{"id":29694,"date":"2017-03-01T09:58:36","date_gmt":"2017-03-01T09:58:36","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/our-staff\/"},"modified":"2024-06-26T11:35:37","modified_gmt":"2024-06-26T10:35:37","slug":"aelodaur-tim","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/amdanom-ni\/aelodaur-tim\/","title":{"rendered":"Aelodau&#8217;r T\u00eem"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" class=\"alignnone size-full wp-image-3701\" src=\"http:\/\/staging.celfserver.co.uk\/UWP\/wp-content\/uploads\/IIP-Website-logo.jpg\" alt=\"\" width=\"100%\" height=\"auto\" srcset=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/IIP-Website-logo.jpg 973w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/IIP-Website-logo-300x51.jpg 300w, https:\/\/uwp.celfapps.com\/app\/uploads\/IIP-Website-logo-768x129.jpg 768w\" sizes=\"(max-width: 973px) 100vw, 973px\" \/><\/p>\n<p><strong>NATALIE WILLIAMS<\/strong> (Cyfarwyddwraig)<\/p>\n<p>Daw Natalie \u00e2 dealltwriaeth eang o\u2019r byd cyhoeddi i\u2019w r\u00f4l fel Cyfarwyddwraig y Wasg. Graddiodd ag Anrhydedd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Southampton, a dechreuodd ei gyrfa gyhoeddi ym maes Cyfraith academaidd yng Ngwasg Prifysgol Rhydychen. Yna symudodd i Nelson Thornes, lle bu\u2019n Uwch Gyhoeddwr yn gyfrifol am y portffolio Mathemateg uwchradd a strategaeth gyhoeddi\u2019r DU.<\/p>\n<p>Cyn ymuno \u00e2 GPC yn Ebrill 2017, bu Natalie\u2019n rhedeg ei busnes ymgynghori ei hun, gan weithio i gyhoeddwyr gan gynnwys Gwasg Prifysgol Rhydychen, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, Hodder Education, Pearson Education a HarperCollins, yn ogystal ag ymgymryd \u00e2 Gradd Meistr Gweithredol mewn Gweinyddiaeth Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd, ac enillodd gyda Rhagoriaeth yn haf 2017. Mae Natalie yn darparu arweiniad cryf a strategaeth glir i\u2019w th\u00eem talentog, gan dynnu o\u2019i 15+ mlynedd yn y diwydiant a\u2019i brwdfrydedd am bopeth creadigol, i geisio am gyfleoedd newydd i\u2019r Wasg.<\/p>\n<p><strong>SARAH LEWIS<\/strong> (Pennaeth Comisiynu)<\/p>\n<p>Mae talent Sarah fel y ddolen rhwng cynnig dechreuol a\u2019r llyfr cyhoeddedig yn amlwg yn ei chyfathrebu clir a\u2019i sgiliau negodi craff gydag awduron, asiantau neu aelodau\u2019r uwch d\u00eem. Gyda\u2019i huchelgais gadarn i wneud y gorau posib dros yr awdur a\u2019r llyfr, mae Sarah yn parhau i ehangu safle arbenigol y Wasg.<\/p>\n<p>Ymunodd Sarah \u00e2 GPC yn 2003 fel Golygydd Comisiynu cyn iddi gael ei phenodi\u2019n Bennaeth Comisiynu yn 2010. Mae ei blynyddoedd yn y byd cyfreithiol fel cyfreithiwr cymwys, a\u2019i 15 mlynedd mewn golygu academaidd wedi rhoi sgiliau manylrwydd a negodi cytundeb i Sarah. Yn ogystal, caiff ei safbwynt personol fel awdur ei adlewyrchu yn ei chyfraniadau ysgrifenedig i <em>Time Out<\/em>, <em>Rough Guides<\/em> a chyhoeddiadau teithio eraill; cefndir i\u2019w chariad parhaus tuag at deithio a diwylliant y byd yn ei holl ffurfiau.<\/p>\n<p><strong>VICKI ALEXANDER <\/strong>(Rhelowraig Cyllid a Busnes)<\/p>\n<p>Mae gan Vicki dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn cyllid. Mae ganddi gymhwyster o gorff proffesiynol cyfrifwyr ym Mhrydain (AAT) ac mae\u2019n astudio\u2019n rhan amser ar hyn o bryd ar gyfer cymhwyster ACCA a gradd BSc mewn Cyfrifeg Gymhwysol trwy Brifysgol Brookes Rhydychen. Mae ganddi sgiliau rheoli a dadansoddi ariannol da, ac mae\u2019n cefnogi cydweithwyr trwy ddatblygu systemau cyllid effeithiol a thrwy fagu dealltwriaeth ddyfnach o gyllid ym mhob agwedd o\u2019r busnes.<\/p>\n<p>Mae Vicki wedi gweithio\u2019n flaenorol o fewn elusennau a sefydliadau trydydd sector, yn ogystal \u00e2 diwydiannau masnachol. Mae ganddi gyfoeth o wybodaeth am gyfrifeg o fewn ystod eang o sectorau, ynghyd \u00e2 llygad dda am fanylion a chywirdeb.<\/p>\n<p><strong>MARIA VASSILOPOULOS\u00a0<\/strong>(Rheolwraig Gwerthiant Rhyngwladol)<\/p>\n<p>Maria Vassilopoulos yw Rheolwraig Gwerthiant Byd-eang y Wasg a phennaeth yr adran Werthiant a Marchnata, sy\u2019n sicrhau bod llyfrau GPC i\u2019w gweld a\u2019u darllen ledled Cymru, gweddill y DU a\u2019r byd. Mae Maria yn rheoli ein cynrychiolwyr gwerthiant a chwsmeriaid, boed yn gyflenwyr eLyfrau neu siopau llyfrau annibynnol, ac yn canolbwyntio ar feithrin perthnasau masnachol llwyddiannus ar gyfer ein holl gyhoeddiadau.<\/p>\n<p>Cyn ymuno \u00e2 GPC yn Hydref 2021, bu Maria yn rheoli gwerthiant a marchnata\u2019r cwmni cyhoeddi British Library Publishing a chyn hynny gweithiodd i gylchgrawn The Bookseller, Abrams &amp; Chronicle Books a bu am gyfnod o wyth mlynedd yn gwerthu llyfrau yn Waterstones Caerfaddon a Llundain. Mae Maria yn hanesydd masnach lyfrau ac yn ysgrifennu PhD yn UCL ar hanes gwerthu llyfrau. Hithau hefyd yw archifydd The Book Society ac mae\u2019n ysgrifennu llyfr i nodi eu canmlwyddiant.<\/p>\n<p><strong>STEVEN G. GOUNDREY\u00a0<\/strong>(Rheolwr Cynhyrchu)<\/p>\n<p>Mae Steve yn goruchwylio prosesau cynhyrchu a golygyddol holl lyfrau a chyfnodolion GPC, gan reoli pob cam o daith cyhoeddiad o\u2019r dechau pan gaiff llawysgrif terfynol ei gyflwyno hyd at y dosbarthiad print ac eLyfrau gyda\u2019n dosbarthwyr.<\/p>\n<p>Dechreuodd Steve ei yrfa ym myd cyhoeddi gyda GPC yn \u00f4l yn 2005, cyn ymuno \u00e2\u2019r adran Gynhyrchu a Golygyddol fel Cynorthwyydd Cynhyrchu a mwyhau 11 mlynedd fel aelod t\u00eem. Daeth i oruchwylio portffolio o gyhoeddiadau newydd gan ennill cyfoeth o brofiad mewn cynhyrchu, dylunio, argraffu a nifer o agweddau eraill o gyhoeddi academaidd. Cyn dychwelyd at GPC yng ngwanwyn 2021, roedd Steve yn aelod o athrofa ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, lle gweithiodd fel rheolwr prosiect am 5 mlynedd. Fel rheolwr prosiect a chynhyrchu llawrydd, gweithiodd gyda chyhoeddwyr niferus gan gynnwys Sage, Bloomsbury, Emerald ac Edward Elgar ac mae ganddo wybodaeth a dealltwriaeth eang o gyhoeddi academaidd yn y Gymraeg a\u2019r Saesneg.<\/p>\n<p><strong>DAFYDD JONES<\/strong> (Golygydd y Wasg)<\/p>\n<p>Hanes celf a theori feirniadol modern a chyfoes yw cefndir a maes ymchwil barhaus Dafydd; fel darlithydd mewn celfyddyd gain (1995\u20132012), bu\u2019n ymchwilydd preswyl yn Archif Ryngwladol Dada ym Mhrifysgol Iowa, gan gyfrannu at ymyrraeth feirniadol wrth ddogfennu\u2019r avant-garde hanesyddol \u2013 yn amlwg felly gyda Phrosiect Avant-Garde prifysgolion Caeredin a Glasgow (2000\u20137) a\u2019r gyfres arloesol \u2018Crisis and the Arts: The History of Dada\u2019 (1996\u20132005). Ef oedd golygydd y gyfrol <em>Dada Culture<\/em> (2006), ac awdur y monograffau ymchwil <em>Dada 1916 in Theory: Practices of Critical Resistance<\/em> (2014) a <em>The Fictions of Arthur Cravan: Poetry, Boxing and Revolution<\/em> (2018). Fel Golygydd Gwasg Prifysgol Cymru, bydd Dafydd yn arolygu holl weithgaredd golygyddol a chysondeb ansawdd allbwn testunol GPC, yn gweithio rhwng adrannau\u2019r wasg ac yn agos ag awduron wrth i\u2019w cyfrolau symud ar hyd y drefn broflennu a chynhyrchu, hyn oll er sicrhau cyhoeddiadau o safon yn gymwys \u00e2\u2019u hawduraeth.<\/p>\n<p><b>LLION WIGLEY<\/b> (Uwch Olygydd Comisiynu, Cymraeg a Phynciau Cymreig)<\/p>\n<p>Yn ei waith, mae Llion yn blaenoriaethu\u2019r cydweithio hanfodol hynny gydag awduron wrth ddatblygu cyhoeddiadau\u2019n ymwneud \u00e2 Chymru (yn y Gymraeg a\u2019r Saesneg). Mae ei wybodaeth academaidd o hanes a diwylliant Cymru yn fantais amlwg wrth fagu\u2019r berthynas briodol ag awduron ac wrth adnabod potensial syniadau i\u2019w datblygu ar gyfer cyhoeddi gyda Gwasg Prifysgol Cymru.<\/p>\n<p>Ymunodd Llion \u00e2\u2019r Wasg yn 2013 wedi degawd o brofiad yn y sector gyhoeddus yn gweithio i Mencap Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, lle datblygodd wybodaeth fanwl o anghenion arwyddo gwybodaeth ar draws ystod helaeth o ddefnyddwyr. Ynghyd \u00e2\u2019r gwaith pwysig yma, enillodd Llion radd doethur o Brifysgol Aberystwyth am ei draethawd hir ar Gymru a diwylliant iaith Gymraeg yn y 1960au.<\/p>\n<p><strong>ELIN WILLIAMS<\/strong> (Rheolwraig Marchnata a Digwyddiadau)<\/p>\n<p>Graddiodd Elin o Brifysgol Caerdydd yn 2015 gyda gradd MA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, cyn ymuno \u00e2\u2019r Wasg yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Fel Rheolwraig Marchnata a Digwyddiadau, Elin sydd yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu strategaeth farchnata\u2019r Wasg gan sicrhau bod pob cyhoeddiad yn cael ei hyrwyddo\u2019n effeithiol. I gyflawni hyn, mae mewn cyswllt cyson gydag awduron, ynghyd \u00e2 chysylltiadau allanol yn y cyfryngau a chydweithwyr yng Ngwasg Prifysgol Chicago. O ddydd i ddydd, gweithia\u2019n agos gyda holl adrannau\u2019r Wasg, a\u2019r adran Gomisiynu yn benodol wrth gynorthwyo i lunio rhaglen gyhoeddi Cymraeg ac astudiaethau Cymreig GPC. Hithau hefyd sydd yn rheoli&#8217;r rhaglen ddigwyddiadau, gan drefnu lansiadau a phresenoldeb awduron mewn gwyliau llenyddol yng Nghymru a thu hwnt.<\/p>\n<p><strong>CHRIS RICHARDS<\/strong> (Golygydd Cynorthwyol Cyfnodolion a Chomisiynu)<\/p>\n<p>Mae Chris yn cefnogi\u2019r adrannau Comisiynu a Golygyddol trwy\u2019r gwahanol gamau yn y broses gomisiynu, ac mae\u2019n gyswllt allweddol ar gyfer awduron newydd. Mae\u2019n delio gydag amserlennu a pharatoi cyfnodolion, gan weithio gyda golygyddion a chyfranwyr er mwyn trosglwyddo rhifynnau newydd i\u2019w cynhyrchu. Mae Chris yn gyfrifol am freindaliadau a rheoli data GPC, a sicrhau bod awduron yn derbyn eu taliadau trwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal \u00e2 thasgau eraill, mae hefyd yn delio gyda cheisiadau caniat\u00e2d a Mynediad Agored ar gyfer cyhoeddiadau GPC.<\/p>\n<p>Cyn ymuno \u00e2\u2019r Wasg yn 2016, roedd Chris yn gynorthwyydd llyfrgell, ac astudiodd Lenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abersytwyth a Phrifysgol Warwick.<\/p>\n<p><strong>CALEB WOODBRIDGE <\/strong>(Cyhoeddwr &#8211; Calon)<\/p>\n<p class=\"x_MsoNormal\"><span class=\"markaof8ynbso\" data-markjs=\"true\" data-ogac=\"\" data-ogab=\"\" data-ogsc=\"\" data-ogsb=\"\">Caleb<\/span> yw Cyhoeddwr Calon, argraffnod masnach GPC (a lansiwyd yn 2022), sy&#8217;n rhannu straeon o Gymru gyda phedwar ban byd. Mae\u2019n mwynhau cydweithio gydag awduron i lunio straeon a syniadau clir a chymhellol i gynulleidfaoedd eang. Cyn ymuno \u00e2 Calon yn 2024, roedd <span class=\"markaof8ynbso\" data-markjs=\"true\" data-ogac=\"\" data-ogab=\"\" data-ogsc=\"\" data-ogsb=\"\">Caleb<\/span> yn Gyfarwyddwr Cyhoeddi Inter-Varsity Press UK, a chyn hynny bu&#8217;n gweithio i gwmn\u00efau cyhoeddi Scripture Union, Hodder a Seren Books. Mae ganddo hefyd gefndir mewn cynnwys digidol, marchnata a datblygu gwe, gan gynnwys gweithio fel Swyddog Cyfathrebu Digidol i Media Cymru ac fel Pennaeth Profiad Digidol i Brifysgol Buckingham.<\/p>\n<p class=\"x_MsoNormal\">Magwyd\u00a0<span class=\"markaof8ynbso\" data-markjs=\"true\" data-ogac=\"\" data-ogab=\"\" data-ogsc=\"\" data-ogsb=\"\">Caleb<\/span> yng ngogledd Cymru cyn symud i astudio Llenyddiaeth Saesneg a Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Dychwelodd i gwblhau MA mewn Llenyddiaeth Saesneg yno a chanolbwyntio ar lenyddiaeth plant a chanoloesoldeb. Mae hefyd yn hoff iawn o ffuglen wyddonol a ffantasi, yn enwedig <i>Doctor Who<\/i>. Ysgrifenna <span class=\"markaof8ynbso\" data-markjs=\"true\" data-ogac=\"\" data-ogab=\"\" data-ogsc=\"\" data-ogsb=\"\">Caleb<\/span> am them\u00e2u ysbrydol ac athronyddol mewn diwylliant pop yn ei gylchlythyr <i>Bigger on the Inside<\/i>, ac mae wedi cyhoeddi erthyglau mewn amrywiol gyfnodolion, cylchgronau a gwefannau. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dychymyg a chreadigrwydd, ac yn rhan o gr\u0175p celfyddydol lleol Morphe Cymru.<\/p>\n<p><strong>ADAM BURNS <\/strong>(Cynorthwyydd Cynhyrchu a Golygyddol)<\/p>\n<p>Fel Cynorthwyydd Cynhyrchu a Golygyddol, mae Adam yn cynorthwyo\u2019r Rheolwr Cynhyrchu a Golygydd y Wasg i hwyluso\u2019r broses gynhyrchu. Yn y swydd hon, mae\u2019n ofynnol i greu a chynnal perthynas gyda chyflenwyr gan gynnwys dylunwyr, argraffwyr a chysodwyr, eu briffio ar holl rannau\u2019r broses gynhyrchu, a chydweithio gyda chyflenwyr, awduron a\u2019r adran gynhyrchu yn fewnol i sicrhau cyfathrebu cyson a chwblhau swyddi o fewn terfynau amser. Yn ogystal, mae\u2019n gyfrifol am brosesu anfonebau i gyflenwyr; canfod, trwyddedu a gwirio ansawdd lluniau; a chynnal yr amserlen gynhyrchu i sicrhau bod cyhoeddiadau\u2019r Wasg yn parhau o\u2019r ansawdd gorau.<\/p>\n<p>Gyda diddordeb brwd mewn Llenyddiaeth Gymreig, mae gan Adam radd MA mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Bangor, gyda thraethawd hir yn manylu ar Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg y 1960au. Cyn ymuno \u00e2\u2019r Wasg, cwblhaodd gyfnodau profiad gwaith gyda chyhoeddwyr Little, Brown Book Group, Parthian Books a Penguin Random House.<\/p>\n<p><strong>GEORGIA WINSTONE\u00a0<\/strong>(Cynorthwyydd Gwerthiant a Marchnata)<\/p>\n<p>Mae Georgia yn cefnogi\u2019r adran Werthiant a Marchnata i sicrhau bod pob llyfr a chyfnodolyn yn cyrraedd y gynulleidfa darged a\u2019i botensial gwerthiant llawn. Fel Cynorthwyydd Gwerthiant a Marchnata, mae\u2019n bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gwerthiant a marchnata, yn dosbarthu cop\u00efau adolygu, mynychu cynadleddau academaidd, gofalu am gywirdeb metadata, ac yn rheoli presenoldeb y Wasg a Calon ar y cyfryngau cymdeithasol.<\/p>\n<p>Cyn ymuno \u00e2 GPC yn 2022, graddiodd Georgia o Brifysgol Efrog gyda BA (Anrh) mewn Saesneg a Llenyddiaeth Gysylltiedig yn 2019, gan ganolbwyntio ar lenyddiaeth ganoloesol. Aeth ymlaen i dderbyn MA mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Caerdydd yn 2020 gan edrych ar Lenyddiaeth Gymraeg yn Saesneg. Mae ganddi brofiad o weithio mewn siopau llyfrau ac mewn marchnata cynnyrch, ac mae hefyd wedi gweithio ar leoliadau gyda Penguin Random House a G\u0175yl y Gelli.<\/p>\n<p><span style=\"color: #ffffff;\">.<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>NATALIE WILLIAMS (Cyfarwyddwraig) Daw Natalie \u00e2 dealltwriaeth eang o\u2019r byd cyhoeddi i\u2019w r\u00f4l fel Cyfarwyddwraig y Wasg. Graddiodd ag Anrhydedd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Southampton, a dechreuodd ei gyrfa gyhoeddi ym maes Cyfraith academaidd yng Ngwasg Prifysgol Rhydychen. Yna symudodd i Nelson Thornes, lle bu\u2019n Uwch Gyhoeddwr yn gyfrifol am y portffolio<\/p>\n<p class=\"read-more\"><a class=\"btn\" href=\"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/amdanom-ni\/aelodaur-tim\/\" rel=\"nofollow\">Darllen mwy <i class=\"fa fa-chevron-right\"><\/i><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":29700,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/29694"}],"collection":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=29694"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/29694\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":146025,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/29694\/revisions\/146025"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/29700"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/uwp.celfapps.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=29694"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}