{"id":29982,"date":"2014-03-24T13:19:27","date_gmt":"2014-03-24T13:19:27","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=29982\/"},"modified":"2017-03-29T13:19:52","modified_gmt":"2017-03-29T12:19:52","slug":"cynhadledd-y-gyfraith","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cynhadledd-y-gyfraith\/","title":{"rendered":"Cynhadledd y Gyfraith"},"content":{"rendered":"<p>Mynychais Gynhadledd Genedlaethol y Gyfraith yn ddiweddar ar ddiwrnod o haul godidog ym Mae Caerdydd. Trefnwyd y gynhadledd yn adeilad hardd y Pierhead gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Roedd yr ystafell gynadledda yn orlawn o fyfyrwyr sy\u2019n astudio\u2019r Gyfraith yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd ym mhrifysgolion Cymru. Derbyniwyd y coffi a brecwast oedd ar gael yn awchus gan fod rhai o\u2019r myfyrwyr wedi dal bws o Fangor am 5.00 y bore er mwyn cyrraedd mewn pryd! Doedd dim cyfle i bendwmpian yn sesiwn gyntaf y bore, sef gweithdy cyfieithu deddfwriaethol a arweiniwyd gan Richard Crowe, Prif Ieithydd Deddfwriaethol yn Llywodraeth Cymru. Heriodd y gynulleidfa i gymryd rhan mewn ymarfer gramadegol i roi blas o\u2019r math o waith a wneir wrth lunio a chyfieithu deddfau. Dim ond hanner o\u2019r camgymeriadau yn yr ymarfer llwyddais i\u2019w nodi, felly cefais argraff glir o\u2019r her sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r gwaith!<\/p>\n<p>Dilynwyd y gweithdy gan ddau bapur ymchwil diddorol dros ben: trafododd Dr Hayley Roberts, sy\u2019n darlithio yn y Gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, y cwestiwn o bwy sydd bia\u2019r Titanic a chynigodd drosolwg o\u2019r ymdrechion cyfreithiol i feddu\u2019r llongddrylliad. Traddododd Kathy Griffiths, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, bapur hynod o graff ar y cwestiwn cyfreithiol o berthnasau rhwng oedolion a phryd dylai\u2019r gyfraith eu cydnabod, gan godi nifer o gwestiynau cymdeithasegol a moesegol pwysig yn y broses. Cyflwynodd dau gyfreithiwr ifanc Cymraeg sy\u2019n gweithio i Captial Law yng Nghaerdydd sesiwn ymarferol a gwerthfawr wedi hynny ar sut i ymgeisio am gytundebau hyfforddi, cyn torri ar gyfer cinio blasus.<\/p>\n<p>Daeth y dorf yn \u00f4l \u00a0i glywed Gareth Howells yn disgrifio\u2019r profiad o weithio yn Adran Gyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a\u2019r cyffro sydd ynghlwm wrth lunio deddfau newydd, hanesyddol i Gymru. Cododd y papurau ymchwil a ddilynodd sgwrs Gareth nifer o gwestiynau cyfoes pellach yn ymwneud \u00e2\u2019r gyfraith, gwleidyddiaeth a chymdeithas. Disgrifiodd Ffion Llywelyn newidiadau\u2019r llywodraeth bresennol i\u2019r gyfraith o amgylch hawl perchentywyr i amddiffyn eu heiddo a pheryglon posib y newidiadau hynny. Bu Martin Jones yn ddigon dewr i ymrafael \u00e2\u2019r cwestiwn cymhleth o gynorthwyo marwolaeth, pwnc llosg cyfredol i feddygon a\u2019r gymdeithas ehangach. A chododd Steffan Evans sawl cwestiwn pwysig yngl\u0177n ag effaith datganoli ar y gyfraith a chymdeithas yng Nghymru trwy edrych mewn manylder ar y gyfundrefn tai cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr. At ei gilydd roedd y papurau ymchwil a gyflwynwyd yn wreiddiol, yn ffres ac yn oleuedig, ac roedd y gynhadledd yn dystiolaeth arbennig o\u2019r ymchwil rhagorol sy\u2019n digwydd ym mhrifysgolion Cymru ar hyn o bryd trwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy nawdd y Coleg Cymraeg.<\/p>\n<p>Llion Wigley<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mynychais Gynhadledd Genedlaethol y Gyfraith yn ddiweddar ar ddiwrnod o haul godidog ym Mae Caerdydd. Trefnwyd y gynhadledd yn adeilad hardd y Pierhead gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Roedd yr ystafell gynadledda yn orlawn o fyfyrwyr sy\u2019n astudio\u2019r Gyfraith yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd ym mhrifysgolion Cymru. Derbyniwyd y coffi<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cynhadledd-y-gyfraith\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":29983,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/29982"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=29982"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/29982\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/29983"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=29982"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=29982"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=29982"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}