{"id":29977,"date":"2014-02-15T13:11:57","date_gmt":"2014-02-15T13:11:57","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/?p=29977\/"},"modified":"2017-03-29T13:30:01","modified_gmt":"2017-03-29T12:30:01","slug":"argyfwng-astudiaethau-cymraeg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/argyfwng-astudiaethau-cymraeg\/","title":{"rendered":"Argyfwng Astudiaethau Cymraeg"},"content":{"rendered":"<p>\u2018Astudiaethau Cymreig\u2019: ymadrodd digon llipa, yn fy marn i. Pwy glywodd am gyfeiriad at \u2018Astudiaethau Seisnig\u2019 erioed ym mhrifysgolion Lloegr? Yno, yr un fath ag ym mhob gwlad aeddfed arall, y mae\u2019r gwaith cyson o fwrw gorolwg ddeallusol amlweddog a chynhwysfawr dros brif nodweddion y genedl yn wedd annatod a chanolog ar y gyfundrefn addysg, fel ar y diwylliant poblogaidd. O\u2019r herwydd y mae\u2019r broses honno\u2019n anweledig i bob pwrpas. Nid felly yma yng Nghymru, ysywaeth. Ac o ganlyniad, y term \u2018Astudiaethau Cymreig\u2019 yw\u2019r unig ymadrodd sydd ar gael inni ddisgrifio ymdrech awduron, ysgolheigion a deallusion ar draws holl sbectrwm y Celfyddydau, Dyniaethau a\u2019r Gwyddorau i adolygu\u2019r neilltuolion hynny sy\u2019n nodweddu Cymru.<\/p>\n<p>Eithr heb ymdrechion o\u2019r fath y mae gwir beryg na all Cymru \u2013 rhagor nag unrhyw wlad neu genedl arall \u2013 oroesi fel cymuned genedlaethol. Oherwydd cysyniad ideolegol yw pob cenedl yn y b\u00f4n. Golyga hynny bod yn rhaid i gymdeithas, chwedl Renan, \u2018fwrw pleidlais\u2019 ddyddiol, megis, o blaid parhad ei hunigrywedd hi ei hun.<\/p>\n<p>O\u2019r herwydd, y mae angen i gymunedau cenedlaehol arfer dulliau dadansoddiadol deallusol disgybledig er mwyn cynnal a chadw eu hamgyffred, a\u2019u hadnabyddiaeth ohonynt hwy eu hun. Gan mai\u2019r prifysgolion yw\u2019r sefydliadau mwyaf addas at y gwaith hwn, y maent yn cael eu hariannu gan eu gwladwriaethau cenedlaethol brodorol dros y byd at yr union bwrpas.<\/p>\n<p>Nid felly yng Nghymru. Yma, ni wnaed \u2018Astudiaethau Cymreig\u2019 erioed yn rhan annatod a chanolog o raglenni gwaith ein prifysgolion. Bu\u2019n rhaid i\u2019r gweithgareddau hynny grafu byw ar yr ymylon, gan lechu yn y cysgodion a dibynnu ar gardod.<\/p>\n<p>Prin chwarter canrif sydd wedi mynd heibio ers i Hanes Cymru, er enghraifft, wynebu ebargofiant yng ngholegau addysg uwch Cymru, wrth i un genhedlaeth o haneswyr cynhyrchiol a phrofiadol ymddeol heb unrhyw ymrwymiad gan \u2013 heb s\u00f4n am rheidrwydd ar \u2013 y sefydliadau i benodi cenhedlaeth newydd yn eu lle.<\/p>\n<p>Bregus iawn bu sefyllfa \u2018Astudiaethau Cymreig\u2019 oddi mewn i\u2019n system addysg uwch erioed, felly. Serch hynny, yr ydym ar hyn o bryd yn wynebu argyfwng cyn ddifrifoled ag unrhyw argyfwng a wynebwyd gennym yn y gorffennol.<\/p>\n<p>A\u2019r rheswm am hynny? Y mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi cyhoeddi na fydd y swm pitw (ar hyn o bryd, \u00a3132K y flwyddyn) a fu\u2019n galluogi ysgolheigion ym maes Astudio Cymru ers pymtheg mlynedd i gyhoeddi ffrwyth eu hymchwil ar gael iddynt o haf 2014 ymlaen. Ac nid oes disgwyl unrhyw benderfyniad eto ynghylch trefn amgen o ariannu i\u2019r dyfodol tan o leia ddiwedd 2014.<\/p>\n<p>Golyga hyn yn syth bin na fydd hi\u2019n bosib i\u2019r ysolheigion hynny sy\u2019n arbenigo ym meysydd Astudio Cymru ymbaratoi ar gyfer yr Asesiad Ymchwil tyngedfennol a fydd yn cael ei gynnal nesaf yn 2020. Er nad yw\u2019r maes Astudiaethau Cymreig yn llwyr ddibynnol, mae\u2019n wir, ar y swm a glustnodwyd hyd yn hyn gan y Cyngor Cyllido, y mae\u2019r mwyafrif llethol iawn o\u2019r cyhoeddiadau yn y maes wedi cael eu hariannu gan y gronfa honno. Felly, wrth ddirwyn y gronfa i ben, fe fydd y Cyngor yn amddifadu nifer enfawr o ysgolheigion o\u2019r gobaith y gwelir cyhoeddi eu gwaith cyn diwedd 2019 (sef dyddiad sensws yr Asesiad Ymchwil). Yn wyneb yr ansicrwydd dybryd hwn, bydd yn rhaid i ysgolheigion ifainc ystyried yn ddwys iawn cyn mentro ymroi o\u2019u hamser a\u2019u hegni i Astudio Cymru. A bydd yn rhaid i ysgolheigion profiadol, cynhyrchiol, aeddfed, ystyried o ddifrif y posibilrwydd o arall-gyfeirio, gan gefnu ar Gymru ac arbenigo mewn rhyw faes newydd \u2018estron\u2019.<\/p>\n<p>Ond os, ar waethaf hyn oll, bydd rhai ysgolheigion am barhau i wasanaethu Cymru, yna bydd yn eithriadol anodd iddynt gynllunio ar gyfer yr Asesiad Ymchwil, a hynny hyd yn oed os digwydd i\u2019r Cyngor Cyllido newid ei feddwl a phenderfynu adnewyddu\u2019r gronfa. Gan na fydd gweisg yn fodlon gwarantu cyhoeddi cyn diwedd 2019 oni bai bod testunau\u2019n eu cyrraedd erbyn canol 2018, golyga hyn na fydd gan ysgolheigion fwy na thair blynedd (2015\u201318) i ymchwilio, i \u2019sgrifennu ac i gyflwyno eu testunau, oherwydd ni fydd modd iddynt gychwyn yn hyderus ar y gwaith cyn derbyn cytundeb cyhoeddi pendant gan wasg.<\/p>\n<p>Yn wyneb hyn oll, fe gwyd cwestiwn yn anorfod i\u2019r meddwl: oes gan y rheini sy\u2019n rheoli\u2019r cronfeydd a\u2019r cynlluniau ariannu unrhyw brofiad helaeth o gwbl bellach o\u2019r boses o ymchwilio a chyhoeddi? Ynteu a oes rhyw fwlch diadlam wedi agor rhwng \u2018rheolwyr\u2019 y gyfundrefn addysg uwch a\u2019r ysgolheigion a\u2019r ysgolheictod hynny sydd, yn y pen draw, o hanfodol bwys i\u2019r gyfundrefn gyfan?<\/p>\n<p>Golyga\u2019r sefyllfa argyfyngus hon fod galw am ymateb nerthol ac adeiladol, ynghyd ag arweiniad cadarn a chlir. O\u2019r herwydd, mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru\u2019n bwriadu cydlynu ymgyrch fydd yn ceisio mynd i\u2019r afael o ddifri \u00e2\u2019r broblem sy\u2019n ein llethu. A nod pellach y Gymdeithas yn y tymor canolig fydd hybu datblygiad Cymdeithas Astudio Cymru. Oherwydd onid yw\u2019n berffaith amlwg y bydde o les mawr i\u2019r ysgolheigion hynny sy\u2019n gweithio yn y disgyblaethau hynod amrywiol oddi mewn i faes amlweddog Astudiaethau Cymreig ddyfod at ei gilydd i rannu profiad, i gynllunio ac i ymgyrchu? Dim ond ar \u00f4l uno y daw gobaith y medrir sicrhau cyfundrefnau priodol gogyfer \u00e2 chynllunio, ariannu a datblygu\u2019r maes er lles y genedl gyfan.<\/p>\n<p>M. Wynn Thomas, Athro\u2019r Saesneg a Deilydd Cadair Emyr Humphreys yn Ll\u00ean Saesneg Cymru, Prifysgol Abertawe<br \/>\nIs-Lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u2018Astudiaethau Cymreig\u2019: ymadrodd digon llipa, yn fy marn i. Pwy glywodd am gyfeiriad at \u2018Astudiaethau Seisnig\u2019 erioed ym mhrifysgolion Lloegr? Yno, yr un fath ag ym mhob gwlad aeddfed arall, y mae\u2019r gwaith cyson o fwrw gorolwg ddeallusol amlweddog a chynhwysfawr dros brif nodweddion y genedl yn wedd annatod a chanolog ar y gyfundrefn addysg,<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/argyfwng-astudiaethau-cymraeg\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3799,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/29977"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=29977"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/29977\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3799"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=29977"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=29977"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=29977"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}