{"id":143408,"date":"2022-05-18T14:30:56","date_gmt":"2022-05-18T13:30:56","guid":{"rendered":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=143408"},"modified":"2022-05-18T14:30:57","modified_gmt":"2022-05-18T13:30:57","slug":"atgofion-am-wasg-prifysgol-cymru-gan-john-rhys-cyfarwyddwr-y-wasg-1976-1990","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/atgofion-am-wasg-prifysgol-cymru-gan-john-rhys-cyfarwyddwr-y-wasg-1976-1990\/","title":{"rendered":"Atgofion am Wasg Prifysgol Cymru gan John Rhys, Cyfarwyddwr y Wasg 1976-1990"},"content":{"rendered":"\n<p>Des i\u2019r swydd o\u2019r\ngwasanaeth sifil yn newydd i\u2019r byd cyhoeddi, ond gyda graddau mewn llenyddiaeth\nGymraeg a chariad at lyfrau. Roeddwn yn ffodus i etifeddu t\u00eem bychan ond brwd o\ngydweithwyr oedd eisoes yn hyddysg yn y maes ac a allai fy nghyflwyno i\nddirgeleddau argraffu a chyhoeddi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pob\nCyfarwyddwr yn etifeddu prosiectau gan ei ragflaenwyr. Un o\u2019r rhain oedd\ncyhoeddi llyfrau diwinyddol sylweddol gan yr Athro Aubrey Johnson, Gweinidog\ngyda\u2019r Bedyddwyr yng Nghroes-y-Parc ym Mro Morgannwg, ac Athro Ieithoedd\nSemitaidd yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd. Cyfrolau swmpus oedd y rhain, gyda\nchynulleidfa arbenigol, a\u2019r unig ffordd y gallai\u2019r Wasg eu cyhoeddi oedd i\u2019r\nAthro Johnson ei hun dalu am gostau\u2019r argraffu \u2013 y math o \u2018hunan-gyhoeddi\u2019 a\nddaeth yn llawer mwy cyffredin ers hynny. Cyhoeddwyd yr olaf o\u2019r rhain \u2013 clamp\no gyfrol 467 tudalen yn dwyn yr enw <em>The Cultic Prophet and Israel\u2019s Psalmody\n<\/em>\u2013 yn 1979. Bryd hynny, roedd teipysgrif terfynol unrhyw gyfrol yn werthfawr\niawn, gan na fyddai copi gl\u00e2n arall ar gael. Cyrhaeddodd yr Athro Johnson\nswyddfa\u2019r Wasg yn Stryd Gwennyth yn Cathays ar ddiwrnod gwyntog yn 1978, yn\ncario\u2019r teipysgrif mewn bocs. Yn anffodus, chwythodd clawr y bocs ymaith a\ndechreuodd y tudalennau hedfan ar draws y stryd, gyda\u2019r Athro druan yn eu\nhymlid orau y gallai. Fe lwyddodd i\u2019w hachub a chyrraedd y swyddfa yn ddiogel,\nlle gallwn ei gyfarch trwy ddyfynnu Salm 126 yn y Saesneg, \u201c&#8221;Well, Aubrey, here\nyou are bringing your sheaves with you&#8221; (Salm 126.6, AV). Roeddwn yn falch o weld ar\nwefan y Wasg fod y gyfrol o hyd mewn print ac ar gael gan y Wasg, felly bu\u2019n\nwerth achub y dalennau! Roedd hyrwyddo cyhoeddi yn y modd hwn, yn y dyddiau cyn\ny rhyngrwyd, yn wasanaeth pwysig gan y Wasg i ysgolheictod, gan alluogi cyhoeddi\ngwaith na fyddai fel arall wedi gweld golau dydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Etifeddais hefyd\nymrwymiad i gyhoeddi Geiriadur Lladin-Cymraeg gan Huw Thomas. Yn yr achos hwn \u2013\noherwydd y cylchrediad bychan a ddisgwylid \u2013 tynnwyd llun y teipysgrif terfynol\na\u2019i argraffu a\u2019i rwymo yn gyfrol yn \u00f4l y gofyn gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.\nCeidwad y teipysgrif hwn oedd fy mab, Gethin, gan fod Mr Thomas yn athro Lladin\narno ar y pryd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, a bu raid iddo gario amryfal\nddrafftiau\u2019r teipysgrif yn \u00f4l ac ymlaen o\u2019r ysgol, wrth eu trosglwyddo rhwng yr\nawdur, y Wasg a\u2019r deipyddes. Dim ond yn ddiweddar y darganf\u00fbm i Gethin ar\nddamwain adael y teipysgrif olaf un, yn cynnwys cywiriadau munud olaf Mr\nThomas, yn ystafell gotiau\u2019r ysgol un noswaith yn 1978. Bu raid iddo ffonio\u2019r\nysgol a gofyn i\u2019r Prifathro, Ifan Wyn Williams, eu hachub. Y tro hwn hefyd, bu\ndiwedd hapus i\u2019r hanes ac fe gyhoeddwyd y Geiriadur yn 1979. Mae hwnnw hefyd ar\ngael o hyd gan y Wasg, ac yn fargen am \u00a37.95.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal ag\netifeddu gwaith, mae pob Cyfarwyddwr yn wynebu newid mewn amgylchiadau sy\u2019n\ngolygu edrych i gyfeiriadau newydd. Roedd y sefyllfa economaidd yn ddigon anodd\neisoes pan gychwynnais ar y gwaith, ond wedi dyfodiad Syr Keith Joseph yn\nYsgrifennydd Gwladol dros Addysg yn 1981, fe gychwynnodd gyfnod o doriadau yng\nngwariant pob prifysgol, a\u2019r toriadau llymaf ym meysydd y dyniaethau a\u2019r\ngwyddorau cymdeithasol, prif feysydd cyhoeddi Gwasg Prifysgol Cymru. A\u2019r holl\ndeulu yn rhan o fyd addysg, roedd enw Syr Keith yn faw yn ein t\u0177 ni! Roedd amddiffyn\ncyllideb y Wasg wrth i Brifysgol Cymru chwilio am ffyrdd i gadw\u2019r ddysgl\nariannol yn wastad, ar y naill law, a cheisio ffynonellau newydd o incwm iddi,\nar y llall, yn dasg barhaus. <\/p>\n\n\n\n<p>Un cam a gymerwyd\ni\u2019r cyfeiriad hwnnw, gyda chymorth ein Swyddog Marchnata gweithgar Richard\nHoudmont, oedd cyhoeddi llyfrau clawr papur Saesneg y gellid eu marchnata yn\nfwy eang na\u2019r cyfrolau academaidd traddodiadol, dan imprint GPC Books. Ysbrydolwyd\ny rhain gan gyfresi megis \u2018Past Masters\u2019 gan Wasg Prifysgol Rhydychen, oedd yn gyflwyniadau\no ryw 100 tudalen i athronwyr enwog gan arbenigwyr academaidd. Gwyddem fod y\nllyfrau hyn yn gwerthu\u2019n dda i fyfyrwyr prifysgol a Lefel A ac i ddarllenwyr\ncyffredinol. Wedi pendroni am faes addas, fe ddechreusom gyhoeddi \u2018Political\nPortraits\u2019 dan olygyddiaeth yr Athro Kenneth O. Morgan. Roedd y cyfrolau\nychydig yn fwy o ran maint a hyd na \u2018Past Masters\u2019, ond yr un oedd y syniad,\nsef cyflwyno\u2019r gwrthrych yn gryno i\u2019r darllenydd. Wrth reswm, yr Athro Morgan\nei hun ysgrifennodd gyfrol am Lloyd George, a dros y blynyddoedd fe ychwanegwyd\ncyfrolau am lawer o Brif Weinidogion Prydain o\u2019r 19eg a\u2019r 20fed ganrif,\ngwleidyddion Cymreig megis Aneurin Bevan, ac ambell wladweinydd nodedig arall,\nmegis cyfrol Owen Dudley Edwards am Eamon de Valera. Da gweld fod tipyn o fynd\nar y cyfrolau hyn o hyd yn y farchnad ail law.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel pob\nCyfarwyddwr yn ei dro fe gefais y fraint o weld cyhoeddi Geiriadur Prifysgol\nCymru fesul rhan ar ran y Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Etifeddais rywfaint o oedi\ngyda\u2019r cyhoeddi, gyda\u2019r Geiriadur yn stond ar y gair \u2018haint\u2019 nes, rhyw ddwy\nflynedd a hanner i mewn i \u2018nhymor fe lwyddwyd cyhoeddi rhan 28 yn Ionawr 1979\n(yn dechrau gyda \u2018hair\u2019). Gyda dyfodiad dulliau newydd o argraffu oedd yn\ncyflymu\u2019r broses, fe welais gyhoeddi wedyn hyd at ran 41, yn mynd \u00e2\u2019r geiriau\nhyd at \u2018Obo\u2019, cyn ymddeol yn 1990. Roedd yn fraint arbennig fod yngl\u0177n \u00e2\nchyhoeddi\u2019r ail gyfrol lawn (g \u2013 llyys) yn 1987. Roedd cyhoeddi\u2019r darnau clawr\npapur fesul tipyn yn rhan eitha pwysig o\u2019r diwylliant Cymraeg, gyda chryn\ngyffro mewn cylchoedd llengar wrth i bob rhan gael ei chyhoeddi a\u2019i danfon at y\ntanysgrifwyr, a hyd yn oed adolygiadau yn y wasg. Yn syth ar \u00f4l ymddeol fe wirfoddolais\ni fynd i Aberystwyth am gyfnod a helpu gyda\u2019r slipiau, ac efallai cyflymu\u2019r cyhoeddi\nryw ychydig! Diolch bod y we wedi hwyluso cyhoeddi\u2019r Geiriadur cryn dipyn erbyn\nhyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe fu\u2019r 14\nblynedd wrth y llyw yn gyfnod hapus a hoffwn ddiolch i fy holl gydweithwyr ar y\npryd am eu hynawsedd a\u2019u parodrwydd i ysgwyddo amrywiaeth eang o gyfrifoldebau.\nDymunaf yn dda i\u2019r Wasg am ei chanrif nesaf!<\/p>\n\n\n\n<p><em>John Rhys<br>Caerdydd, Ebrill 2022<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Des i\u2019r swydd o\u2019r gwasanaeth sifil yn newydd i\u2019r byd cyhoeddi, ond gyda graddau mewn llenyddiaeth Gymraeg a chariad at lyfrau. Roeddwn yn ffodus i etifeddu t\u00eem bychan ond brwd o gydweithwyr oedd eisoes yn hyddysg yn y maes ac a allai fy nghyflwyno i ddirgeleddau argraffu a chyhoeddi. Mae pob Cyfarwyddwr yn etifeddu prosiectau<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/atgofion-am-wasg-prifysgol-cymru-gan-john-rhys-cyfarwyddwr-y-wasg-1976-1990\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":143406,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/143408"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=143408"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/143408\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":143409,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/143408\/revisions\/143409"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/143406"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=143408"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=143408"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=143408"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}