{"id":141276,"date":"2021-11-25T14:44:46","date_gmt":"2021-11-25T14:44:46","guid":{"rendered":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=141276"},"modified":"2021-11-25T14:44:47","modified_gmt":"2021-11-25T14:44:47","slug":"sylfeini-cyfieithu-testun","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/sylfeini-cyfieithu-testun\/","title":{"rendered":"Sylfeini Cyfieithu Testun"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/?p=139707\"><img loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/sylfeini-714x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-141277\" width=\"228\" height=\"327\" srcset=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/sylfeini-714x1024.jpg 714w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/sylfeini-209x300.jpg 209w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/sylfeini-768x1102.jpg 768w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/sylfeini.jpg 892w\" sizes=\"(max-width: 228px) 100vw, 228px\" \/><\/a><figcaption><em><a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/?p=139707\"> <strong>Sylfeini Cyfieithu Testun: Cyflwyniad i Gyfieithu Proffesiynol<\/strong><\/a><\/em><strong> gan Ben Screen<\/strong><\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p><strong>Ben Screen yn cyflwyno ei lyfr newydd, <em><a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/?p=139707\">Sylfeini Cyfieithu Testun: Cyflwyniad i Gyfieithu Proffesiynol<\/a><\/em>.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gwlad ddwyieithog yw Cymru, er\nbod dealltwriaeth simsan o\u2019r dwyieithrwydd hwnnw yn bell o fod anghyffredin\nymysg ei phoblogaeth ei hun. Gall hyn fod ar ei fwyaf amlwg yn achos cyfieithu;\noni all unrhyw un gyfieithu os yw\u2019n ddwyieithog? Rhaid oedi am ennyd yma fodd\nbynnag ac ystyried yn ddwysach ddau gwestiwn arwyddocaol i\u2019r Gymru gyfoes a\nsafon gwasanaethau cyhoeddus: Beth yw cyfieithu, a beth yw dwyieithrwydd? Un o\nnodau\u2019r gyfrol hon yw ceisio gwella dealltwriaeth pobl o gyfieithu testun a\u2019r\nsgiliau a\u2019r wybodaeth sydd eu hangen i\u2019w wneud yn iawn. Gwneir hynny trwy\ndrafod yr ymchwil berthnasol ynghylch cymhwysedd cyfieithwyr (yn \u00f4l ymchwil, y\nsgiliau a\u2019r wybodaeth hynny sydd gan gyfieithwyr proffesiynol da nad ydynt ym\nmeddiant pawb arall), a thrwy drafod y broses gyfieithu fesul cam er mwyn taflu\ngoleuni ar bob rhan o\u2019r broses amlweddog hon. Mae cyfieithu yn broffesiwn sy\u2019n\nhaeddu rhagor o gydnabyddiaeth ac mae cyfieithwyr da yn brin. Dyma ymgais yn y\ngyfrol hon i ddangos hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Y brif gynulleidfa, fodd bynnag,\nyw myfyrwyr a\u2019r rhai sydd \u00e2\u2019u bryd ar ddod yn gyfieithwyr. Prin iawn yw\u2019r\ndeunydd cyhoeddedig yn y Gymraeg sy\u2019n egluro hanfodion cyfieithu testun, ac er\nbod hen ddigon o ddeunydd yn y Saesneg ac mewn ieithoedd eraill, nid yw\u2019r\nllyfrau hyn wedi eu hysgrifennu o safbwynt ieithoedd lleiafrifedig. Nod arall\nfelly oedd unioni hynny, nid yn unig o safbwynt academaidd ond hefyd o safbwynt\ny byd cyfieithu proffesiynol yma yng Nghymru. Mae\u2019r technegau a\u2019r strategaethau\nsydd eu hangen ar gyfieithwyr wedi eu hegluro, i\u2019w cynorthwyo trwy gydol y\nbroses o lunio cyfieithiad, ac mae trafodaeth hefyd am ystyr mewn iaith a sut\nmae ieithoedd yn cyfleu hynny. Mae dealltwriaeth ddofn o ystyr yn hanfodol wrth\ngyfieithu, ac felly rhaid mynd ymhellach na\u2019r hyn a geir yn aml wrth roi\nadborth i gyw cyfieithwyr, ac yn hytrach nag ymadroddion fel \u2018ergyd y darn\u2019,\n\u2018taro tant\u2019, \u2018colli\u2019r ystyr\u2019, \u2018brawddegu da\u2019 a \u2018clogyrnaidd\u2019, rhaid cyfuno hyn\n\u00e2\u2019r gallu i egluro <em>pam<\/em> nad yw\ncyfieithiad yn gywir ar lefel fwy technegol. Gobeithir y bydd trafodaeth am sut\ny gellir categoreiddio mathau o ystyr yn fanwl ac am dechnegau cyfieithu\npenodol yn fuddiol yn hynny o beth. Gobeithir hefyd y bydd y dadansoddiad o\u2019r\ngwallau a wnaed amlaf yn arholiadau aelodaeth Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru\nrhwng 2012 a 2019, a\u2019r ymhelaethu ar y gwallau hynny trwy egluro gwelliannau\nposibl ar sail cynnwys y gyfrol, hefyd o fudd i gyfieithwyr newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ysgrifennu am y byd cyfieithu\ncyfoes wrth gwrs yn golygu trafod cyfieithu peirianyddol a thechnoleg cyfieithu\nyn ehangach gan fod technoleg cyfieithu wedi chwyldroi\u2019r proffesiwn dros y\nblynyddoedd. Mae cyfieithu peirianyddol yn neilltuol yn cael sylw manwl yn y\ngyfrol, er mwyn chwalu\u2019r mythau amdano a\u2019i gyflwyno fel arf pwysig i\ngyfieithwyr proffesiynol. Trafodir hefyd le cyfieithu peirianyddol o fewn\n\u2018Llythrennedd Digidol\u2019 hefyd, a dadleuir bod lleoli\u2019r dechnoleg o fewn corlan\nsgiliau llythrennedd digidol yn dod \u00e2 llu o fanteision. Mae trafod hefyd ar y\nmathau o ystyr a\u2019r elfennau hynny o gyfieithu na all peiriannau cyfieithu\nddelio \u00e2 hwy yn ddigon da eto. Mae\u2019r meta-iaith angenrheidiol i egluro pam na\nall cyfieithu peirianyddol ddelio\u2019n dda \u00e2 rhai elfennau o\u2019r broses gyfieithu ar\ngoll yn y disgwrs cyhoeddus, a dibynnir ar ystrydebau ac ymadroddion gwag yn\nrhy aml, megis ei anallu i \u2018ddarllen rhwng y llinellau\u2019 neu i ddeall \u2018ysbryd\u2019 y\ntestun gwreiddiol. Mae modd bod yn fwy manwl na hyn pan ddaw i egluro doniau a\nffaeleddau peiriannau cyfieithu, a gobeithir y bydd y drafodaeth yn y gyfrol yn\ncyfrannu at ddisgwrs sydd ychydig yn fwy trylwyr a chys\u00e1ct yn hynny o beth. <\/p>\n\n\n\n<p>Dyma ymdriniaeth o grefft y cyfieithydd a\u2019r byd cyfieithu cyfoes yn y Gymraeg, o safbwynt academaidd ac o safbwynt ymarferol, a\u2019r gobaith yw y bydd yn gynhorthwy i unrhyw gyfieithydd wrth ddechrau ar yrfa yn y maes hollbwysig hwn sydd wrth galon darparu gwasanaethau dwyieithog.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Rheolwr Cyfieithu yw Ben Screen yn GIG Cymru. Cwblhaodd ei ddoethuriaeth ym maes cyfieithu a thechnoleg iaith yn 2018, ac enillodd ei radd yn y Gymraeg yn 2014, ill dwy yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd<\/em>. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ben Screen yn cyflwyno ei lyfr newydd, Sylfeini Cyfieithu Testun: Cyflwyniad i Gyfieithu Proffesiynol. Gwlad ddwyieithog yw Cymru, er bod dealltwriaeth simsan o\u2019r dwyieithrwydd hwnnw yn bell o fod anghyffredin ymysg ei phoblogaeth ei hun. Gall hyn fod ar ei fwyaf amlwg yn achos cyfieithu; oni all unrhyw un gyfieithu os yw\u2019n ddwyieithog? Rhaid oedi<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/sylfeini-cyfieithu-testun\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":141280,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[388],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/141276"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=141276"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/141276\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":141291,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/141276\/revisions\/141291"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/141280"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=141276"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=141276"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=141276"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}