Thomas Pennant

Cysylltiadau Cymreig

Awdur(on) Ffion Mair Jones

Iaith: Cymraeg

Dosbarthiad(au): History, Environment, Wales Studies, Welsh Language

  • Awst 2025 · 400 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781837722914
  • · eLyfr - pdf - 9781837722921
  • · eLyfr - epub - 9781837722938

Ar drothwy trichanmlwyddiant ei enedigaeth, mae'r gyfrol hon yn cyflwyno’r astudiaeth lawn gyntaf o Thomas Pennant, y naturiaethwr a'r teithiwr o Sir y Fflint, ar gyfer cynulleidfa Gymraeg ei hiaith. Er gwaethaf ei fri rhyngwladol yn ei ddydd, esgeuluswyd Pennant yn ddiweddarach gan ei gydwladwyr mewn cof niwlog fel ‘teithiwr’. Cynigir yma ddarlun mwy cymhleth sy’n cydnabod ei le fel un o feddylwyr polymathig yr Oleuedigaeth, â’i ddiddordebau’n rhychwantu byd natur, celf a hynafiaethau. Edrychir ar y Cymry allweddol a ddylanwadodd ar ei waith – o Forrisiaid Môn, sylfaenwyr Cymdeithas y Cymmrodorion, hyd at John Lloyd, rheithor rhadlon Caerwys, a’r artist Moses Griffith o Ben Llŷn. Wrth bendroni sut y ciliodd Pennant o olwg ei gyd-Gymry, ystyrir argyfwng adroddiad y Llyfrau Gleision a’r wleidyddiaeth ieithyddol a ddaeth yn ei sgil, cyn ymddangosiad cyfieithiad llawn yn y Gymraeg o’r Teithiau yng Nghymru, ganrif wedi marwolaeth yr awdur. Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu dan y Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-NonCommercial-NoDerivatives 4.0. I weld copi o'r drwydded hon, ewch i: http://creativecommons.org/licenses/bync-nd/4.0/ neu anfonwch lythyr at Creative Commons, PO Box 1866, Mountain View, CA 94042, UDA.

Delweddau

Rhagair

Cydnabyddiaeth

Rhagymadrodd

Pennod 1 - Y Brodyr a’r ‘Bennant’: Thomas Pennant a Morrisiaid Môn

Pennod 2 - ‘Fy ngenedigol wlad’: Y teithiwr Thomas Pennant a’r Teithiau yng Nghymru

Pennod 3 - ‘[F]y nghydymaith teilwng a diflino …’: Thomas Pennant a John Lloyd, Caerwys

Pennod 4 - ‘Fy nhrysor’: Moses Griffith a Thomas Pennant

Pennod 5 - Gwaddol yr ‘enwog Mr. Pennant’: Cynnal a chyfieithu, 1828–68

Pennod 6 - John Rhŷs a’r Teithiau yn Nghymru

Llyfryddiaeth: Llawysgrifau

Llyfryddiaeth: Gwefannau

Llyfryddiaeth Ddethol

-
+

SÊL BLWYDDYN NEWYDD! 70% o Ostyngiad