pynciau dan sylw yn amlwg iawn, o astudiaeth gymharol o ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg mewn ardal ddifreintiedig i astudiaeth o lifoedd gwrthgyferbyniol mewn ffilament ar yr haul. Un o uchafbwyntiau\u2019r diwrnod oedd papur Mair Lenny o Brifysgol Bangor yn sesiwn olaf y prynhawn ar y ddelwedd o\u2019r anabl mewn llenyddiaeth Gymraeg. Cynigodd ddehongliad treiddgar a gwreiddiol tu hwnt o gwestiwn a esgeuluswyd efallai hyd yma o fewn cyd-destun Cymraeg. Roedd ei phapur, fel gweddill y papurau a gyflwynwyd eleni, yn dystiolaeth huawdl o bwysigrwydd a gwerth yr ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg sy\u2019n cael ei annog a\u2019i hyrwyddo gan waith y Coleg.<\/p>\n<p>Llion Wigley<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Roedd cynhadledd ymchwil flynyddol y Coleg Cymraeg ar Fehefin y 19eg yn wledd o bapurau difyr a disglair ar draws ystod eang tu hwnt o ddisgyblaethau a phynciau. Myfyrwyr ymchwil a darlithwyr ifanc o fewn y Coleg a draddododd y papurau amrywiol ar ddiwrnod braf iawn o haf yng Ngregynog. Cychwynnodd Dr Ruth Wyn Williams<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cynhadledd-ymchwil-amlddisgyblaeth-cyfrwng-cymraeg\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":29983,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30008"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=30008"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/30008\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/29983"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=30008"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=30008"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=30008"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}