{"id":29811,"date":"2017-03-07T23:19:25","date_gmt":"2017-03-07T23:19:25","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/academics\/"},"modified":"2017-05-12T12:20:44","modified_gmt":"2017-05-12T11:20:44","slug":"academyddion","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/academyddion\/","title":{"rendered":"Academyddion"},"content":{"rendered":"<p>Mae GPC o\u2019r farn fod cyhoeddi a lledaenu gwaith ymchwil ysgolheigaidd o\u2019r ansawdd uchaf yn allweddol i\u2019w gylch gwaith. Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn clywed cynigion gan y gymuned academaidd ar gyfer llyfrau, cyfnodolion a chyfresi newydd.<\/p>\n<p>Cysylltwch \u00e2 ni drwy <a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/contact\/\">e-bost<\/a> neu dros y <a href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/contact\/\">ff\u00f4n<\/a> i gael trafodaeth gychwynnol cyn cyflwyno eich cynnig &#8211; byddwn yn falch o glywed gennych.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Gwybodaeth Breindaliadau<\/h2>\n<p><a href=\"http:\/\/uwp.celfapps.com\/docs\/halo-asset-manager\/files\/CanllawiauBreindaliadau.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Cliciwch yma os gwelwch yn dda i ddarllen ein Llythyr a Chanllawiau Breindaliadau<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Gostyngiad i awduron a thaliad adolygwyr<\/h2>\n<p>Nodwch nad yw\u2019r gostyngiad i awduron ar bris llyfrau GPC yn ddilys ar gyfer llyfrau GPC a ddewisir fel taliad gan adolygwyr cais a theipysgrif.<\/p>\n<p>Beth mae ein hawduron yn dweud amdanom ni:<\/p>\n<p>&#8220;Cant a mil o ddiolch ichi\u2019n bersonol ac i\u2019r t\u00eem\u00a0cynhyrchu (a marchnata) cyfan. Newyddion cyffrous, ac fe rydw i wrth fy modd.&#8221;<\/p>\n<p><em>&#8211; <\/em>Athro M Wynn Thomas, awdur <a href=\"http:\/\/uwp.celfapps.com\/editions\/9780708326138\"><em>R. S. Thomas: Serial Obsessive<\/em><\/a><\/p>\n<p>&#8220;Llongyfarchiadau ar y gwaith campus y mae\u2019r Wasg wedi\u2019i wneud yn cyhoeddi\u2019r gyfrol <em>Parents, Personalities and Power<\/em>.\u00a0 Mae\u2019n gyfrol hardd.\u00a0 Y gobaith yw y bydd pobl yn ei phrynu, a\u2019i darllen, a\u2019i defnyddio yn gall er mwyn Cymru.\u201d<\/p>\n<p>\u2013 Huw S. Thomas, golygydd <a href=\"http:\/\/uwp.celfapps.com\/editions\/9780708325841\"><em>Parents, Personalities and Power<\/em><\/a><\/p>\n<p>Mynediad Agored<\/p>\n<p>Mae GPC yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym maes Mynediad Agored, ac yn cadw llygad agos ar ymgynghoriad diweddar Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr ar fonograffau, a gorchmynion Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK) ar gyfer cyfnodolion.<\/p>\n<p>Byddwn yn cyhoeddi manylion polisi GPC ar Fynediad Agored yn fuan ond, yn y cyfamser, dylai golygyddion cyfnodolion fod yn ymwybodol o benderfyniad RCUK i\u2019w gwneud yn ofynnol i gyhoeddi ar sail Mynediad Agored unrhyw erthyglau cyfnodolion sydd wedi\u2019u seilio\u2019n gyfan gwbl neu\u2019n rhannol ar waith ymchwil a ariannwyd gan RCUK. Gofynnir felly i olygyddion cyfnodolion sicrhau bod ymchwilwyr sy\u2019n cyflwyno erthyglau i\u2019w derbyn yn datgan yn eglur pa un a ariannwyd eu herthyglau gan RCUK ac yn hysbysu GPC; ar \u00f4l eu derbyn i\u2019w cyhoeddi yn y cyfnodolyn, ac ar \u00f4l cyflwyno\u2019r llawysgrif i GPC, dylai golygyddion cyfnodolion nodi\u2019n eglur ar y tabl cynnwys pa erthyglau, os oes rhai, y mae\u2019n ofynnol eu cyhoeddi ar sail Mynediad Agored.<\/p>\n<p><strong>Mynediad Agored ac Erthyglau Cyfnodolion yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ar \u00f4l 2014<\/strong><\/p>\n<p>Dylai golygyddion a chyfranwyr fod yn ymwybodol o anghenion Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (CCAULl) yngl\u0177n \u00e2 Mynediad Agored ar gyfer erthyglau mewn cyfnodolion a dderbynnir ar gyfer cyhoeddi ar \u00f4l 1 Ebrill 2016, a amlinellwyd yn nogfen polisi CCAULl Mawrth 2014 (cyf: 2014\/07):<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.hefce.ac.uk\/pubs\/year\/2014\/201407\/name,86771,en.html\">http:\/\/www.hefce.ac.uk\/pubs\/year\/2014\/201407\/name,86771,en.html<\/a><\/p>\n<p>Nodwch mai testun terfynol yr awdur wedi\u2019i adolygu gan arbenigwr ddylai fod y fersiwn ar gyfer adnau.<\/p>\n<p>Cynhwysir deunydd trydydd parti yn yr erthygl a adneuir ar risg yr awdur\/sefydliad ei hun. Dylai awduron barhau i sicrhau\u2019r hawliau i ddefnyddio deunydd trydydd parti mewn print ac ar ffurf electronig yn y ffordd arferol ar gyfer pwrpasau fersiwn cyhoeddedig Gwasg Prifysgol Cymru (GPC).<\/p>\n<p>Polisi GPC yw gofyn am gyfnod embargo o 18 mis ar gyfer Mynediad Agored Gwyrdd, yn cychwyn o\u2019r dydd olaf ym mis y cyhoeddiad o\u2019r fersiwn print.<\/p>\n<p>Mae GPC hefyd yn croesawu erthyglau ar gyfer Mynediad Agored Aur: os oes angen hynny arnoch, cysylltwch ag Adran Gomisiynu GPC er mwyn trafod Ffi Prosesu Erthygl (\u2018Article Processing Charge\u2019, neu APC) ar gyfer eich erthygl.<\/p>\n<p>Mae anghenion Mynediad Agored gan Gynghorau Ymchwil DU (CYDU) hefyd ar gyfer erthyglau sy\u2019n cydnabod cyllid RCUK; am fwy o fanylion, gweler <a href=\"http:\/\/www.rcuk.ac.uk\/research\/outputs\/\">http:\/\/www.rcuk.ac.uk\/research\/outputs\/<\/a><\/p>\n<p>Nodwch y bydd cyfnodolion GPC yn parhau i dderbyn a chyhoeddi erthyglau gan awduron nad oes ganddynt anghenion ar gyfer yr Ymarferiad Asesu Ymchwil (RAE)\u00a0o dan y trefniadau sy\u2019n bodoli ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Dylid anfon unrhyw gwestiynau at yr Adran Gomisiynu.<\/p>\n<p><strong>Mynediad Agored a Monograffau<\/strong><\/p>\n<p>Mae monograffau, casgliadau wedi\u2019u golygu a chyhoeddiadau ffurf hir eraill yn rhan bwysig iawn o\u2019r byd cyhoeddi academaidd, ac maen nhw\u2019n arbennig o bwysig i ysgolheigion yn y dyniaethau a\u2019r gwyddorau cymdeithasol. Ond dywed llawer o bobl wrthym fod cyhoeddi monograffau yn wynebu anawsterau \u2013 mae gwerthiant yn disgyn, costau yn codi, ac mae\u2019n gynyddol anodd i ysgolheigion ganfod ffordd i gyhoeddi eu gwaith.<\/p>\n<p>Wrth gynllunio ffordd ymlaen ar gyfer mynediad agored a\u2019r REF nesaf, rydym wedi derbyn cyngor clir iawn nad yw\u2019r byd cyhoeddi monograffau yn barod i gefnogi anghenion mynediad agored. Mewn ymateb i\u2019r cyngor hwn, rydym yn cynnig na fydd cyhoeddi mewn ffurf mynediad agored yn angenrheidiol er mwyn i fonograffau gael eu hystyried yn y REF nesaf.<\/p>\n<p>Ond rydym yn awyddus i ddeall y problemau\u2019n well ac i gefnogi ymdrechion i\u2019w datrys lle bynnag mae\u2019n bosib. Rydym yn optimistaidd yngl\u0177n \u00e2\u2019r potensial ar gyfer cyhoeddi mynediad agored i helpu cynnal cyfathrebu ysgolheigaidd yn y dyniaethau a\u2019r gwyddorau cymdeithasol, ac yn hyderus y bydd cyhoeddi monograffau mynediad agored yn parhau i dyfu o fewn y blynyddoedd nesaf.<\/p>\n<p>Rydym yn cadw llygad barcud ar ganlyniad ymgynghoriad hydref 2013 ar Fynediad Agored o ran <strong>papurau cynhadledd<\/strong> ar gyfer y REF nesaf, a byddwn yn diweddaru\u2019r adran hon mor gynted ag y byddwn yn clywed y newyddion.<br \/>\nMae fersiynau PDF o dri o&#8217;n llyfrau ar gael am ddim mewn mynediad agored drwy&#8217;r llwyfan Llyfrgell OAPEN, <a href=\"http:\/\/www.oapen.org\">www.oapen.org<\/a>. Cliciwch yma i lawrlwytho:<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.oapen.org\/search?identifier=393070;keyword=ffuglen\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">FfugLen : Y Ddelwedd o&#8217;r Nofel Gymraeg o Ddechrau&#8217;r Chwedegau tan 1990<\/a><br \/>\n<a href=\"http:\/\/www.oapen.org\/search?identifier=393075;keyword=los%20invisibles\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Los Invisibles A History of Male Homosexuality in Spain, 1850-1940<\/a><br \/>\n<a href=\"http:\/\/www.oapen.org\/search?identifier=393076;keyword=ancrene\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Ancrene Wisse : From Pastoral Literature to Vernacular Spirituality<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae GPC o\u2019r farn fod cyhoeddi a lledaenu gwaith ymchwil ysgolheigaidd o\u2019r ansawdd uchaf yn allweddol i\u2019w gylch gwaith. Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn clywed cynigion gan y gymuned academaidd ar gyfer llyfrau, cyfnodolion a chyfresi newydd. Cysylltwch \u00e2 ni drwy e-bost neu dros y ff\u00f4n i gael trafodaeth gychwynnol cyn cyflwyno eich cynnig<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/academyddion\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/29811"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=29811"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/29811\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=29811"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}