{"id":29998,"date":"2014-05-07T13:37:19","date_gmt":"2014-05-07T12:37:19","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=29998\/"},"modified":"2017-03-29T13:37:36","modified_gmt":"2017-03-29T12:37:36","slug":"symposiwm-darllen-tsieina-cyfieithu-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/symposiwm-darllen-tsieina-cyfieithu-cymru\/","title":{"rendered":"Symposiwm: Darllen Tsieina, Cyfieithu Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Trefnwyd symposiwm ym Mangor ar yr 2il o Fai gan Gyfnewidfa L\u00ean Cymru a Phrifysgol Cymru er mwyn trafod y berthynas sydd wrthi\u2019n tyfu rhwng llenorion o Gymru a Tsieina. Hyrwyddwyd y berthynas gan rifyn arbennig diweddar cyfnodolyn o\u2019r Shangai Translation Publishing House yn cynnwys cyfieithiadau o weithiau llenyddol o Gymru mewn Tsiein\u00ebeg. Cyhoeddwyd tua 4,000 copi o\u2019r rhifyn hwn a dywedodd Dirprwy Prif Olygydd y cyhoeddwyr, Mr Wu Hong, yn ystod ei araith agoriadol, bod yr adborth wedi bod yn bositif iawn hyd yn hyn. Siaradodd Angharad Price yn rymus am y broses o gyfieithu ei nofel <em>O! Tyn y Gorchudd<\/em> i\u2019r Saesneg a disgrifiodd hi a Francesca Rhydderch yr hanesion teuluol rhyfeddol a ysbrydolodd eu nofelau ill dwy. Profiadau eu mam-gu a\u2019i thad-cu fel carcharorion rhyfel yn Hong Kong yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd wedi ysbrydoli nofel <em>The Rice Paper Diaries<\/em> yn achos Rhydderch. Gydag egni byrlymus, trafododd Jerry Hunter ei brofiadau fel Americanwr yng Nghymru o gyhoeddi gweithiau academaidd a chreadigol yn y Gymraeg. Dilynwyd ei araith gan adlewyrchiadau\u2019r bardd pwysig o Tsieina, Hu Dong, ar ei brofiadau yntau o ysgrifennu a barddoni mewn Tsiein\u00ebeg ym Mhrydain, lle mae wedi byw ers 1990. Daethpwyd \u00e2\u2019r symposiwm difyr i glo gyda thrafodaeth fywiog o\u2019r camau nesaf mewn cryfhau\u2019r berthynas lenyddol rhwng Tsieina a Chymru, ac edrychaf ymlaen at weld beth ddaw o\u2019r syniadau a godwyd!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Trefnwyd symposiwm ym Mangor ar yr 2il o Fai gan Gyfnewidfa L\u00ean Cymru a Phrifysgol Cymru er mwyn trafod y berthynas sydd wrthi\u2019n tyfu rhwng llenorion o Gymru a Tsieina. Hyrwyddwyd y berthynas gan rifyn arbennig diweddar cyfnodolyn o\u2019r Shangai Translation Publishing House yn cynnwys cyfieithiadau o weithiau llenyddol o Gymru mewn Tsiein\u00ebeg. Cyhoeddwyd tua<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/symposiwm-darllen-tsieina-cyfieithu-cymru\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":29999,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/29998"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=29998"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/29998\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/29999"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=29998"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=29998"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=29998"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}