{"id":29799,"date":"2017-03-07T23:01:43","date_gmt":"2017-03-07T23:01:43","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/language-policy\/"},"modified":"2017-03-24T14:52:18","modified_gmt":"2017-03-24T14:52:18","slug":"polisi-iaith","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/polisi-iaith\/","title":{"rendered":"Polisi Iaith"},"content":{"rendered":"<h1>Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Cymru<\/h1>\n<p>Cymeradwywyd Cynllun Iaith Gymraeg diwygiedig Prifysgol Cymru gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 27 Gorffennaf 2005. Y mae\u2019r ddogfen hon yn cynnwys manylion ar y camau hynny y mae\u2019r Brifysgol wedi ymroi i\u2019w cymryd i weithredu\u2019r anghenion a osodir yn Neddf yr Iaith Gymraeg megis \u201ccyn belled ag y bo\u2019n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, yr egwyddor y dylid trin y Gymraeg a\u2019r Saesneg ar sail cydraddoldeb wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru\u201d.<\/p>\n<p>Os hoffech dderbyn copi o\u2019r Cynllun cysylltwch \u00e2 <a href=\"http:\/\/www.wales.ac.uk\/mailcontacts\/i-g++cymru+ac+uk\">Swyddfa\u2019r Is-Ganghellor<\/a>| yng Nghofrestrfa\u2019r Brifysgol os gwelwch yn dda.<\/p>\n<h2>Datganiad<\/h2>\n<p>Mae Prifysgol Cymru wedi mabwysiadu\u2019r egwyddor y bydd, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a\u2019r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae\u2019r cynllun hwn yn nodi sut y bydd y Brifysgol yn rhoi\u2019r egwyddor honno ar waith wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Brifysgol yn cymeradwyo\u2019n gynnes ac yn cefnogi\u2019r egwyddorion sydd wedi eu hymgorffori yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac mae wedi ymrwymo i\u2019r datganiad canlynol o bolisi dwyieithrwydd:<br \/>\n1. Mae Prifysgol Cymru wedi ymrwymo i anghenion diwylliannol Cymru (yn ogystal \u00e2\u2019i hanghenion addysgol ac economaidd). Fel y cyfryw, ac fel un o sefydliadau cenedlaethol blaenllaw Cymru, mae\u2019r Brifysgol yn derbyn bod ganddi gyfrifoldeb arbennig dros feithrin a hybu\u2019r Gymraeg.<\/p>\n<p>2. Mae i\u2019r Gymraeg a\u2019r Saesneg statws cyfartal fel ieithoedd swyddogol y Brifysgol. Mae unrhyw weithred, ysgrifen neu unrhyw beth a wneir yn swyddogol gan yr awdurdod priodol yn enw ac ar ran y Brifysgol yn ddilys ac yn effeithiol p\u2019un ai yn y Gymraeg neu\u2019r Saesneg y\u2019i mynegir.<\/p>\n<p>3. Os rhoir peth blaenoriaeth i un iaith mewn materion ffurfiol, ni ddylai hynny arwyddoc\u00e1u unrhyw awgrym o sarhad i\u2019r iaith arall. Mae\u2019r Brifysgol yn cydnabod y gall rhoi\u2019r fath flaenoriaeth i\u2019r Gymraeg ar adegau gynnal a chynorthwyo\u2019r iaith mewn dulliau nad oes eu hangen ar yr iaith Saesneg.<\/p>\n<p>4. O fewn y polisi cyffredinol hwn, mae\u2019r Brifysgol yn ceisio: sicrhau cyfathrebu effeithiol ymhlith ei haelodau ei hun a rhyngddynt hwy a\u2019u cysylltiadau y tu allan i\u2019r Brifysgol; creu\u2019r amodau lle gall holl aelodau\u2019r Brifysgol a\u2019u cysylltiadau allanol deimlo\u2019n gartrefol yn eu dewis iaith; a hybu dysgu a defnyddio\u2019r Gymraeg yn y Brifysgol a thrwy Gymru gyfan.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Brifysgol hefyd wedi ymrwymo i\u2019r amcanion bras a ganlyn ar gyfer y polisi a\u2019r ddarpariaeth yngl\u0177n \u00e2 gweinyddiaeth ddwyieithog yn y Brifysgol:<\/p>\n<ul>\n<li>fel prifysgol genedlaethol Cymru, bydd gan Brifysgol Cymru ran flaenllaw yn y gwaith o hybu a datblygu\u2019r Gymraeg yng Nghymru \u2013 bydd hefyd yn rhoi arweiniad i eraill;<\/li>\n<li>bydd yn anelu at gynnig gwasanaeth gweinyddol cwbl ddwyieithog i fyfyrwyr, staff a\u2019r cyhoedd; a<\/li>\n<li>bydd yn ceisio symud cam wrth gam tuag at y sefyllfa honno drwy bennu iddi ei hun dargedau realistig y gellir eu cyrraedd mewn cyfnod rhesymol o amser.<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Cymru Cymeradwywyd Cynllun Iaith Gymraeg diwygiedig Prifysgol Cymru gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 27 Gorffennaf 2005. Y mae\u2019r ddogfen hon yn cynnwys manylion ar y camau hynny y mae\u2019r Brifysgol wedi ymroi i\u2019w cymryd i weithredu\u2019r anghenion a osodir yn Neddf yr Iaith Gymraeg megis \u201ccyn belled ag y bo\u2019n<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/polisi-iaith\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/29799"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=29799"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/29799\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=29799"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}