{"id":118353,"date":"2020-09-18T10:38:08","date_gmt":"2020-09-18T09:38:08","guid":{"rendered":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=118353"},"modified":"2020-09-18T13:21:38","modified_gmt":"2020-09-18T12:21:38","slug":"cyfrin-cewri-hanes-mawrion-ein-mathemateg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cyfrin-cewri-hanes-mawrion-ein-mathemateg\/","title":{"rendered":"Cyfri\u2019n Cewri: Hanes Mawrion ein Mathemateg"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=110198\"><img loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/www.gwasgprifysgolcymru.org\/app\/uploads\/\/9781786835956-667x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-118354\" width=\"217\" height=\"332\" srcset=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/9781786835956-667x1024.jpg 667w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/9781786835956-768x1179.jpg 768w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/9781786835956-1000x1536.jpg 1000w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/9781786835956-1334x2048.jpg 1334w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/9781786835956-156x240.jpg 156w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/9781786835956-225x345.jpg 225w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/9781786835956.jpg 1512w\" sizes=\"(max-width: 217px) 100vw, 217px\" \/><\/a><figcaption> <strong><em><a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/?p=110198\">Cyfri\u2019n Cewri: Hanes Mawrion ein Mathemateg<\/a><\/em><\/strong>, <strong>gan <\/strong> <strong>Gareth Ffowc Roberts<\/strong> <\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p><strong>Gareth Ffowc Roberts yn cyflwyno ei lyfr newydd <em>Cyfri\u2019n Cewri: Hanes Mawrion ein Mathemateg<\/em>.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Sut mae diffinio ein diwylliant fel Cymry? Ai fel gwlad y g\u00e2n yn unig? Un o amcanion y gyfrol hon yw ehangu ein diffiniad i gwmpasu\u2019r gwyddorau yn gyffredinol, a mathemateg yn benodol. Sawl canwr Cymraeg neu Gymreig fedrwch chi eu henwi? Sawl mathemategydd Cymraeg neu Gymreig fedrwch chi eu henwi? Os ydym o ddifrif yn ein hawydd i gynnwys y gwyddorau dan ymbar\u00e9l ein Cymreictod, rhaid dod i adnabod y rhai sydd, dros yr oesoedd, wedi gwneud eu marc yn y meysydd hynny. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n debyg mai\u2019r\nmathemategydd enwocaf ohonynt i gyd oedd Robert Recorde (1512?\u20131558) o\nDdinbych-y-pysgod, un a oedd \u00e2\u2019i fryd ar gyflwyno syniadau mathemategol mewn\nrhifyddeg, geometreg ac algebra i bobl gyffredin, yr \u2018vnlearned sorte\u2019 yn ei\neiriau ei hun, y rhai nad oeddynt wedi cael eu trwytho yn y Clasuron. Aeth ati\ni ysgrifennu\u2019r llyfrau cyntaf erioed yn Saesneg ar gyfer y werin bobl hyn, ac i\ngychwyn proses o ddemocrateiddio dysg. Mae Recorde hefyd yn enwog am gyflwyno\u2019r\nhafalnod \u2018=\u2019 i\u2019r byd, ond roedd ei gyfraniad llawnach yn anhraethol fwy na\nhynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd Recorde hefyd\n\u00e2\u2019i fryd ar gynorthwyo dysgwyr i ddeall syniadau mathemategol, nid dim ond eu\nderbyn yn ddifeddwl a\u2019u hailadrodd yn ddiddeall. Ef oedd yr \u2018athro mathemateg\u2019\ncyntaf ym Mhrydain. Roedd dylanwad gwaith Recorde yn gryf ar fy llyfr <em>Mae Pawb yn Cyfrif<\/em> (Llandysul, 2012) ac\nroedd yn naturiol imi geisio dilyn hynny gyda llyfr arall sy\u2019n cadw at yr un\nnod o fod o fewn cyrraedd rhai nad ydynt yn cynhesu\u2019n naturiol at fathemateg,\nam ba reswm bynnag. Gwneir hynny wrth roi cip ar fywyd a gwaith detholiad o\nfathemategwyr cig a gwaed \u2013 rhai wedi\u2019u geni yng Nghymru, a rhai \u00e2\nchysylltiadau cryf \u00e2 Chymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyd-ddigwyddiad\nhapus yw bod y llyfr yn gyfraniad at gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno\ncwricwlwm newydd, a bod canllawiau\u2019r llywodraeth yn pwysleisio bod gan Gymru\nhanes balch o gynhyrchu mathemategwyr nodedig, ac yn annog ysgolion i fanteisio\nar bob cyfle i dynnu sylw at eu llwyddiannau.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Mae Gareth Ffowc Roberts yn Athro Emeritws mewn Addysg ym Mhrifysgol Bangor. Mae\u2019n ddiflino yn ei frwdfrydedd dros gynnwys mathemateg fel rhan naturiol o\u2019n diwylliant fel Cymry<\/em>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gareth Ffowc Roberts yn cyflwyno ei lyfr newydd Cyfri\u2019n Cewri: Hanes Mawrion ein Mathemateg. Sut mae diffinio ein diwylliant fel Cymry? Ai fel gwlad y g\u00e2n yn unig? Un o amcanion y gyfrol hon yw ehangu ein diffiniad i gwmpasu\u2019r gwyddorau yn gyffredinol, a mathemateg yn benodol. Sawl canwr Cymraeg neu Gymreig fedrwch chi eu<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/cyfrin-cewri-hanes-mawrion-ein-mathemateg\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":118356,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[2],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/118353"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=118353"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/118353\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/118356"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=118353"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=118353"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=118353"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}