{"id":29979,"date":"2014-03-10T13:16:28","date_gmt":"2014-03-10T13:16:28","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=29979\/"},"modified":"2017-03-29T13:30:23","modified_gmt":"2017-03-29T12:30:23","slug":"cynhadledd-y-gymdeithas-cyhoeddwyr-annibynnol-ipg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cynhadledd-y-gymdeithas-cyhoeddwyr-annibynnol-ipg\/","title":{"rendered":"Cynhadledd y Gymdeithas Cyhoeddwyr Annibynnol (IPG)"},"content":{"rendered":"<p>Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Cymdeithas Cyhoeddwyr Annibynnol (IPG) yn agos i Rydychen wythnos diwethaf. Roedd y neuadd arddangos yn llawn o stondinau gyda llyfrau ar bob pwnc dan haul o\u2019r cannoedd o gyhoeddwyr annibynnol a gynrychiolwyd yn y gynhadledd.\u00a0 Ar \u00f4l paned a chyfle i gael sgwrs, ymlwybrodd y dorf mewn i\u2019r neuadd ddarlithio er mwyn clywed y siaradwr agoriadol, sef Pennaeth cwmni Faber &amp; Faber, Stephen Page. Mewn darlith ddifyr a bywiog, trafododd Page y datblygiadau diweddaraf ym myd cyhoeddi annibynnol, fel twf y farchnad ar gyfer llyfrau electroneg ac adfywiad siopau llyfrau annibynnol. Yr argraff bositif iawn a greodd, fel y mwyafrif o\u2019r siaradwyr yn y gynhadledd, oedd bod dyfodol y sector yn heriol ond yn ddisglair ac yn llawn cyffro.<\/p>\n<p>Prif neges yr holl siaradwyr amrywiol oedd <em>bod <\/em>gyda\u2019r llyfr print ddyfodol ac mai\u2019r her i weisg annibynnol yw i weithio\u2019n agosach gydag awduron a darllenwyr er mwyn sicrhau\u2019r dyfodol hyn. Er bod 12% o\u2019r holl lyfrau a werthwyd ym Mhrydain bellach yn llyfrau electroneg, mae\u2019r ganran wedi aros yn weddol gyson dros y ddwy flynedd diwethaf, ar \u00f4l codi\u2019n sydyn iawn pan ymddangosodd teclynnau fel y Kindle gyntaf. Eglurodd un siaradwr, sy\u2019n datblygu siop lyfrau ar-lein ar hyn o bryd a fydd yn arbenigo mewn gwerthu llyfrau o weisg annibynnol,\u00a0 mai ysfa barhaol darllenwyr ar gyfer llyfrau print unigryw a nodedig sy\u2019n rhannol gyfrifol am hyn. Mae\u2019n amlwg felly bod darllenwyr yn gwerthfawrogi\u2019r gwreiddioldeb a\u2019r arbenigrwydd y gall gweisg annibynnol fel Gwasg Prifysgol Cymru gynnig.<\/p>\n<p>Cafwyd sgyrsiau difyr hefyd ar bwysigrwydd cynllun a chloriau llyfrau, defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hybu gwerthiant llyfrau a\u2019r camau nesaf ym myd llyfrau electroneg. Erbyn diwedd y prynhawn roeddwn wedi dysgu llawer am y tueddiadau diweddaraf o fewn y byd cyhoeddi a gadewais y gynhadledd yn llawn brwdfrydedd ar gyfer yr her sydd i ddod.<\/p>\n<p>Llion Wigley, Golygydd Comisiynu<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Cymdeithas Cyhoeddwyr Annibynnol (IPG) yn agos i Rydychen wythnos diwethaf. Roedd y neuadd arddangos yn llawn o stondinau gyda llyfrau ar bob pwnc dan haul o\u2019r cannoedd o gyhoeddwyr annibynnol a gynrychiolwyd yn y gynhadledd.\u00a0 Ar \u00f4l paned a chyfle i gael sgwrs, ymlwybrodd y dorf mewn i\u2019r neuadd ddarlithio er mwyn<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cynhadledd-y-gymdeithas-cyhoeddwyr-annibynnol-ipg\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3807,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/29979"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=29979"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/29979\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3807"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=29979"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=29979"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=29979"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}