{"id":147361,"date":"2025-01-23T14:50:34","date_gmt":"2025-01-23T14:50:34","guid":{"rendered":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=147361"},"modified":"2025-01-23T14:50:35","modified_gmt":"2025-01-23T14:50:35","slug":"mae-golygyddion-cylchgrawn-addysg-cymru-ill-tri-wedi-derbyn-medal-hugh-owen-ers-2019","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/mae-golygyddion-cylchgrawn-addysg-cymru-ill-tri-wedi-derbyn-medal-hugh-owen-ers-2019\/","title":{"rendered":"Mae golygyddion Cylchgrawn Addysg Cymru ill tri wedi derbyn Medal Hugh Owen ers 2019"},"content":{"rendered":"\n<p>Llongyfarchiadau i&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.learnedsociety.wales\/hugh-owen-medal-2024\/\"><strong>Athro Gary Beauchamp<\/strong><\/a> ar dderbyn Medal Hugh Owen gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae tri golygydd <a href=\"https:\/\/journal.uwp.celfapps.com\/wje\/\">Cylchgrawn Addysg Cymru<\/a> wedi derbyn y wobr fawreddog erbyn hyn, yn dilyn yr <a href=\"https:\/\/www.learnedsociety.wales\/medals\/hugh-owen-medal\/hugh-owen-medal-recipients\/2019-2\/\"><strong>Athro Enlli Thomas<\/strong><\/a> yn 2019 a&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.learnedsociety.wales\/hugh-owen-medal-2023-professor-tom-crick\/\"><strong>Athro Tom Crick<\/strong><\/a> yn 2023, gan gydnabod eu cyfraniadau sylweddol at ymchwil addysgol.  <\/p>\n\n\n\n<p>Enwir Medal Hugh Owen er anrhydedd i Syr Hugh Owen (1804-1881), addysgwr, dyngarwr ac arloeswr addysg uwch yng Nghymru.  Mae&#8217;n cael ei ddyfarnu i gydnabod ymchwil addysgol eithriadol, neu gymhwyso ymchwil i sicrhau arloesi sylweddol mewn polisi addysg a\/neu arferion addysgol yng Nghymru.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cylchgrawn Addysg Cymru yn gyfnodolyn Mynediad Agored platinwm sy&#8217;n cyhoeddi ymchwil genedlaethol a rhyngwladol ar bolisi ac ymarfer addysg. Mewn rhifynnau ddwywaith y flwyddyn, mae&#8217;r cyfnodolyn yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi a datblygu ymhellach y sylfaen ymchwil addysgol yng Nghymru a thu hwnt, gan sicrhau bod yr ymchwil ddiweddaraf yn hygyrch i bawb. Cyhoeddwyd <a href=\"https:\/\/journal.uwp.celfapps.com\/wje\/issue\/41\/info\/\">rhifyn arbennig <\/a>yn ddiweddar gydag awduron gwadd o bob cwr o&#8217;r DU yn pwyso a mesur chwarter canrif o addysg wedi\u2019i datganoli yng Nghymru. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal, mae&#8217;r casgliad Ffocws ar Ymarfer yn annog cyfraniadau gan ymarferwyr ac ymchwilwyr ar bob cam o&#8217;u gyrfa, gan gynnig llwyfan i ymarferwyr gyhoeddi eu hymchwil eu hunain. Mae&#8217;r Golygyddion i&#8217;w gweld ar <a href=\"https:\/\/journal.uwp.celfapps.com\/wje\/site\/podcast\/\">Bodlediad Addysg Cymru<\/a> hefyd, yn trafod y papurau diweddaraf gydag awduron, sy&#8217;n rhannu canfyddiadau a goblygiadau pwysicaf eu gwaith. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Llongyfarchiadau i&#8217;r Athro Gary Beauchamp ar dderbyn Medal Hugh Owen gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae tri golygydd Cylchgrawn Addysg Cymru wedi derbyn y wobr fawreddog erbyn hyn, yn dilyn yr Athro Enlli Thomas yn 2019 a&#8217;r Athro Tom Crick yn 2023, gan gydnabod eu cyfraniadau sylweddol at ymchwil addysgol. Enwir Medal Hugh Owen er anrhydedd<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/mae-golygyddion-cylchgrawn-addysg-cymru-ill-tri-wedi-derbyn-medal-hugh-owen-ers-2019\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":147350,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/147361"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=147361"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/147361\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":147362,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/147361\/revisions\/147362"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/147350"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=147361"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=147361"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=147361"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}