{"id":138577,"date":"2021-06-09T10:20:47","date_gmt":"2021-06-09T09:20:47","guid":{"rendered":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=138577"},"modified":"2021-06-09T10:20:48","modified_gmt":"2021-06-09T09:20:48","slug":"diwinyddiaeth-paul","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/diwinyddiaeth-paul\/","title":{"rendered":"Diwinyddiaeth Paul"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>John Tudno Williams yn cyflwyno ei lyfr, <em><a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/?p=98708\">Diwinyddiaeth Paul: Gan Gynnwys Sylw Arbennig i\u2019w Ddehonglwyr Cymreig<\/a><\/em>.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/?p=98708\"><img loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/www.gwasgprifysgolcymru.org\/app\/uploads\/\/diwinyddiaeth-665x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-138580\" width=\"194\" height=\"298\" srcset=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/diwinyddiaeth-665x1024.jpg 665w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/diwinyddiaeth-195x300.jpg 195w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/diwinyddiaeth-768x1183.jpg 768w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/diwinyddiaeth-997x1536.jpg 997w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/diwinyddiaeth-1329x2048.jpg 1329w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/diwinyddiaeth-156x240.jpg 156w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/diwinyddiaeth-225x345.jpg 225w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/diwinyddiaeth.jpg 1515w\" sizes=\"(max-width: 194px) 100vw, 194px\" \/><\/a><figcaption> <strong> <em><a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/?p=98708\">Diwinyddiaeth Paul: Gan Gynnwys Sylw Arbennig i\u2019w Ddehonglwyr Cymreig<\/a><\/em><\/strong> <strong>gan  John Tudno Williams<\/strong>  <\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Cysylltir enw\u2019r Apostol Paul \u00e2 thri ar ddeg o Epistolau\u2019r Testament Newydd a gyfeiriwyd at eglwysi neu unigolion gwahanol. Buont dan drafodaeth ymysg Cristnogion ac eraill am yn agos i ddwy fil o flynyddoedd, a chwaraeodd eu cynnwys ran allweddol yn natblygiad athrawiaethau\u2019r Eglwys Gristnogol. Roedd hyn yn arbennig o wir adeg y Diwygiad Protestannaidd bum canrif yn \u00f4l.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hon yn gyfrol arloesol yn y\nGymraeg: ni chafwyd erioed o\u2019r blaen drafodaeth mor fanwl a chynhwysfawr o\nrychwant diwinyddiaeth Paul yn yr iaith. Mewn un bennod ar ddeg, mae\u2019r gyfrol\nyn trafod ei berthynas \u00e2 Iesu a\u2019i ddysgeidiaeth yntau; bywyd cynnar yr Apostol a\u2019i\ngefndir meddyliol; yna holir ai tr\u00f6edigaeth ynteu alwad a gafodd ar y\nffordd i Ddamascus; ystyrir ei agwedd at y Gyfraith Iddewig; ei Soterioleg, sef\nolrhain gwaith achubol Duw yng Nghrist; Cristoleg, sef ei gyflwyniad o berson\nCrist; Anthropoleg, sef ei ddealltwriaeth o\u2019r natur ddynol a\u2019i ddarlun o\nweithgarwch yr Ysbryd Gl\u00e2n mewn pobl ac yn yr eglwys; ei ddysgeidiaeth foesol; ei\nddarlun o\u2019r Eglwys; ei Eschatoleg, sef ei ddysgeidiaeth am y pethau olaf, sydd\nhefyd \u00e2\u2019i\neffaith ar fywyd presennol y credadun; ac yn y bennod olaf, rhoddir sylw i\ngyfraniad arbennig y llythyrau hynny y mae amheuaeth ai Paul ei hun yw eu\nhawdur.<\/p>\n\n\n\n<p>Drwy gydol y gyfrol trafodir y modd y trawsnewidiwyd llawer agwedd ar ddiwinyddiaeth Paul gan astudiaethau trylwyr wedi\u2019r Ail Ryfel Byd. Cyfraniad unigryw y gyfrol hon yw\u2019r sylw arbennig a roddir i waith ysgolheigion Cymreig ynghyd ag ysgolheigion eraill a fu\u2019n llafurio yng Nghymru. Yr amlycaf o\u2019r rhain oedd C. H. Dodd a W. D. Davies, a phwysleisir yn gyson pa mor arloesol oedd eu cyfraniadau at astudiaethau Paulaidd.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Gweinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw\u2019r awdur. Bu\u2019n darlithio ym meysydd yr Hen Destament a\u2019r Testament Newydd yn y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth, am gyfnod helaeth, ac mae\u2019n awdur esboniadau ar dri o lythyrau\u2019r Apostol Paul. Bu\u2019n Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr 1990\u20131. <\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>John Tudno Williams yn cyflwyno ei lyfr, Diwinyddiaeth Paul: Gan Gynnwys Sylw Arbennig i\u2019w Ddehonglwyr Cymreig. Cysylltir enw\u2019r Apostol Paul \u00e2 thri ar ddeg o Epistolau\u2019r Testament Newydd a gyfeiriwyd at eglwysi neu unigolion gwahanol. Buont dan drafodaeth ymysg Cristnogion ac eraill am yn agos i ddwy fil o flynyddoedd, a chwaraeodd eu cynnwys ran<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/diwinyddiaeth-paul\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":138578,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[376,377],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/138577"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=138577"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/138577\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":138589,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/138577\/revisions\/138589"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/138578"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=138577"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=138577"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=138577"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}