{"id":147248,"date":"2025-01-09T15:45:56","date_gmt":"2025-01-09T15:45:56","guid":{"rendered":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=147248"},"modified":"2025-01-09T16:05:16","modified_gmt":"2025-01-09T16:05:16","slug":"geraint-h-jenkins","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/geraint-h-jenkins\/","title":{"rendered":"Geraint H. Jenkins"},"content":{"rendered":"\n<p>Dymuna Gwasg\nPrifysgol Cymru dalu teyrnged i Geraint H. Jenkins, a wnaeth gyfraniad enfawr\ni\u2019w hanes cyhoeddi ac i\u2019r astudiaeth o hanes Cymru yn gyffredinol. Ysgrifennodd\na golygodd Geraint doreth o gyfrolau arloesol i\u2019r Wasg, yn y Gymraeg a\u2019r\nSaesneg, ar hanes modern cynnar Cymru yn arbennig \u2013 o\u2019i astudiaeth <em>Thomas\nJones yr Almanaciwr <\/em>(1980); ei gyfrol gynhwysfawr <em>Hanes Cymru yn y\nCyfnod Modern Cynnar, 1530\u20131760 <\/em>(1983); ei fywgraffiad o \u2018Doc Tom\u2019 Thomas\nRichards yng nghyfres \u2018Dawn Dweud\u2019 (1999); i olygu\u2019r gyfrol <em>Ceredigion\nCounty History Volume II<\/em> mor ddiweddar \u00e2 2019. <\/p>\n\n\n\n<p>Fel\ncyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru rhwng\n1993 a 2008, arweiniodd Geraint amrywiaeth o brosiectau ymchwil y cyhoeddwyd eu\ncanfyddiadau gan y Wasg \u2013 yn eu plith nifer o gyfrolau ar Iolo Morganwg, gan\ngynnwys ei lyfr ei hun <em>Bard of Liberty: The Political Radicalism of Iolo\nMorganwg <\/em>(2012), a chyfres o gyfrolau wedi\u2019u golygu ar hanes cymdeithasol\nyr iaith Gymraeg. Bu\u2019n aelod o Fwrdd y Wasg am flynyddoedd lawer, a bu\u2019n\ngyfaill a chydweithiwr cyson. <\/p>\n\n\n\n<p>Geraint hefyd fu\u2019n gyfrifol am gychwyn a golygu\u2019r gyfres flynyddol bwysig o ysgrifau ar hanes Cymru, <em>Cof Cenedl<\/em> (a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer), a chyfrannodd y gyfrol ar hanes y cyfnod modern cynnar i gyfres Gwasg Prifysgol Rhydychen ar hanes Cymru. Yn ogystal, bu\u2019n gyfrifol am lunio sawl llyfr difyr iawn yn adlewyrchu ei gariad at b\u00eal-droed Cymru, a chlwb Abertawe yn arbennig, ac at hanes Ceredigion a\u2019i chymeriadau unigryw. <br><br><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dymuna Gwasg Prifysgol Cymru dalu teyrnged i Geraint H. Jenkins, a wnaeth gyfraniad enfawr i\u2019w hanes cyhoeddi ac i\u2019r astudiaeth o hanes Cymru yn gyffredinol. Ysgrifennodd a golygodd Geraint doreth o gyfrolau arloesol i\u2019r Wasg, yn y Gymraeg a\u2019r Saesneg, ar hanes modern cynnar Cymru yn arbennig \u2013 o\u2019i astudiaeth Thomas Jones yr Almanaciwr (1980);<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/geraint-h-jenkins\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/147248"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=147248"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/147248\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":147249,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/147248\/revisions\/147249"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=147248"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=147248"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=147248"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}