{"id":139442,"date":"2021-07-27T10:49:32","date_gmt":"2021-07-27T09:49:32","guid":{"rendered":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=139442"},"modified":"2021-07-27T11:03:43","modified_gmt":"2021-07-27T10:03:43","slug":"lleiafrifoedd-ethnig-mewn-cenedl-leiafrifol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/lleiafrifoedd-ethnig-mewn-cenedl-leiafrifol\/","title":{"rendered":"Lleiafrifoedd ethnig mewn cenedl leiafrifol"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=116904\"><img loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/www.gwasgprifysgolcymru.org\/app\/uploads\/\/hanescymry-653x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-139443\" width=\"212\" height=\"333\" srcset=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/hanescymry-653x1024.jpg 653w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/hanescymry-191x300.jpg 191w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/hanescymry-768x1204.jpg 768w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/hanescymry-980x1536.jpg 980w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/hanescymry-1306x2048.jpg 1306w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/hanescymry.jpg 1625w\" sizes=\"(max-width: 212px) 100vw, 212px\" \/><\/a><figcaption><strong> <a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=116904\"><em>Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a\u2019r Gwareiddiad Cymraeg<\/em><\/a> gan Simon Brooks<\/strong><\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p><strong>Simon Brooks yn cyflwyno <a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=116904\"><em>Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a\u2019r Gwareiddiad Cymraeg<\/em><\/a>.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Pwy yw\u2019r Cymry? Wel, yn sicr, nid cenedl fonoethnig ydyn nhw. Roedd yr hen Gymry yn dathlu eu bod yn Frythoniaid, ac eto ar yr un gwynt byddent yn dweud eu bod yn blant i Rufain. <\/p>\n\n\n\n<p>Hyd yn oed heddiw, mae\u2019r myth yn rhan o ymwybod y Cymry fel y gwelwn yng\nngh\u00e2n enwog Dafydd Iwan, \u2018Yma o Hyd\u2019. Mae\u2019n ein hatgoffa fod yr ymerawdwr\nRhufeinig Magnus Maximus wedi ein \u2018gadael yn genedl gyfan\u2019 pan adawodd Brydain\nyn y flwyddyn 383. Er bod y Cymry yn synio amdanynt hwy eu hunain fel cenedl\nfrodorol, roeddynt yn cydnabod mai cymysg oedd honno o\u2019r cychwyn. Iaith a\ndiwylliant yw sail eu gwahanrwydd, nid purdeb hil.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn athroniaeth Gymraeg, dadleuid fod y pwyslais hwn ar iaith yn hybu\ncynhwysedd. Nid oedd hynny\u2019n wir bob tro, ar lawr gwlad yn enwedig, ond termau\nieithyddol oedd geiriau fel \u2018Cymro\u2019 a \u2018Chymraes\u2019 gan amlaf, a gellid cyfrif fel\nCymry y sawl nad oeddynt o dras Gymreig os oeddynt yn rhugl eu Cymraeg. Ac am iddynt\ngredu mai hwy oedd brodorion gwrthodedig Ynys Prydain, cydymdeimlai\u2019r Cymry \u00e2\nphobloedd ddarostyngedig eraill. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn <em>Hanes Cymry<\/em>, rhoddir y damcaniaethau Cymraeg hyn yn y glorian efo\nprofiadau go-iawn lleiafrifoedd ethnig. Hwyrach mai\u2019r brif wers ydi fod profiad\nlleiafrif bob tro yn dibynnu ar gyd-destun. Mae amlddiwylliannedd mewn\ndiwylliant ieithyddol lleiafrifol yn wahanol i\u2019r amlddiwylliannedd a geir mewn\ndiwylliant mwyafrifol. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r ffaith fod lleiafrifoedd y diwylliant Cymraeg (pobl ddu ac Asiaidd, y Roma, Iddewon, Gwyddelod, Eidalwyr, a phob math o grwpiau eraill \u2013 ac, ie, y Saeson hefyd) wedi ymwneud \u00e2\u2019r diwylliant Cymraeg yn bwysig. Mae a wnelo profiadau lleiafrifoedd yn aml \u00e2 grym y mwyafrif, a phur wahanol oedd grym y diwylliant Cymraeg a grym y diwylliant Saesneg.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe yw Simon Brooks. Hanes y diwylliant Cymraeg yw maes ei arbenigedd, ac mae ei weithiau blaenorol yn cynnwys O dan lygaid y Gestapo (2004), Yr Hawl i Oroesi (2009), Pa beth yr aethoch allan i\u2019w achub? (2013), Pam na fu Cymru (2015) ac Adra (2018).<\/em> <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Simon Brooks yn cyflwyno Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a\u2019r Gwareiddiad Cymraeg. Pwy yw\u2019r Cymry? Wel, yn sicr, nid cenedl fonoethnig ydyn nhw. Roedd yr hen Gymry yn dathlu eu bod yn Frythoniaid, ac eto ar yr un gwynt byddent yn dweud eu bod yn blant i Rufain. Hyd yn oed heddiw, mae\u2019r myth yn rhan<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/lleiafrifoedd-ethnig-mewn-cenedl-leiafrifol\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":139449,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[382,383],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/139442"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=139442"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/139442\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":139456,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/139442\/revisions\/139456"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/139449"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=139442"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=139442"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=139442"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}