{"id":144135,"date":"2023-04-26T13:51:13","date_gmt":"2023-04-26T12:51:13","guid":{"rendered":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=144135"},"modified":"2023-04-26T13:51:14","modified_gmt":"2023-04-26T12:51:14","slug":"llyfr-cyntaf-gwasg-prifysgol-cymru-1923","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/llyfr-cyntaf-gwasg-prifysgol-cymru-1923\/","title":{"rendered":"Llyfr cyntaf Gwasg Prifysgol Cymru, 1923"},"content":{"rendered":"\n<p>Yn\nystod un o gyfarfodydd cyntaf Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru yn gynnar ym mis\nEbrill 1923, nodwyd bod aelodau\u2019r Bwrdd wedi derbyn cop\u00efau o\u2019r llyfr cyntaf un\na gyhoeddodd GPC union ganrif yn \u00f4l, sef <em>The Poetical Works of Dafydd Nanmor<\/em>.\n<\/p>\n\n\n\n<p>Golygywd\ny gyfrol gan y diweddar Thomas Roberts o Borth-y-Gest ac fe\u2019i chwblhawyd ar\ngyfer y Wasg gan ei ffrind a thiwtor yn Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, Yr\nAthro Ifor Williams. Fel yr eglura Williams yn ei ragair i\u2019r gyfrol: \u2018This work\nwas submitted in 1909 by my friend Tom Roberts as a dissertation for the M.A.\ndegree of the University of Wales, and was approved by the Examiners. Probably\nhe had been attracted to Dafydd Nanmor as a subject by his interest in the\nhistorical associations of his native district, for Porth y Gest is only a few\nmiles distant from Nanmor, the home of the poet.\u2019 \u00c2 ymlaen i nodi bod Roberts\nwedi astudio Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, o dan arweiniad\nSir Edward Anwyl, un arall o ysgolheigion mwyaf blaenllaw yr oes. Bu\u2019n athro\nCymraeg yn Ysgol Grove Park, Wrecsam, am gyfnod wedi hynny, cyn ymuno \u00e2\u2019r\nfyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond fel yr eglura Williams, ysywaeth: \u2018On\nthe morning of October 11<sup>th<\/sup>, 1918, he was severely wounded in\naction, succumbing to his wounds on the same day. He lies in the British\nCemetery, Bucquoi Road, near Arras.\u2019 <\/p>\n\n\n\n<p>Teimlai\nIfor Williams gyfrifoldeb i anrhydeddu dymuniadau olaf ei gyfaill: \u2018In his will,\ndrawn up on the battlefield, he left me his manuscript, to be used as I thought\nfit in the preparation of the <em>Cywyddau <\/em>series. I felt, however, that it\nwould be fairer to his memory to publish his Collection of the Works of Dafydd\nNanmor in full, as it was the only complete work he left behind him.\u2019 Mae\u2019n\ncrybwyll pa mor anodd oedd paratoi\u2019r llyfr yn sgil ei \u2018unwillingness to tamper\nwith the work as my friend had left it, but yet one was tempted to emend here\nand there, if not to recast radically\u2019, cyn amlinellu y gwaith pwysig a wnaeth\nRoberts wrth gasglu cerddi Dafydd Nanmor at ei gilydd o gasgliadau llawysgrifau\ngwasgaredig. Cafodd cymorth ei gymrodyr academaidd ac aelodau o Fwrdd y\nWasg,&nbsp; i droi traethawd M. A. Roberts yn\nlyfr, a gyhoeddwyd yn ystod misoedd cynnar 1923. Argraffwyd y gyfrol gan Hugh\nEvans and Sons, Liverpool, y cyntaf o blith nifer o argraffwyr gwahanol o Gymru\na dros y ffin a ddefnyddiodd GPC yn ei ddegawdau cynnar. Fel y dywed J. Gwynn\nWilliams yn ei hanes o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru rhwng 1884 a 1927, \u2018(Ifor\nWilliams) performed this moving act of <em>pietas <\/em>with delicate care\u2019. Aeth\nymlaen i gyhoeddi amrywiaeth eang tu hwnt o gyfrolau arloesol i\u2019r Wasg ar\nfarddoniaeth gynnar a chanoloesol rhwng y 1920au a\u2019r 1950au, gan wneud\ncyfraniad enfawr a pharhaol i\u2019r astudiaeth o lenyddiaeth Gymraeg yn y broses.&nbsp; <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ystod un o gyfarfodydd cyntaf Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru yn gynnar ym mis Ebrill 1923, nodwyd bod aelodau\u2019r Bwrdd wedi derbyn cop\u00efau o\u2019r llyfr cyntaf un a gyhoeddodd GPC union ganrif yn \u00f4l, sef The Poetical Works of Dafydd Nanmor. Golygywd y gyfrol gan y diweddar Thomas Roberts o Borth-y-Gest ac fe\u2019i chwblhawyd ar<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/llyfr-cyntaf-gwasg-prifysgol-cymru-1923\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":144132,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[411,412],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/144135"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=144135"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/144135\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":144136,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/144135\/revisions\/144136"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/144132"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=144135"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=144135"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=144135"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}