{"id":127473,"date":"2020-12-11T14:58:13","date_gmt":"2020-12-11T14:58:13","guid":{"rendered":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=127473"},"modified":"2021-01-18T15:14:55","modified_gmt":"2021-01-18T15:14:55","slug":"ysbryd-morgan-adferiad-y-meddwl-cymreig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/ysbryd-morgan-adferiad-y-meddwl-cymreig\/","title":{"rendered":"Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/?p=115168\"><img loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/www.gwasgprifysgolcymru.org\/app\/uploads\/\/2-ysbryd-glas-3.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-128957\" width=\"191\" height=\"292\" srcset=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/2-ysbryd-glas-3.jpg 507w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/2-ysbryd-glas-3-196x300.jpg 196w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/2-ysbryd-glas-3-225x345.jpg 225w\" sizes=\"(max-width: 191px) 100vw, 191px\" \/><\/a><figcaption> <em><strong><a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/?p=115168\">Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig<\/a><\/strong><\/em><strong>&nbsp;gan <\/strong><br><strong>Huw L. Williams<\/strong>. <\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p><strong>Huw L. Williams yn cyflwyno ei lyfr newydd <em><a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/?p=115168\">Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig<\/a><\/em><\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<p>Man cychwyn y llyfr hwn oedd cyfweliad ar gyfer swydd darlithydd Athroniaeth gyda\u2019r Coleg Cymraeg, dros wyth mlynedd yn \u00f4l. Gwyddwn ddigon bryd hynny i sylweddoli y byddai yna bosibiliadau difyr wrth ymgymryd ag athroniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal a gwneud hynny o&nbsp;safbwynt trwyadl Cymreig. Yn wir, fel rhan o\u2019m cyfweliad, bu trafod ar fodiwl posib a fyddai\u2019n edrych ar unigolion o bwys yng nghyd-destun hanes Cymru, ac i wneud hynny o safbwynt syniadaeth.&nbsp; Dyma a fyddai\u2019n sylfaen maes o law ar gyfer fy llyfr cyntaf gyda\u2019r wasg, sef <a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/?p=98548\"><em>Credoau\u2019r Cymry<\/em><\/a>.&nbsp; Trwy\u2019r broses o addysgu\u2019r modiwl, ac yna ysgrifennu\u2019r llyfr, mi ddes i sylweddoli arwyddoc\u00e2d a phosibiliadau ehangach yr orchwyl.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Awgrymodd<em> <a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/?p=98548\">Credoau\u2019r Cymry<\/a><\/em>&nbsp;amlinelliad o hanes deallusol cydlynnol, a dyna\u2019r wyf yn ei ddatblygu yn y llyfr newydd \u2013 o\u2019r oes cyn-Rufeinig a oedd yn gefnlen i oes Pelagus (un o\u2019r ddau \u2018Morgan\u2019 yn yr hanes) hyd at heddiw. Wrth fynd ati i ysgrifennu, sylweddolais na fu hanes deallusol o\u2019r fath erioed yn rhan sylweddol o\u2019r traddodiad Cymreig mewn ffordd drwyadl ac hunan-ymwybodol, er gwaethaf ein hunan-ymwybyddiaeth fel cenedl ar wah\u00e2n, gyda phrif-ffrwd diwylliannol radical a blaengar.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn agor hyn cil y drws ar gwestiynau dyrys ac anodd sydd, o anghenraid, yn amlygu agweddau ar ein gwendidau hanesyddol. Symptom yw hyn, yn fy marn i, nid yn unig o ddiffyg statws i ffurfiau Cymreig o feddylu ac athronyddu (y byddai rhai\u2019n\ncwestiynnu a ydynt yn gymwys ar gyfer athroniaeth), ond hefyd o\u2019r diffyg ehangach o gadarnle ym myd addysg uwch i astudio\u2019r byd yn ei amryw ffurfiau o safbwynt Cymreig a Chymraeg. Gwn fod cyfeirio at gyflwr \u00f4l-drefedigaethol Cymru yn creu tipyn o anniddigrwydd ymhlith rhai ond, ar wastadedd deallusol, anodd ydyw imi beidio \u00e2 bwrw golwg ar gyflwr ein prifysgolion a theimlo fod yno un lens sy\u2019n un addas i\u2019w defnyddio.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>A dyma gysylltu gyda\u2019r them\u00e2u nad oeddent gymaint ar flaen fy meddyliau wrth ymhel \u00e2\u2019r ymchwil yn y cyfnod cynnar \u2013 ond sydd erbyn hyn yn anhepgorol o ran argyfwng cyfalafiaeth ddiweddar\na <em>Covid<\/em>. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r ap\u00eal i adfer y meddwl Cymreig yn alwad i gydnabod datgymalu cynyddol ein cymunedau, ein hiaith a\u2019n ffordd o fyw, ac i ddwysystyried y ffordd ymlaen yng ngoleuni\u2019r tuedd hwnnw.&nbsp;Heb annibyniaeth barn, heb yr ewyllys i brofi ein personoliaeth hanesyddol, diwylliannol a ieithyddol unigryw, ac heb sylweddoliad fod angen troi cefn ar gyfalafiaeth i wireddu Cymru ystyrlon, yna bydd hi\u2019n amhosib gwarchod ein hetifeddiaeth a\u2019n hysbryd yn wyneb yr heriau lu nad oes modd gochel rhagddynt bellach.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><em>Mae Huw L. Williams yn ddarlithydd uwch mewn Athroniaeth, ac yn ddarlithydd cysylltiol gyda&#8217;r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei ddiddordebau pennaf yw athroniaeth gwleidyddol a hanes meddwl gwleidyddol, ac mae\u2019n cyfrannu&#8217;n gyson i drafodaethau cyhoeddus gan gynnwys y golofn \u2018Socrates ar y Stryd\u2019 i\u2019r cylchgrawn O&#8217;r Pedwar Gwynt. Ef yw Deon y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. <\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Huw L. Williams yn cyflwyno ei lyfr newydd Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig. Man cychwyn y llyfr hwn oedd cyfweliad ar gyfer swydd darlithydd Athroniaeth gyda\u2019r Coleg Cymraeg, dros wyth mlynedd yn \u00f4l. Gwyddwn ddigon bryd hynny i sylweddoli y byddai yna bosibiliadau difyr wrth ymgymryd ag athroniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/ysbryd-morgan-adferiad-y-meddwl-cymreig\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":128965,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[370],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/127473"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=127473"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/127473\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/128965"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=127473"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=127473"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=127473"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}